Ysgoloriaeth ragoriaeth
23 Rhagfyr 2008
Gallai cyflawnwyr academaidd rhagorol elwa o hwb o £1,000 tuag at gost mynychu prifysgol.
Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig ysgoloriaeth gwerth £1,000 seiliedig ar haeddiant i fyfyrwyr llawn amser cymwys gyda 300 neu fwy o bwyntiau UCAS sy’n cofrestru ar un o’u cyrsiau gan gychwyn ym mis Medi 2009.
Mae myfyrwyr sy’n cyflwyno eu cais UCAS erbyn y dyddiad cau 15 Ionawr ac yn cwrdd â’r meini prawf yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth Ragoriaeth. Mae’r wobr yn daliad £1,000 unigol ac mae’n rhaid i fyfywyr dderbyn eu cynnig a chofrestru ar un o gyrsiau Prifysgol Glyndŵr University er mwyn derbyn y wobr.
Mae’r pecyn ysgoloriaeth ar gael ar gyfer myfyrwyr newydd yn unig, nid i fyfyrwyr sy’n dychwelyd.
Meddai’r Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr: "Mae’r Ysgoloriaeth Ragoriaeth yn ychwanegiad newydd i’r amrywiaeth eang o gyfleoedd cefnogaeth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr.
"Mae’r ysgoloriaeth yn cydnabod, hyd yn oed i’r myfyrwyr mwyaf disglair, fod y gost o fynd i brifysgol yn medru ymddangos yn frawychus, a bydd yn darparu hwb ariannol i’w groesawu i lawer.”
Ar hyn o bryd mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig ysgoloriaethau i adawyr gofal, athletwyr dawnus, cynfyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr a myfyrwyr rhyngwladol. Mae ysgoloriaethau yn gymorth cyllido na thelir yn ôl sydd yn seiliedig ar haeddiant neu feini prawf – academaidd neu fel arall.
Gall myfyrwyr hefyd elwa o nifer o fwrsarïau sydd ar gael. Mae’r rhain yn gymorth na thelir yn ôl a ddarperir i’r rheiny sy’n gallu dangos fod ganddynt gynni ariannol neu’n cwrdd â meini prawf penodol eraill.
Mae’r wybodaeth lawn, ddiweddaraf am yr Ysgoloriaeth Ragoriaeth ar gael ar wefan Prifysgol Glyndŵr.
Fel arall, cysylltwch â’r Desg Gwybodaeth Myfyrwyr ar 01978 293439, neu ebostiwch sid@glyndwr.ac.uk
