Busnes cyrri ar-lein yw’r prif gynhwysyn ar gyfer llwyddiant myfyriwr
21 Gorffennaf 2009
Mae myfyriwr o Brifysgol Glyndŵr sydd y tu ôl i lwyddiant gwasanaeth archebu ar-lein newydd ar gyfer bwytai cyrri yng Ngogledd Cymru wedi cael ei enwi yn staff sy’n fyfyriwr y flwyddyn yng Nghymru.
Cipiwyd y wobr gan Kamal Pal, 32, yng nghategori rhyngwladol cynllun gwobrau blynyddol a redir gan Gymdeithas Genedlaethol Gwasanaethau Staff sy’n Fyfyrwyr (NASES) am ei waith fel rheolwr marchnata yr e-fusnes curryplus.co.uk
Mae’r wefan unigryw yma yn rhoi cyfle i gyrri-garwyr archebu a chasglu bwyd o’u hoff fwyty prydau parod, gan ddewis o fwydlen lawn a restrir ar-lein, neu archebu bwrdd mewn llu o fwytai Indiaidd yn yr ardal.
Mae dros 25 o fwytai a llefydd prydau parod eisoes yn defnyddio’r gwasanaeth, gan gynnwys bwytai cyrri Sher Khan yng Nghaer, Jamuna yn Wrecsam, Chirk Tandoori yn y Waun, Khazana ger Wrecsam a Country Spice yn yr Hôb.
Dywedodd Kamal fod y gwasanaeth yn boblogaidd ymhlith pobl yn y gwaith sy’n archebu bwyd o gysur eu desg i’w gasglu ar eu ffordd adref.
“Fe wnes i rywfaint o ymchwil rai blynyddol yn ôl oedd yn dangos nad oedd y fasnach bwytai Indiaidd yn tyfu mor gyflym â mathau eraill o fwyd megis bwyd Prydeinig neu Dsieineadd am fod y rheiny yn defnyddio’r rhyngrwyd,” meddai.
“Mae archebu ar-lein yn gymharol ddi-sôn-amdano ymhlith perchnogion bwytai Indiaidd, felly i ddechrau roedden nhw’n amheus iawn ohono ac roedd yn anodd eu cael nhw i groesawu’r syniad.
“Ond unwaith yr oedden nhw wedi’i dderbyn, roedd yn hawdd iddyn nhw weld y manteision. Mae’n eithriadol o ddeniadol i gwsmeriaid oherwydd ei bod yn hwylus iddyn nhw archebu ar-lein ac maen nhw wedi denu busnes ychwanegol o ganlyniad. Mae’r wefan hefyd yn caniatáu iddyn nhw bostio tocynnau cynigion arbennig sydd wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt yn ogystal.”
Creative Solving sy’n gyfrifol am y wefan, sef cwmni datrysiadau TG yn Wrecsam ble cafodd Kamal leoliad gwaith trwy Go Wales, gwasanaeth sy’n darparu cyfleoedd lleoliadau gwaith i fyfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru.
Enwebwyd Kamal ar gyfer Gwobr Staff sy’n Fyfyriwr y Flwyddyn NASES gan Creative Solving a derbyniodd ei wobr mewn seremoni yng Nghaerdydd.
Daw ei lwyddiant ar sodlau llwyddiant ei gyd-fyfyriwr MBA Azmery Jahan, a enwyd fel y gweithiwr rhagorol yn Siop Swyddi’r brifysgol.
Meddai Sam Forde, Swyddog Siop Swyddi ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Yn awr fwy nag erioed, mae’n hanfodol fod myfyrwyr yn cael profiad gwaith gwerth chweil cyn iddyn nhw raddio. Mae gwaith Kamal gyda Creative Solving wedi gwella ei ragolygon gyrfaol yn aruthrol.
“Llongyfarchadiau i Kamal ac Azmery am eu llwyddiant yn ennill y gwobrau hyn.”
