|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2008 > Myfyrwraig yn graddio er gwaethaf colli ei golwg
|
||
|
|
Myfyrwraig yn graddio er gwaethaf colli ei golwg5 Tachwedd 2008
Mae myfyrwraig o Wrecsam a orfu rhoi’r gorau i yrru hanner ffordd trwy astudio ar gyfer ei gradd ar ôl i’w golwg hi ddirywio gymaint wedi goresgyn y rhwystr i raddio. Roedd Christina Jones, 43, yn barod i roi’r gorau i astudio ar ôl cael ei diagnosio gyda’r cyflwr llygad difrifol glawcoma fel yr oedd hi’n cwblhau gradd sylfaen mewn Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr. Ond perswadiodd ei theulu a darlithwyr ei chwrs hi i gario ymlaen ac ar ddydd Gwener 31 Hydref fe dderbyniodd BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon o flaen cannoedd o raddedigion yn Neuadd William Aston y Brifysgol. “Rydw i’n teimlo’n wych,” meddai Christina, a fu’n rhaid hepgor ei thrwydded yrru ar ôl 25 mlynedd. “Roedd fy merched yma i ’ngweld i’n derbyn fy ngwobr ac maen nhw’n falch o’u mham. Ni fuaswn i wedi medru cyflawni hyn hebddyn nhw. “Roedd colli fy ngolwg yn sioc anferthol. Roeddwn i wedi teimlo ers peth amser fod yna broblem ond roedd yn llawer mwy difrifol nag y tybiais.” Mae Christina, oedd yn gweithio fel hyfforddwraig ffitrwydd cyn cofrestru ar y cwrs, wedi cael gwaith erbyn hyn fel cymellydd gweithgaredd corfforol i Kelloggs yn Wrecsam. Bydd yn gweithio gyda staff i wella eu ffitrwydd cyffredinol a’u haddysgu am fanteision ymarfer. Ychwanegodd Christina: “Mae’r broblem gyda fy ngolwg wedi cyfyngu’r hyn y gallai’i wneud ond ni fuaswn wedi cael y swydd heb fy ngradd. Mae’r brifysgol yn rhoi cefnogaeth wych i bobl gydag anableddau, oedd yn andros o help. “Fi oedd y person hynaf ar fy nghwrs – roedd y rhan fwyaf o’r myfyrwyr yr un oed â’m plant – ond roedd yr holl fyfyrwyr y gwnes i eu cyfarfod a gweithio gyda nhw yn glên iawn. Gobeithio y bydd yr hyn yr ydw i wedi’i gyflawni yn ysbrydoli fy merched i fynd i brifysgol hefyd.” Cynhaliodd Prifysgol Glyndŵr bedair seremoni wobrwyo dros gyfnod o ddeuddydd, gan cydnabod yn ffurfiol gyflawniadau dros 1,000 o fyfyrwyr. Yn ogystal, derbyniodd y graddedigion ddarn o arian coffa arbennig i nodi’r seremonïau gwobrwyo cyntaf yn y Brifysgol, a ffurfiwyd ym mis Gorffennaf pan roddwyd statws prifysgol llawn i Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru. Meddai’r Athro Michael Scott: “Llongyfarchiadau i bawb am eu cyflawniadau. Rwy’n falch o allu dathlu llwyddiant gyda’n myfyrwyr i gyd, a chydnabod y gwaith caled y mae pob unigolyn wedi’i wneud i gyflawni eu gradd.” |
|