|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2008 > Prifysgol newydd yn talu gwrogaeth i'r Prif Weinidog
|
||
|
|
Prifysgol newydd yn talu gwrogaeth i'r Prif Weinidog18 Gorffenaf 2008
Derbyniwyd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan yn Gymrawd prifysgol ddiweddaraf Cymru Mynychodd y gwleidydd, a addysgwyd yn Rhydychen a Harvard, seremoni ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam, er mwyn derbyn yr anrhydedd, a ddyfarnwyd iddo oherwydd ei wasanaeth i addysg uwch yng Nghymru. Yn ei araith yn ystod y seremoni i’w dderbyn yn Gymrawd, meddai Is-Ganghellor y Brifysgol, Yr Athro Mike Scott, “Mae bywyd Rhodri Morgan yn cyfuno byd gwleidyddiaeth a’r byd academaidd. Yn fab i TJ Morgan, yr Athro Cymraeg blaenllaw yn Abertawe, ac yn frawd i’r hanesydd, y mae gyrfa academaidd Rhodri yr un mor drawiadol. “Ar ôl graddio o Brifysgol Rhydychen, croesodd Rhodri Fôr yr Iwerydd er mwyn parhau â’i astudiaethau, gan ennill gradd Meistr ym Mhrifysgol Harvard.” Dywedodd Yr Athro Scott fod cysylltiadau’r Prif Weinidog â Phrifysgol Glyndŵr – Athrofa Addysg Uwch Gogledd-ddwyrain Cymru gynt – wedi bod yn helaeth, gan nodi ei fod wedi mynychu ein seremoni raddio yma yn 2007. Ychwanegodd: “mae Prifysgol Glyndŵr yn ddyledus i’r Prif Weinidog am y gwaith caled a gyfrannodd er mwyn sefydlu Prifysgol Glyndŵr”. “Gwnaeth cyhoeddiad y ddogfen Cymru’n Un, ynghyd â’i hymroddiad i sefydlu prifysgol newydd yng Ngogledd-ddwyrain Cymru – ymroddiad a dderbyniodd gefnogaeth ar draws y pleidiau, ein sicrhau bod gennym y gefnogaeth wleidyddol i wireddu ein gweledigaeth academaidd.” “Am y rheswm hwnnw, rwyf yn falch iawn ein bod yn ei anrhydeddu heddiw am ei wasanaethau dros addysg prifysgol yng Nghymru.” |
|