Canolfan ymchwil yn sicrhau arian er mwyn datblygu ‘peiriannau clyfar’
24 Mawrth 2009
Mae ymchwilwyr blaenllaw ym Mhrifysgol Glyndŵr gam yn nes at gwblhau prototeip er mwyn galluogi pobl hŷn i fyw bywydau hirach a mwy annibynnol.
Mae Canolfan y Brifysgol ar gyfer Ymchwil Ryngrwyd Gymwysedig (CAIR), a aseswyd yn ddiweddar i fod yn rhynglwadol flaenllaw gan yr RAE (Ymarfer Asesu Ymchwil), wedi sicrhau grant cyllido UE gwerth £350,000 i ddatblygu technolegau sy’n ysgafnhau baich poblogaeth sy’n heneiddio.
Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu technolegau datblygol newydd a fydd yn rhyngweithio gyda pheiriannau clyfar, megis oergelloedd, peiriannau golchi llestri, peiriannau golchi a phoptai deallus, trwy system ‘e-was’ ganoledig. Bydd yr ‘e-was’ yn cynghori pa bryd y mae peiriannau yn cael eu defnyddio’n anghywir neu pan fydd yna berygl.
Er enghraifft, bydd yr oergell glyfar yn gallu dweud os yw’r bwyd wedi cyrraedd ei ddyddiad defnyddio neu pa fwyd y gellir ei fwyta yn unol â chyflwr hysbys fel clefyd siwgr. Yn ogystal, bydd peiriannau golchi yn gallu darllen label dillad a phenderfynu pa raglen olchi sy’n cydfynd orau gyda’r dillad y mae’r defnyddiwr wedi eu rhoi i mewn. Enghraifft arall yw’r defnyddwyr yn cael eu rhybuddio os yw’r popty wedi cael ei adael ymlaen neu os oes tân wedi ei ddarganfod.
O dan yr enw Easy Line Plus, mae’r prosiect yn gweithredu wrth i RFID, synwyryddion, deallusrwydd artiffisial a rhyngwynebau peiriant dynol gyfuno i greu system sy’n gallu dal data o’r gegin a rheoli peiriannau’r cartref. Yr e-was yw’r deallusrwydd artiffisial sy’n rheoli’r nwyddau gwynion, yn seiliedig ar wybodaeth synhwyrydd a rhyngweithio’r defnyddwyr.
Ymchwilwyr yn CAIR sy’n gyfrifol am ddatblygu rhyngwynebau peiriant dynol sy’n galluogi pobl hŷn gyda gwahanol alluoedd corfforol a dirnadol i ddefnyddio’r peiriannau clyfar yn rhwydd. Mae’r rhyngwynebau ar ffurf rheolaeth o bell, teledyddion, ffonau symudol a ffoto-fframiau digidol, ac maent yn rhyngwynebu gyda’r ‘e-was’ i anfon diweddariadau i’r defnyddwyr.
Gallai’r dechnoleg chwarae rhan allweddol mewn ysgafnhau’r baich y mae’r boblogaeth sy’n heneiddio yn ei roi ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol. Erbyn 2050, bydd y nifer o bobl dros 80 oed yn Ewrop yn tyfu o 180 y cant, gan gynyddu’r angen i unigolion fyw bywydau hirach, mwy annibynnol. Bydd y prototeip sydd wedi cael ei ddatblygu yn gwneud bywyd adref yn haws i bobl hŷn, yn ogystal â galluogi ysbytai i adael i unigolion ddychwelyd i’w cartrefi.
Dechreuodd yr ymchwil ym mis Ionawr 2007 a chafodd y model cyntaf ei arddangos a’i brofi yn Fienna, Awstria, ym mis Tachwedd 2008. Roedd yr arddangosfa yn llwyddiant ysgubol a brofodd fod y prototeip yn gweithio’n iawn. Mae’r model wedi cael ei brofi yn labordy defnyddioldeb CAIR dros y 12 mis diwethaf ac wrthi’n cael ei dreialu ar astudiaethau achos bywyd go-iawn.
Meddai Vic Grout, cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Ryngrwyd Gymwysedig: “Mae’r prosiect Easy Line yn enghraifft o’r gwaith arloesol a chreadigol yr ydym yn ei wneud i ffynonellu datrysiadau i faterion cymdeithasol ac economaidd.
“Mae canlyniadau wedi dangos y gallai’r prosiect fod yn gaffaeliad o bwys i ddatrys problem gymdeithasol dyngedfennol; fodd bynnag, mae’n dal i fod yn brototeip ar hyn o bryd ac mae ein gwaith yn dod i ben ym mis Mehefin 2009 pan fydd y cyllid yn dod i ben.
“Byddwn yn darganfod ym mis Mawrth faint o arian y byddwn yn ei dderbyn gan y llywodraeth o ganlyniad i’n hasesiad RAE ac, yn dibynnu ar faint y byddwn yn ei gael, fe allem ddal ymlaen i weithio ar y prosiect. Mae yna lawer o ‘beth os’ a ‘beth petai’ o hyd, ond petaem yn gallu dal ymlaen i weithio ar y prosiect fe allem weld y cynnyrch ar y farchnad yn 2012.”
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr wedi bod yn gweithio ar y cyd â gweithgynhyrchwyr mawrion fel Bosch, Siemens a Phrifysgol Zaragoza yn Sbaen, ymhlith eraill, ar y prosiect Easy Line Plus.
