Cefnogaeth ragorol i nyrsys iechyd meddwl y dyfodol yn cael ei chydnabod mewn seremoni wobrwyo
10 Mehefin 2009
Dyfarnwyd gwobr fawreddog i ddyn o Wrecsam mewn cydnabyddiaeth o’i ymdrechion i helpu i hyfforddi cenhedlaeth newydd o nyrsys iechyd meddwl.
Gwnaeth nyrsys dan hyfforddiant sy’n dysgu eu galwedigaeth dan aden Jim Stillings, nyrs iechyd meddwl yn uned Llwyn y Groes yn Ysbyty Wrecsam, ei enwebu ar gyfer un o’r Gwobrau Rhagoriaeth mewn Ymarfer cyntaf erioed o Brifysgol Glyndŵr.
Crëwyd y gwobrau gan y Brifysgol i gydnabod y cyfraniad rhagorol a wneir gan ymarferwyr gofal iechyd presennol wrth ddatblygu ymarferwyr yfory.
Mae Jim, sy’n byw yn Southsea ac yn gweithio ar ward Hafod Llwyn y Groes, wedi bod yn fentor i fyfyrwyr sy’n astudio ar y cwrs arbenigedd Iechyd Meddwl, BN (Anrh) Nyrsio (cyn-cofrestru) yn y Brifysgol a fu ar leoliadau yn yr ysbyty fel rhan o’u hyfforddiant.
“Gall nyrsio iechyd meddwl fod yn waith caled iawn,” meddai Jim, sydd wedi gweithio fel mentor ers pum mlynedd. “Os nad yw’r myfyrwyr yn ei fwynhau yna mae’n wastraff amser, felly rydw i’n trio gwneud yn siŵr eu bod yn cael y profiad gorau posib. Fel mentor, mae nyrs dan hyfforddiant yn cael ei aseinio i weithio gyda mi ac yna maen nhw’n fy nilyn i o gwmpas ym mhopeth yr ydw i’n ei wneud, ar yr amod fod y claf yn fodlon. Mae’n un o’r ffyrdd gorau i ddysgu am nyrsio iechyd meddwl ac, yn dibynnu ble mae’r myfyrwyr arni gyda’u cwrs gradd, fe allent fod yn gweithio ar unrhyw dasg yn yr ward. Gallai myfyrwyr trydedd flwyddyn fod yn gwneud popeth yr ydw i’n ei wneud mewn diwrnod o waith.”
Ychwanegodd Jim, sy’n nyrs gymwysedig ers wyth mlynedd: “Rydw i’n falch iawn o dderbyn y wobr yma a hoffwn ddiolch i’m cydweithwyr i gyd ar ward Hafod yn Llwyn y Groes am ei gwneud yn amgylchedd dysgu a gweithio dymunol.”
Roedd Jim yn un o ddau fentor nyrsys i gael eu cyflwyno gyda Gwobr Rhagoriaeth mewn Ymarfer mewn cynhadledd – Mentoriaid Modern ac Athrawon Ymarfer mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol – a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Dyfarnwyd yr ail wobr i Nicola Vickers, o Ward Evington yn Ysbyty Wrecsam Maelor.
Daeth y gynhadledd, a gefnogwyd gan y grŵp ailsefydlu seiciatryddol Cambian Healthcare, Wulf Fund a’r Coleg Nyrsio Brenhinol, â myfyrwyr a mentoriaid o bob rhan o’r sector gofal iechyd ynghyd i rannu syniadau a gwrando ar siaradwyr gwadd. Roedd y rhai a fynychodd yn cynnwys nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol ac osteopathiaid.
Meddai Alex Carson, pennaeth yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Bydd prif fyrdwn gofal iechyd yng Ngogledd Cymru yn wastad yn ymwneud â gwella ansawdd bywyd pobl sy’n byw yn yr ardal. Digwyddiadau fel hyn sy’n dod ag ysgolheigion a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn ymarfer at ei gilydd sy’n gwneud byd o wahaniaeth.”
Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig ystod o raglenni gradd proffesiynol gan gynnwys nyrsio, gwaith cymdeithasol a therapi galwedigaethol. Yn ogystal, cyflenwir ystod o gyrsiau mewn arbenigeddau megis nyrsio ysgol, nyrsio plant cymunedol, nyrsio meddygfa, ymweld iechyd a nyrsio ardal, ynghyd ag iechyd meddwl a nyrsio oedolion.
Gweler mwy o wybodaeth am gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig mewn iechyd a gofal cymdeithasol ym Mhrifysgol Glyndŵr
