|
|
Cyfle i Deithio Trwy Amser ar Drên Wrecsam a Swydd Amwythig7 Rhagfyr 2009Mae Prifysgol Glyndŵr a rheilffordd Wrecsam a Swydd Amwythig yn cynnig cyfle unigryw i gyfuno ychydig o siopa Nadolig yn y brifddinas gyda thaith yn ôl mewn amser. Ar y 15fed o Ragfyr, bydd teithwyr ar y gwasanaeth uniongyrchol Wrecsam - Llundain yn gallu mwynhau darlith am Hanes Llundain gan y darlithydd Rod Playford o Brifysgol Glyndŵr. Bydd y teithwyr yn gallu mynd ar y trên 07.23 o Wrecsam i orsaf Marylebone yn Llundain gyda’r darlithydd o Brifysgol Glyndŵr, Rod Playford, am sesiwn ddwyawr o hanes Llundain, yn archwilio pynciau fel Llundain Samuel Pepys, Christopher Wren ac ailadeiladu’r ddinas ar ôl y tân mawr a’r modd y cafodd y Brifddinas ei llunio gan y Tuduriaid Cymreig. Mae’r llefydd yn gyfyngedig, a gall teithwyr gofrestru am bris gostyngedig o £40 yn unig. Bydd y sgwrs yn cael ei rhoi trwy glustffonau a ddarperir ar y trên. Bydd y teithwyr yn cyrraedd Llundain gyda digonedd o amser i gael golwg o gwmpas rhai o safleoedd hanesyddol enwog Llundain neu fwynhau ychydig o siopa Nadolig. Ac, os na fydd yr holl hanes yna yn ddigon, fe allent ymweld â rhai o brif amgueddfeydd Llundain fel y V&A neu’r Amgueddfa Hanes Naturiol. Bydd Rod Playford hefyd ar gael ar y daith yn ôl o Lundain am 18.33 i sgwrsio am ddarlith y bore ac i ateb unrhyw gwestiynau. Trefnwyd y digwyddiad gan Suzanne Riley, Rheolwraig Masnachol yn Arloesiadau Glyndŵr. Meddai, “Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth gwahanol a fyddai’n dangos i bobl nad oes yn rhaid i addysg ddigwydd mewn ystafell ddosbarth neu ddarlithfa yn unig. "Yn y dyfodol, fe hoffem gynnig pynciau eraill fel y gall pobl wneud y mwyaf o’u hamser wrth deithio a dysgu pethau diddorol.” Meddai Thomas Ableman, Cyfarwyddwr Marchnata Wrecsam a Swydd Amwythig: “Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i wneud teithio i Lundain yn fwy pleserus i deithwyr ac mae’n bleser gennym weithio gyda Phrifysgol Glyndŵr a Phartneriaeth Reilffordd Caer/Swydd Amwythig ar brosiect mor arloesol. "Mae Llundain yn ddinas ddiddorol dros ben gyda chymaint o hanes iddi, a pha ffordd well o ddysgu amdano nag wrth i chi deithio. Rydym yn disgwyl i hyn fod yn boblogaidd felly cynghorir i chi archebu eich lle cyn gynted â phosib er mwyn osgoi cael eich siomi.” Bydd ail drên hanes yn rhedeg ym mis Ionawr, sy’n golygu na fydd y rhai a fethodd fynd ym mis Rhagfyr yn colli allan. Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle ar naill daith neu’r llall, cysylltwch â Suzanne Riley ar Tel 01978 293007 neu ewch i’r wefan: glyndwrinnovations.co.uk |
|