Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cynnydd mewn ceisiadau ym Mhrifysgol Glyndŵr

28 Ebrill 2009

Mae’r ffigurau cais ym Mhrifysgol Glyndŵr yn adlewyrchu’r cynnydd presennol mewn ceisiadau i brifysgolion ledled Cymru a Lloegr. 

Yn safleoedd diweddar y Times Higher Education, roedd y Brifysgol yn neg uchaf sefydliadau’r DU am dwf, gyda’r cynnydd uchaf mewn ceisiadau yng Nghymru (23% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol).

Meddai Graeme Wilkinson, Dirprwy-Is Ganghellor (Materion Academaidd) ym Mhrifysgol Glyndŵr University: “Fel un o brifysgolion mwyaf newydd y DU rydym wedi paratoi ar gyfer twf, ac wedi gweld cynnydd yn ein ceisiadau ym mhob maes.

“Mae yna lefydd yn dal ar gael ac mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau ar gyfer cyrsiau sy’n cychwyn ym mis Medi 2009.

“Wedi’u gyrru gan amodau economaidd anodd, mae pobl yn mynd ati i newid eu llwybrau gyrfaol neu ychwanegu sgiliau newydd a gwell er mwyn hybu eu cyflogadwyedd.

“Rydym hefyd wedi sylwi ar duedd mewn darpar fyfyrwyr sy’n gwneud ceisiadau am gyrsiau rhan-amser a galwedigaethol a allai fod o fudd i’w cyflogadwyedd wrth iddynt geisio gwella eu setiau sgiliau a diogelu dyfodol eu rhagolygon ar gyfer yr adeg pan fydd yr economi yn dechrau gwella. 

“Wrth gynnig rhaglenni llawn a rhan-amser traddodiadol rydym yn cydweithio’n agos iawn gyda busnesau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn yr ardal er mwyn sicrhau fod ein myfyrwyr yn cael eu haddysgu gyda sgiliau ac arbenigedd sy’n gallu cyflenwi manteision go iawn i economi’r ardal.  

“Rydym hefyd yn cynnig rhaglenni wrth fesur i’r cyflogwyr lleol sy’n gallu bod o fudd uniongyrchol i’w perfformiad.”

Cysylltwch â’r Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr ar 01978 293439, ebostiwch sid@glyndwr.ac.uk neu gweler ein rhestr lawn o gyrsiau israddedig ar-lein.

Cysylltwch a ni