|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2008 > Y Brifysgol yn penodi athro cyfrifiadura newydd
|
||
|
|
Y Brifysgol yn penodi athro cyfrifiadura newydd11 Rhagfyr 2008
Mae arbenigwr mewn cynyddu diogelwch rhyngrwyd a chyflymder trosglwyddo data ar y we wedi ei benodi i swydd newydd ym Mhrifysgol Glyndŵr. Mae Dr Vic Grout wedi cael ei benodi yn Athro Algorithmau Rhwydwaith yn y brifysgol yn Wrecsam. Bydd ei waith yn canolbwyntio ar y prosesau a’r rhaglenni sy’n gwneud i’r rhyngrwyd weithio – a chreu datrysiadau i gwrdd â’r galwadau y mae’r rhyngrwyd yn barod i’w cyflwyno dros y blynyddoedd nesaf. “Mae yna newidiadau mawr ar y gweill,” meddai Dr Grout. “Mae rhwydweithiau yn mynd i fod yn fwyfwy di-wifr, gyda phobl eisiau mynediad i’r rhyngrwyd unrhyw le pan fyddan nhw’n symud o gwmpas, a bydd y cyfrifiadur desg mwy neu lai yn diflannu. “Bydd hyn ynddo’i hun yn dod â heriau newydd. Bydd pobl eisiau gallu gwneud mwy a mwy a bethau dros y rhyngrwyd felly bydd faint o ddata sy’n cael ei drosglwyddo yn cynyddu yn ddramatig. “Bydd diogelwch yn dod yn fwy a mwy pwysig hefyd. Bydd pobl yn ceisio dod o hyd i fylchau a bydd ymchwilwyr yn ceisio gwneud mwy a mwy i wneud y rhyngrwyd mor ddiogel â phosib.” Yn wreiddiol o Southampton, graddiodd yr Athro Grout mewn Mathemateg a Chyfrifiadura o Brifysgol Exeter yn 1984. Cwblhaodd PhD mewn Peirianneg Cyfathrebu ym Mhrifysgol Plymouth, wedi’i ddilyn gan ymchwil, wedi’i noddi gan BT, i fesur a modelu traffig – ceisio cael data mewn rhwydweithiau cyfrifiadurol i lifo’n gyflymach. Ymunodd yr Athro Grout â Phrifysgol Glyndŵr yn 2000 fel uwch ddarlithydd mewn cyfrifiadura a daeth yn ddarllenydd mewn cyfrifiadureg yn 2004. Ef yw cadeirydd grŵp ymchwil mwyaf y sefydliad, sef y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Rhyngrwyd Gymwysedig (CAIR). Ychwanegodd yr Athro Grout: “Roeddwn yn chwilio am rywle i symud yn 2000 ble gallwn gychwyn ymchwilio a daeth swydd yma oedd yn gyfle gwych i mi. “Bydd y swydd athro yn rhoi cyfle i mi roi tro ar ymchwil a phrosiectau newydd ac yn anad dim yn dod ag amlygrwydd i CAIR. Bydd fy rôl i fel cadeirydd y grŵp yn dod yn fwy arwyddoacol o ran bod yno i’n hymchwilwyr i gyd. “Mae gennym bob math o wahanol weithwyr proffesiynol yn gwneud gwahanol bethau – o lefelau traffig rhyngrwyd i ddylunio rhyngwynebau cyfrifiadurol i bobl oedrannus eu defnyddio. “Pan gychwynwyd CAIR yn 2002, roedd gennym ni gynllun pum mlynedd i wneud y ganolfan yn rhyngwladol adnabyddus – sy’n rhywbeth yr ydym wedi’i gyflawni – felly erbyn hyn yr ydym yn gobeithio ychwanegu at hyn a gwella popeth yr ydym yn ei wneud.” Yn ei oriau hamdden, mae’r Athro Grout yn sgwba-blymiwr brwd ac yn blymiwr chwaraeon cymwys. “Dyma fy unig hobi mwyaf,” meddai. “Mae’n cymryd y rhan fwyaf o fy amser pan nad ydw i’n gweithio. Mae’n dueddol o benderfynu ble’r ydw i’n mynd ar fy ngwyliau hefyd, er enghraifft rydw i wedi ymweld â’r Aifft ac Ynysoedd y Caribî yn ystod y blynyddoedd diwetha.” |
|