|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2009 > Brewdog i greu cwrw unigryw Glyndŵr
|
||
|
|
Brewdog i greu cwrw unigryw Glyndŵr23 December 2009Bydd cwrw newydd yn cael ei fragu a’i botelu gan y bragdy arobryn Albanaidd, Brewdog, yn ôl cysyniad a grëwyd gan griw o fyfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr. Bydd y cwrw, 1412, yn gwrw llwyth bach wedi’i wneud i gymysgedd unigryw a ysbrydolwyd gan gynllun y myfyrwyr, gyda lliwiau brand arbennig y Brifysgol yn Wrecsam ar y botel. Crëwyd y syniad gan dîm o bump o fyfyrwyr dylunio a chyfryngau fel rhan o gystadleuaeth Prifysgol-eang i ddathlu Wythnos Mentergarwch Byd-eang 2009. Mewn digwyddiad yn arddull The Apprentice a redwyd gan y Zôn, canolfan Prifysgol Glyndŵr ar gyfer menter allgwricwlaidd a gweithgareddau mentergarwch, rhoddwyd diwrnod i’r timau fynd i’r afael â’r dasg o gynllunio cysyniad ar gyfer cwrw newydd i hyrwyddo’r brifysgol – gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer blasau, pecynnu a brandio. Ffilmiwyd y cyflwyniadau a’u hanfon at sylfaenydd Brewdog, James Watt, a ddewisodd 1412 fel yr ymgeisydd llwyddiannus. Roedd James wedi trin y fideos yn yr un modd ag y byddai’n trin ceisiadau go-iawn. Meddai: “Gweithiodd y myfyrwyr i gyd yn galed gan gynhyrchu rhai canlyniadau gwych, ond 1412 oedd y syniad mwyaf masnachol ac arloesol, a’r un a gafodd ei gyflwyno orau.” Meddai Phillip Chan, myfyriwr Dylunio Amlgyfryngol Rhyngweithiol yn ei ail flwyddyn sy’n rhan o dîm 1412: “Fe ddewison ni’r enw 1412 gan mai dyna’r flwyddyn y ceir cofnod o weld Owain Glyndŵr am y tro olaf. "Roedd ennill y gystadleuaeth yn wych ond wnes i erioed feddwl y bydden ni’n gweld y cwrw yn cael ei fragu. Mae’n ffantastig.” Bydd y cwrw yn cael ei lansio yn Nawns Myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr ym mis Mai ac ar gael ym Mar Urdd y Myfyrwyr am gyfnod cyfyngedig. Yn awr mae gan y myfyrwyr - Mark Scott, Michelle Roberts, Qingyun Hu, Yz Wez a Phillip Chan – gyfle i deithio i fragdy Brewdog i helpu i greu eu cwrw fel rhan o’r tîm bragu. Fel rhan o’u taith i’r Alban, maent yn gobeithio blogio am eu profiadau a chyfweld James a’i gyd-sylfaenydd Martin Dickie am eu bywydau yn rhedeg Brewdog. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hyn mae ar y tîm angen codi tua £1500 tuag at gost y daith. Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn chwilio am rywun i noddi eu hymweliad â bragdy Brewdog. Bydd y noddwyr yn cael eu hyrwyddo trwy wefan am y prosiect, mewn blogiau ac mewn fideos. Dylai unrhyw noddwyr sydd â diddordeb gysylltu â Matthew Draycott ar 01978 293074 neu ebostio m.draycott@glyndwr.ac.uk
|
|