Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Comisiynu cyfansoddwr i gyfansoddi cerddoriaeth i’r Brifysgol

18 Chwefror 2009
Comisiynu cyfansoddwr i gyfansoddi cerddoriaeth i’r Brifysgol

Mae cyfansoddwr arobryn wedi cyfansoddi pedair ffanffer band pres, wedi’i ysbrydoli gan yr arwr Cymreig Owain Glyndŵr, i nodi sefydlu Prifysgol Glyndŵr.

Comisiynwyd Owain Llwyd, a aned yng Nglyndyfrdwy, ger Corwen, i gyfansoddi Ffanfferau Glyndŵr cyn digwyddiad y Brifysgol yn Wrecsam ar ddydd Sadwrn yr 28ain o Chwefror.

Mae’r darnau – a elwir yn Deffroad, Dilyniant, Undod a Gweledigaeth – yn myfyrio ynghylch breuddwyd Owain Glyndŵr o Gymru fel cenedl, yn hunanlywodraethol gyda’i sefydliadau a’i phrifysgolion ei hun.

Urddwyd Mr Llwyd â’r Wisg Wen yn Ngorsedd y Beirdd yn 2004 am ei wasanaethau i gerddoriaeth yng Nghymru. Mae wedi cyfansoddi i Gerddorfa Symffoni Llundain ac i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ac mae ei gerddoriaeth i’r teledu wedi ymddangos ar ITV, Channel 4, S4C, y BBC a Sky.

Dywedodd Owain ei fod yn falch iawn o fod yn rhan o’r bennod gyntaf hon ym mywyd Prifysgol Glyndŵr.

“Roedd yn fraint fawr i mi gael fy nghomisiynu gan Brifysgol Glyndŵr i gyfansoddi  cerddoriaeth newydd ar gyfer y digwyddiad hanesyddol yma, ac roeddwn yn gynhyrfus iawn yn ei gylch,’ meddai. “Nid pob dydd y mae prifysgol newydd yn dod i fodolaeth, heb sôn am un sy’n dwyn enw arwr mwyaf Cymru, Owain Glyndŵr. Rwyf yn rhannu ei enw cyntaf a chefais fy magu ar ei diroedd yng Nglyndyfrdwy, ac mae hynny wedi fod yn ffynhonnell barhaus o ysbrydoliaeth i mi.”

Yn ogystal â’r ffanfferau, mae Owain wedi cyfansoddi Gobaith Glyndŵr/The Hope of Glyndŵr i goffáu sefydlu Prifysgol Glyndŵr.

Cyfansoddwyd y gwaith yn benodol ar gyfer y bariton bydenwog o Gymro, Jeremy Huw Williams, yr organydd Mervyn Cousins, Côr Cadeirlan Llanelwy dan arweiniad Alan McGuinness, a Band Pres Wrecsam Glyndŵr. Mae’n cynnwys geiriau dwyieithog wedi’u cyfansoddi gan y bardd a’r ysoglhaig o Brifysgol Bangor, Peredur Glyn.

Yr Athro Kate Sullivan, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Glyndŵr, a ddatblygodd y rhaglen o gerddoriaeth ar gyfer y digwyddiad ynghyd â’r Athro Peter Toyne, sy’n aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Glyndŵr.

“Bydd y gerddoriaeth yn gweddu i’r achlysur,” meddai. “Bydd yn fraint i ni gael cwmni ffigyrau mor amlwg o fyd cerddoriaeth i’n helpu ni i ddathlu’r diwrnod arbennig yma.”

Dyfarnwyd y statws Prifysgol ffurfiol gan Gyfrin Gyngor Ei Mawrhydi ar y 3ydd o Orffennaf 2008 a’i gyhoeddi gan y Prif Weinidog Rhodri Morgan mewn seremoni a gynhaliwyd yr un mis.

Sefydlu’r Brifysgol a gorseddu’r Canghellor a’r Is-Ganghellor yw dechrau blwyddyn o ddathlu i’r brifysgol. 

Disgwylir i fwy na 500 o urddasolion a fu’n gysylltiedig â’r brifysgol dros y blynyddoedd i fynychu’r achlysur, a fydd yn dechrau gyda seremoni yn Eglwys Gadeirlan Santes Fair y Gofidiau ac yn dod i ben gyda’r seremonïau sefydlu a gorseddu yn Eglwys Plwyf San Silyn.  

Bydd gorymdaith academaidd ar y diwrnod, sef dydd Sadwrn yr 28ain o Chwefror, yn tarfu’n fyr ar lif y traffig wrth gyffordd Ffordd yr Wyddgrug ble lae Ffordd Grosvenor, Ffordd Bradle a Stryt y Rhaglaw yn cyfarfod. Bydd hyn rhwng 11.20am-11.30am ac yna eto rhwng 1.15pm-1.30pm. Bydd traffig yn llifo fel arfer tu allan i’r amseroedd hyn.

Cysylltwch a ni