Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Blwyddyn o Ddathlu’r Brifysgol yn dechrau mewn steil

27 Ionawr 2009
Blwyddyn o Ddathlu’r Brifysgol yn dechrau mewn steil

Daeth Cyfeillion Prifysgol Glyndŵr ynghyd i lansio ei Blwyddyn o Ddathlu yn Nawns gyntaf un y Brifysgol.

Daeth cannoedd i fynychu’r digwyddiad yn Neuadd William Aston ar nos Wener 23 Ionawr.

Mwynhaodd y gwesteion bryd tri chwrs, siampên, a cherddoriaeth gan y grŵp teyrnged i’r Beatles, The Fab Four.

Dawns sefydlu Prifysgol Glyndŵr oedd y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau i’w cynnal yn 2009 i ddathlu ffurfio’r sefydliad, a wobrwywyd â statws prifysgol ym mis Gorffennaf 2008.   

Meddai’r Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr: “Roedd yn wych gweld gymaint o bobl wedi dod i ddathlu’r achlysur arbennig yma. Cafodd pawb noson ardderchog a gobeithio y bydd yna lawer mwy o ddigwyddiadau tebyg i ddod gydol y flwyddyn.”  

Bydd Blwyddyn o Ddathlu 2009 yn parhau ddydd Sadwrn 28 Chwefror pan fydd y Brifysgol yn cael ei Sefydlu a’r Canghellor a’r Is-Ganghellor yn cael eu Gorseddu. Disgwylir i gannoedd o arweinwyr sifil ac urddasolion fynychu’r digwyddiad, a fydd yn cynnwys gorymdaith trwy Wrecsam wedi’i dilyn gan seremoni yn Eglwys San Silyn y dref. 

Mae digwyddiadau arfaethedig eraill yn cynnwys Dawns Myfyrwyr/Cynfyfyrwyr ar nos Wener 22 Mai a Chinio a Gwobrau Busnes Wrecsam.

Cysylltwch a ni