Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Goresgyn y ‘Ceisiadau a’r Taclau’ i lwyddiant

Siwrnai Ysgogol Rupert Moon

26 Tachwedd 2008

Goresgyn y ‘Ceisiadau a’r Taclau’ i lwyddiant

Iau 4 Rhagfyr bydd yr arwr rygbi Rupert Moon yn ymweld â Phrifysgol Glyndŵr i roi darlith ysgogol am ddim am ei yrfa.

Cafodd Rupert Moon yrfa helaeth fel chwaraewr rygbi yr holl ffordd o chwarae fel myfyriwr i Undeb Rygbi Lloegr trwodd i gael ei dderbyn i chwarae i Gymru trwy chwarae i Glybiau Rygbi Aberteleri, Castell Nedd a Llanelli. Enillodd gyfanswm o 24 cap dros Gymru yn y tîm rygbi cenedlaethol.

Ar ôl ymddeol o rygbi rhyngwladol yn 2001, bu’n chwarae i Scarlets Llanelli tan 2002. Yna daeth yn gyflwynydd radio a theledu ar BBC Wales cyn mynd â’i brofiad o chwaraeon i’r byd busnes i ddod yn Bennaeth Grŵp Datblygu Masnachol a Busnes i Undeb Rygbi Cymru a Stadiwm y Mileniwm. Gwnaeth ei gyfraniad yno helpu’r grŵp i gyflawni eu trosiant ac elw mwyaf erioed.  

Ar ôl trychineb y Tsunami ym mis Rhagfyr 2004, fe wnaeth ef a rheolwyr Stadiwm y Mileniwm drefnu’r Cyngerdd Cymorth Tsunami mewn dim ond tair wythnos. Cododd y cyngerdd gyfanswm o £1.25m i helpu dioddefwyr y drychineb. Bu hefyd yn rhan annatod wrth drefnu’r cyngerdd Newid Hinsawdd yn 2005 a gynhaliwyd yn Stadiwm y Mileniwm yn ogystal.

Er gwaethaf ei rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Marchnata ‘Protectagroup’, brocer yswiriant mwyaf Cymru, mae Rupert yn dal i ymddangos ar y BBC yn sylwebu ar gêmau byw. Mae hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer o sioeau ar BBC Wales gan gynnwys ‘Welsh in a Week’ ble dysgodd Rupert, a aned yn Birmingham, Gymraeg ar gyfer ei briodas â’i ddyweddi, sy’n siarad Cymraeg.

Ar ei daith mae Rupert wedi gorfod goresgyn nifer o helbulon gan gynnwys anaf andwyol. Yn ei sgwrs ar ddydd Iau y 4ydd o Ragfyr bydd yn trafod ei brofiadau a hanes ei yrfa ac yn esbonio sut yr oedd yn dal i gael ei ysgogi i lwyddo mewn cyfnodau anodd. 

Bydd y drysau’n agor am 6:30pm a bydd Rupert yn dod ar y llwyfan yn Theatr Nick Whitehead, ar safle Plas Coch yn Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam am 7pm. Nid oes tâl mynediad ac mae’r digwyddiad yn agored i bob oedran. Am fwy o wybodaeth, neu i archebu lle ar y noson, ffoniwch 01978 293473 neu ebostiwch eventssupport@glyndwr.ac.uk

Cysylltwch a ni