Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cynhadledd ymchwil marchnata yn cael ei chynnal yn y brifysgol

16 Ionawr 2009
Cynhadledd ymchwil marchnata yn cael ei chynnal yn y brifysgol

Pwysigrwydd cynyddol ymchwil ansoddol ym marchnata’r 21ain ganrif oedd ffocws cynhadledd Academi Farchnata ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Gwnaeth grŵp ymholiad buddianau ansoddol yr Academi, sy’n deillio o’r Sefydliad Marchnata Siartredig, gyfarfod yn Oriel 103 y brifysgol ddydd Gwener 16 Ionawr i drafod pa mor werthfawr yw dulliau ymchwil fel grwpiau ffocws dros ymchwil feintiol draddodiadol.

Roedd siaradwyr yn yr ‘Ymholiad Ansoddol Mawr’ yn cynnwys Jim Blythe, cadeirydd y grŵp buddiannau, David Carson, Athro Marchnata ym Mhrifysgol Ulster, a Mike Saren, Athro Marchnata yng Nghanolfan Reolaeth Prifysgol Caerlŷr.

Meddai Mr Blythe: “Erbyn hyn mae ymchwil marchnad masnachol cyfredol wedi symud tuag at ben ansoddol y sbectrwm – yn hytrach na meintiol – am y rheswm syml ei fod yn gweithio’n well.  

“Yn y pedwar etholiad cyffredinol diwethaf, methodd polau piniwn â rhagweld y canlyniad yn gywir, ond fe wnaeth grwpiau ffocws. Dengys hyn mai ymchwil ansoddol yw’r ffordd ymlaen.

“Mae’r grŵp ymholiad ansoddol yn un o’r rhai mwyaf unigryw yn yr Academi Farchnata gan fod arbenigwyr o bob maes marchnata yn cael ymuno ac elwa o’n cyfarfodydd.

“Yr Academi Farchnata yw’r grŵp mwyaf clodfawr yn y DU i ysgolheigion prifysgol fod yn gysylltiedig ag ef ar hyn o bryd.

“Mae prifysgolion yn ymwneud â mwy na dim ond addysgu. Maent yn ymwneud ag ymchwil a chreu a lledaenu gwybodaeth. Mae’r grŵp yn ffordd wych o ddod â syniadau ynghyd a meddwl am arfer gorau mewn ymchwil ansoddol mewn marchnata.”

Meddai’r Athro Graeme Wilkinson, Dirprwy Is-Ganghellor o Brifysgol Glyndŵr: “Roedd yn anrhydedd croesawu’r Academi Farchnata i Brifysgol Glyndŵr am y tro cyntaf. Fel prifysgol, mae gennym ddiddordeb mawr mewn dulliau ymchwil ansoddol – yn arbennig ym marchnata a’r ysgolion iechyd ac addysg. Mae marchnata yn hynod o bwysig, yn enwedig mewn amseroedd o ddirwasgiad, felly roedd yn bleser cynnal cyfarfod mor bwysig a fydd yn helpu i fynd ag ymchil marchnata ansoddol yn ei blaen.”  

Cysylltwch a ni