Mae myfyrwyr technoleg cerddoriaeth ym Mhrifysgol Glyndŵr yn derbyn tips cynhyrchu blaengar gan un o’r goreuon yn y busnes – DJ Graeme Park.
Mae Park, a fu’n droellwr disgiau preswyl yng nghlwb nos chwedlonol yr Hacienda ym Manceinion am dros 10 mlynedd, yn troi ei law at ddarlithio yn dilyn gyrfa 25 mlynedd yn teithio’r byd fel troellwr disgiau mewn clybiau nos.
Gofynwyd iddo addysgu myfyrwyr sy’n astudio technoleg cerddoriaeth gan un o ddarlithwyr technoleg sain y Brifysgol, John Reynolds, sy’n treulio blwyddyn sabothol ar brosiect diwydiant – ac roedd yn fwy na bodlon i helpu.
“Rydw i’n wastad wedi gweithio gyda myfyrwyr cerddoriaeth ond yn fwy o ran siarad am fy ngyrfa, felly roeddwn i fymryn yn betrus am y cyfle i ddechrau,” meddai Park, sydd hefyd wedi cael sioeau ar Kiss, Key 103 a Radio City Lerpwl.
“Ond mae wedi gweithio allan yn wych. Pan ddes i yma ar gyfer fy narlith gynta roedd y profiad ychydig fel chwarae mewn clwb. Rydych chi’n cyrraedd yno awr o flaen llaw ac yn cael teimlad am yr hyn yr ydych chi’n mynd i’w chwarae – a dyna’n union beth wnes i yma. F ddes i o hyd i fy rhigol yn eitha buan.
“Mae’n rhoi’r cyfle i mi drosglwyddo rhai sgiliau technegol am gynhyrchu ac ailgymysgu traciau, ynghyd â blynyddoedd o wybodaeth a chyngor yn sgil gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth. Rydw i wir yn mwynhau.”
Mae Park, 46, yn darlithio ar y cwrs un diwrnod yr wythnos tra’n parhau i weithio fel DJ ar benwythnosau – gyda gigs yn Dubai, Dundee, Skegness, Coalville, Middlesbrough a Manceinion ganddo ym mis Rhagfyr.
Mae ei waith gyda myfyrwyr yn cynnwys eu cyflwyno i gelfyddyd cynhyrchu cerddoriaeth, dangos iddynt sut y mae wedi newid dros amser ac i ba gyfeiriad y bydd yn mynd yn y dyfodol.
Maent hefyd yn elwa o’i gysylltiadau yn y diwydiant. Mae Park wedi galluogi’r myfyrwyr i gael gafael ar draciau meistr gwreiddiol i greu eu hailgymysgiadau eu hunain a chael profiad o roi trac wedi’i gynhyrchu a’i recordio’n broffesiynol at ei gilydd. Hyd yma, ame’r rhain wedi cynnwys Mercy gan Duffy a That’s Not My Name gan The Ting Tings.
Ychwanegodd: “Ar ôl 25 mlynedd o deithio o gwmpas y byd yn chwarae cerddoriaeth, rydw i’n meddwl ’mod i wedi dysgu llawer am bethau a fydd o fudd i unrhyw un sy’n gobeithio cael gyrfa mewn cerddoriaeth – boed hynny fel peiriannydd sain, cynhyrchydd cerddoriaeth neu gyfansoddwr caneuon – a phethau na fyddwch o angenrhaid yn eu dysgu o lyfr.
“Un o’r pethau yr ydw i bob amser yn eu bwysleisio i’r myfyrwyr yw gymaint o wahanol gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yn y diwydiant cerddoriaeth. Tra’u bod nhw’n dal i astudio, ’dyw llawer ohonyn nhw ddim yn gwybod yn union beth maen nhw eisiau ei wneud – gweithio mewn stiwdios recordio, hyrwyddiadau, rheolaeth neu hunangyflogaeth. Mae fy ngyrfa i wedi datblygu yn y fath fodd fel ’mod i wedi profi’r rhain i gyd, a gobeithio y gallaf eu helpu mewn rhyw ffordd tra’u bod yn penderfynu pa lwybr i’w gymryd.”
Mae gwaith Park ym Mhrifysgol Glyndŵr wedi dod ag ef i brifysgol o’r diwedd, dros ddau ddegawd ar ôl iddo fwriadu mynd i brifysgol yn gyntaf.
“Roeddwn i wedi bwriadu mynd i Manceinion i astudio ar gyfer gradd mewn cymdeithaseg a gwleidyddiaeth pan oeddwn yn fy ugeiniau, ond cymrais flwyddyn allan i ganolbwyntio ar fod yn DJ, ac mae’r gweddill, chwedl hwythau, yn hanes. Roedd fy ffi yn codi, roeddwn yn cael cynnig mwy a mwy o gigs – gigs mwy – yna daeth gwaith radio a’r Hacienda. Wnes i ddim trafferthu ar ôl hynny.
“Rydw i’n gobeithio gwneud gradd ymchwil rhywbryd, er nad ydw i wedi penderfynu pa bwnc i ganolbwyntio arno eto.”
Am fwy o wybodaeth am y cwrs BA (Anrh) Technoleg Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Glyndŵr, ewch i www.glyndwr.ac.uk neu ffoniwch 01978 293439
Diwedd