|
|
Y Brifysgol i gynnal sioe o ddarlleniadau a cherddi tymhorol12 Rhagfyr 2008
Bydd athro, awdur a bardd poblogaidd yn rhoi darlleniadau a straeon tymhorol yn Wrecsam y Nadolig yma. Bydd Gervase Phinn, sydd yn awdur erthyglau nodwedd ar gyfer y cylchgrawn Countryman, yn ymddangos ym Mhrifysgol Glyndŵr nos Sul yr 21ain o Ragfyr. Mae Phinn yn fwyaf adnabyddus fel awdur y pedwar llyfr ‘Dale’. Wedi’i lasenwi yn ‘James Herriot yr Ysgolion’, daeth yr atgofion twymgalon hyn am fywyd arolygydd ysgolion yn Nolydd Swydd Efrog yn archwerthwyr ar unwaith, yn boblogaidd dros ben ar raglenni ‘Book of the Week’ a ‘Book at Bedtime’ Radio 4. Mae Phinn wedi ymddangos ar y radio a’r teledu nifer o weithiau – y mae’n gyflwynydd ar Teachers’ Television ar hyn o bryd – ac wedi ysgrifennu amrywiaeth o lyfrau academaidd yn ogystal â barddoniaeth a ffuglen i blant. Bu’n dysgu Saesneg mewn amryw o ysgolion am 14 blynedd nes iddo ddod yn Gynghorydd Cyffredinol ar gyfer Datblygu Iaith yn Rotherham yn 1984. Bedair blynedd yn ddiweddarach fe symudodd i Ogledd Swydd Efrog, ble treuliodd ddeng mlynedd fel arolygydd ysgolion, cyfnod o roddodd lawer o ysbrydoliaeth iddo ar gyfer ei lyfrau. Yn nes ymlaen fe’i benodwyd yn Brif Gynghorydd y sir. Y mae’n gymrawd anrhydeddus o Brifysgol St John yn Efrog, yn Gymrawd ac Athro Gwadd ym Mhrifysgol Teesside ac yn gymrawd anrhydeddus yr English Speaking Board. Mae Gervase hefyd yn Ddoethur mewn Llên ym Mhrifysgolion Caerlŷr a Hull ac yn Gymrawd o’r Gymdeithas Gelfyddydau Frenhinol. Yn ddiweddar fe dderbyniodd y wobr academaidd uchaf o Ddoethur y Brifysgol gan yr Athro Arglwydd Robert Winston, Canghellor Prifysgol Sheffield Hallam. Mae ganddo bedwar o blant mewn oed ac mae’n byw ger Doncaster gyda’i wraig, Christine Mae Gervase Phinn wedi bod yn teithio o gwmpas prif theatrau y DU ers mis Ebrill 2004 gan berfformio ger bron cynulleidfaoedd llawn mewn dros 150 o theatrau gan gynnwys Leeds Grand Theatre, Salford Lowry, Truro Hall yng Nghernyw, Hull New Theatre a Sheffield City Hall. Y mae hefyd wedi ymddangos yn Preston Guild Hall, Theatr Gogledd Cymru Llandudno, Salisbury City Hall, Croydon Fairfield Hall, Coventry Warwick Arts Centre and Darlington Civic Theatre ymhlith eraill. Mae tocynnau ar gyfer An Evening with Gervase Phinn ym Mhrifysgol Glyndŵr yn costio £15.50 (ynghyd â ffî archebu). Maent ar gael o www.seetickets.com neu Ganolfan Groeso Wrecsam ar 01978 292015. |
|