Darlith Owain Glyndŵr i ffurfio rhan o Gwychoniaeth
31 Mawrth 2009
Bydd y rhyfelwr a’r ysgolhaig chwedlonol Owain Glyndŵr yn dod i ymweld yn arbennig â’r brifysgol a enwyd ar ei ôl y dydd Sadwrn yma.
Mae darlith fer wedi’i dramateiddio am ei fywyd, brwydrau, a’r dirgelwch sy’n amgylchynu ei etifeddiaeth wedi cael ei hysgrifennu gan fyfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr mewn pryd ar gyfer y sbloets wyddonol Gwychoniaeth.
Yn ystod y digwyddiad yng nghanolfan gynadledda a chelfyddydau perfformiadol £3 mewydd y Brifysgol, bydd Glyndŵr yn sôn am ei ddyrchafiad i statws Tywysog Cymru hunanhonedig a’r digwyddiadau a arweiniodd at ei wrthryfel gynllunedig yn erbyn rheolaeth Lloegr dros Gymru.
Mae ei ymweliad wedi cael ei drefnu i goffáu Blwyddyn Ddathlu Prifysgol Glyndŵr, sef blwyddyn o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn dathlu ei statws newydd.
Ffurfiwyd y Brifysgol yng Nghorffennaf 2008 pan ddyfarnwyd statws prifysgol i Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI). Y mae’n bartner blaenllaw yng Ngŵyl Wyddoniaeth Wrecsam.
Meddai Sally Harrison, Darlithydd Dyniaethau ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Rydym wedi dod â myfyrwyr Cysylltiadau Cyfryngol a myfyrwyr Theatr a Chelfyddydau Perfformiadol at ei gilydd gyda’r bwriad o ddathlu ac adfer etifeddiaeth Owain Glyndŵr. Rydym yn cynnig agwedd adloniadol a fydd gobeithio yn dod â’r cymeriad yma yn fyw i bawb a ddaw i wylio.
“Wrth gwrs, mae gennym benrhyddid artistig a byddwn yn croesawu pobl, gan gynnwys haneswyr (ar yr amod eu bod yn addo peidio â heclo) i ddod draw i ymuno yn yr hwyl a chofleidio ysbryd byw yr arwr lleol yma a roddodd ei enw i Brifysgol Glyndŵr.”
Mae Gwychoniaeth yn para rhwng 10.00am a 4.00pm ar ddydd Sadwrn 4 Ebrill yn safle Plas Coch Prifysgol Glyndŵr ac yn cynnwys mwy na 50 o arddangoswyr yn cynnig arddangosiadau ac arddangosion gwyddonol ymarferol.
Ymhlith yr atyniadau eleni y mae arth wen maint-llawn, cwstard bownslyd ac anifeiliaid byw, ynghyd â sioeau gwyddoniaeth trawiadol megis y Sioe Swigod a Hudoliaeth Gwyddoniaeth.
Mae mynediad i Gwychoniaeth yn £6 i oedolion, £4 i blant, £15 i deuluoedd a £3 yr un i grwpiau wedi’u trefnu o dros 10 o bobl.
Bydd pob ymwelydd â Gwychoniaeth yn cael mynediad am ddim i 'Owain Glyndŵr – Mab Tynged'. Llwyfennir dwy sioe o’r ddarlith fer wedi’i dramateiddio yma yng nghanolfan gynadledda a chelfyddydau perfformiadol Prifysgol Glyndŵr, am 11.30am a 1.30pm. Gellir cael tocynnau mynediad i’r digwyddiad yma o brif dderbynfa Prifysgol Glyndŵr o flaen llaw.
Am fwy o wybodaeth am Gwychoniaeth, gweler gwefan Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam.
