Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Dirnadaeth Prosiect

17 Tachwedd 2008
Dirnadaeth Prosiect

Bydd myfyrwyr theatr a chyfryngau ym Mhrifysgol Glyndŵr yn dod ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru i helpu trigolion Wrecsam deimlo’n fwy diogel yn eu cymunedau.

Bydd myfyrwyr a staff y brifysgol yn gweithio gydag adran heddlu cymuned Gogledd Wrecsam yn Gresffordd i gynhyrchu ffilm fer yn amlygu gwaith Grŵp Partneriaeth Cymuned yr ardal.  

Mae’r grŵp yn cwmpasu ardaloedd Llai, Gwersyllt a Brymbo i Goedpoeth, Brychdyn, Gresffordd a Holt.

Yn ôl y Rhingyll David Marsden o Heddlu Gogledd Cymru, byddai’r fideo deng-munud yn cael ei ddangos mewn mannau cymunedol fel llyfrgelloedd, meddygfeydd a swyddfeydd tai, i esbonio rôl a gwaith y Grŵp Partneriaeth Cymuned.

Bydd myfyrwyr ail flwyddyn ar gyrsiau theatr a pherfformio a chyfathrebu cyfryngau Prifysgol Glyndŵr yn ymchwilio, dyfeisio, sgriptio ac actio golygfeydd ar gyfer y fideo. 

Byddant yn cydweithio’n agos gyda Grŵp Partneriaeth Cymuned Gogledd Wrecsam, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, Gwarchod y Gymdogaeth, Cefnogaeth i Ddioddefwyr, Cynghorwyr Cymuned ac amryw o elusennau yn ogystal â swyddogion yr heddlu.

Amcan y fideo yw esbonio sut mae’r grŵp partneriaeth yn gweithio trwy ystod o gynlluniau i greu cymunedau saff a diogel. Mae’r rhain yn cynnwys y Prosiect Atalwyr Tân, sy’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n gysylltiedig â difrod troseddol a llosgi bwriadol yn ardal Gwersyllt, ac Ymgyrch Sinamon, sy’n dod ag ystod o fudiadau at ei gilydd i gynnig sesiwn cyngor a chymorth un-stop i bobl hŷn a phobl agored i niwed.

Dywedodd uwch ddarlithydd theatr a pherfformio Prifysgol Glyndŵr, Elen Mai Nefydd, fod y brifysgol wrth ei bodd fod yr heddlu wedi gofyn iddynt gymryd rhan yn y cynllun, a fydd yn cael ei adnabod fel Dirnadaeth Prosiect.

“Mae’n rhoi cyfle i’n myfyrwyr theatr a chyfryngau weithio ar brosiect gwerthfawr, bywyd go-iawn. Rydym yn gobeithio y bydd y fideo yn profi i fod yn ffactor bwysig mewn arddangos y gwaith amrywiol a wneir gan y Grŵp Partneriaeth Cymuned yn ardal Gogledd Wrecsam.   

“Ar yr un pryd, rydym yn sicr y bydd ein myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi cyflawni rhywbeth gwerth chweil o fod wedi creu darn o waith a fydd o werth gwirioneddol yn y byd tu allan i gampws Prifysgol Glyndŵr,” meddai.

Bydd y myfyrwyr theatr a chyfryngau yn gweithio gyda’r heddlu dros y misoedd nesaf i gynhyrchu’r fideo yma gyda lansiad swyddogol wedi’i gyllunio ar gyfer mis Mai nesaf.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am y cyrsiau theatr a pherfformio a chyfryngau neu astudio cyrsiau eraill ym Mhrifysgol Glyndŵr gysylltu â’r Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr (SID) trwy ebostio sid@glyndwr.ac.uk neu ffonio (01978) 293439.

Cysylltwch a ni