Bydd cwrs newydd yn arbed miloedd i fusnesau ar hyfforddi staff
15 Gorffennaf 2009
Bydd cwrs chwyldroadol newydd a gyflenwir yn gyfan gwbl ar-lein yn helpu busnesau i arbed ar y miloedd o bunnau sy’n cael eu gwario bob blwyddyn ar hyfforddi staff.
Bydd y Tystysgrif Uwchraddedig mewn E-ddysgu, a gynigir gan Brifysgol Glyndŵr yn Wrecsam, yn darparu pobl broffesiynol ym meysydd Addysg ac AD gyda’r sgiliau a’r arbenigedd i gyflenwi hyfforddiant a sefydliadau i staff gan ddefnyddio’r rhyngrwyd.
Fel un o gyrsiau prin iawn o’i fath i gael ei gynnig gan brifysgol yn y DU, bydd yn edrych ar y gwahanol dechnolegau sydd ar gael i gyrff ar gyfer cefnogi datblygu staff, yn ogystal â sut y gellir rhedeg y rhaglenni hyn ar-lein.
Gydag ymchwil y llywodraeth yn dangos fod cyflogwyr yn y DU yn gwario mwy na £38.6 biliwn y flwyddyn yn hyfforddi eu staff*, byddai cael cyflogedigion sy’n gallu sefydlu a chyflenwi rhaglenni hyfforddi ar-lein yn galluogi cwmnïau i arbed arian yn sylweddol, meddai arweinydd y cwrs Dr Clive Buckley.
Meddai: “Mae technoleg yn rhywbeth na all unrhyw un sy’n ymwneud â hyfforddi, addysgu neu ddatblygu staff ei hanwybyddu. Mae’r cyfleoedd a gynigir gan y rhyngrwyd yn unig ar gyfer arbed costau yn anferthol. Mae mwy a mwy o gwmnïau, er enghraifft, yn dechrau cynnal eu sesiynau sefydlu staff ar-lein, trwy we-byrth sy’n darparu gwybodaeth allweddol ac yn holi cwestiynau i brofi a chadarnhau gwybodaeth dysgwyr.
“Mae’r cwrs yma yn ymwneud â darparu cenhedlaeth newydd o gyflogedigion gyda’r sgiliau i allu cymryd mantais o dechnolegau o’r fath a sut y gellid eu defnyddio nhw orau.”
Bydd y cwrs yn cael ei addysgu gan ysgolheigion o Brifysgol Glyndŵr, gan gynnwys yr arbenigwr rheoli gwybodaeth Ewropeaidd Maarten Cannaerts, a fydd yn darparu safbwynt ryngwladol ar e-ddysgu.
Bydd technolegau Gwe 2.0, megis technolegau rhwydweithio cymdeithasol a blogiau, yn cael eu defnyddio i gyflenwi’r cwrs.
“Mae’n gwrs gwirioneddol fyd-eang,” ychwanegodd Dr Buckley. “Cyn belled ag y gallwch fynd ar y rhyngrwyd, gallwch astudio’r cwrs unrhyw le yn y byd.”
Mae gan y cwrs ddyddiad cychwyn treiglol gyda derbyniadau ym mis Medi a mis Ionawr. Gall myfyrwyr ymuno â’r cwrs yn y flwyddyn academaidd 2009-2010 am ddim ond £750 trwy gymryd mantais o Ysgoloriaeth Uwchraddedig Prifysgol Glyndŵr 2009.**
Er mwyn cofrestru, neu am fwy o wybodaeth am y Tystysgrif Uwchraddedig mewn E-ddysgu, cysylltwch â gweinyddwraig y rhaglen Ann Raynham ar 01978 293152.
* Arolwg o Sgiliau Cyflogwyr Cenedlaethol y Cyngor Sgiliau 2007 http://readingroom.lsc.gov.uk/lsc/National/nat-nessurvey2007keyfindings-may08.pdf
** Telerau ac amodau yn berthnasol.
