|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2008 > Myfyrwyr yn ceisio rhoi stop ar y theatredd
|
||
|
|
Myfyrwyr yn ceisio rhoi stop ar y theatredd sy’n amgylchynu materion cymdeithasol pobl ifanc yn eu harddegau9 Mehefin 2008
Mae myfyrwyr sydd wedi ysgrifennu eu drama eu hunain am faterion cymdeithasol sy’n effeithio ar bobl ifanc yn eu harddegau yn ymbaratoi i berfformio’r cynhyrchiad mewn ysgolion ledled Gogledd Cymru. Mae “As If,” a grëwyd gan fyfyrwyr Theatr a Pherfformio ail flwyddyn yn NEWI, yn anelu i amlygu problemau fel bwlio, pwysau o du cyfoedion ac unigoliaeth ymhlith pobl yn eu harddegau. Bydd y ddrama yn cael ei pherfformio i ddisgyblion Blwyddyn 9 a 10 mewn wyth o ysgolion lleol dros yr ychydig wythnosau nesaf. Mae myfyrwyr Theatr a Pherfformio yn ysgrifennu eu drama eu hunain bob blwyddyn fel rhan o’u rhaglen radd, ond eleni yw’r tro cyntaf iddynt weithio ar y cyd â myfyrwyr sy’n astudio ar raglenni eraill yn NEWI. Paentiwyd y gwaith celf ar gyfer y set – a adeiladwyd gan fyfyrwiwr arall o NEWI, Kieron Lewis – gan Emma Walton, sy’n fyfyrwraig blwyddyn gyntaf yn Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru, a bydd y myfyriwr peirianneg sain Ben Artiss yn mynd gyda’r grŵp theatr ar eu taith o gwmpas yr ysgolion. Elen Mai Nefydd, uwch ddarlithydd mewn Theatr a Pherfformio yn NEWI, sy’n cyfarwyddo’r sioe. Meddai: “Mae’n wych ein bod ni wedi gallu gwneud defnydd o beth o’r ddawn ragorol sy’n bodoli ym mhob maes pwnc yn NEWI. Bydd y gwaith celf a gynhyrchwyd gan Emma yn gymorth mawr i ni ddod â’r ddrama yn fyw ac rydym yn ddiolchgar iawn fod Ben wedi cynnig dod ar y daith gyda ni.” Deilliodd y syniad ar gyfer “As If” o ymweliadau gan y myfyrwyr theatr ag Ysgolion Uwchradd Rhosnesni a Rhiwabon, ble buont yn trafod gyda disgyblion beth oeddent yn eu lecio a’i ddreglecio am yr ysgol ac agweddau o’u bywydau oedd yn eu poeni. Mae’r ddrama yn seiliedig ar fywyd pum cymeriad pendant, pob un wedi’u heffeithio gan wahanol broblemau cymdeithasol, sy’n mynd i’r ysgol ac yn treulio eu hamser hamdden yn y parc lleol. “Mae’r ddrama yn ei hanfod am bobl ifanc sy’n dod o hyd i’w personoliaeth a’u hyder eu hunain,” meddai Elen Mai. “Mae’n llais ar gyfer cenhedlaeth iau, gobeithio, rhywbeth y gallant uniaethu ag ef. Mae’r myfyrwyr wedi ymarfer yn ddi-baid yn ystod yr wythnosau diwtha a dylent fod yn falch iawn o’r hyn sydd yn gynhyrchiad ardderchog.” Ar ôl pob perfformiad yn yr ysgolion, bydd y myfyrwyr yn cynnal sesiynau atborth gyda disgyblion ysgol i drafod y materion y mae’r ddrama yn eu codi. Meddai Catherine Roberts, sy’n chwarae Shaz: “Mae ymchwilio ac actio’r ddrama yn bendant wedi bod yn brofiad sy’n agoriad llygad. Rydym wedi dysgu llawer am fywydau pobl ifanc yng Ngogledd Cymru a’r anawsterau sy’n rhaid iddyn nhw eu hwynebu. Trwy dynnu sylw at rai o’r materion, gobeithio y byddwn yn gallu dangos y gallant oresgyn unrhyw broblemau sydd ganddynt a dysgu o unrhyw gamgymeriadau y maen nhw’n eu gwneud.” |
|