|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2008 > Dilyn y Fflam
|
||
|
|
Dilyn y Fflam29 Medi 2009
Ymwelodd Tom James, a enillodd fedal aur yn y gêmau Olympaidd, â Phrifysgol Glyndŵr i lansio menter newydd i ddathlu Olympiaid gorau Cymru. Lansiodd y gŵr ifanc 24 oed, oedd yn rhan o’r tîm pedwar heb lywiwr a rwyfodd i fuddugoliaeth dros Brydain yn y gêmau Olympaidd ym Mhrydain eleni, y fenter Dilyn y Fflam yng nghanolfan chwaraeon y Brifysgol. Mae’r fenter Cymru-gyfan yn arddangosfa newydd sy’n adrodd hanes cysylltiad Gymru gyda’r gêmau Olympaidd ac yn dathlu campau Olympiaid Cymreig sy’n aml wedi mynd yn angof. Cafodd plant a phobl ifanc o Wrecsam a’r ardal gyfagos weld medal aur Tom a chyfle i holi cwestiynau iddo am ei gamp. Meddai Tom: “Rydw i’n falch o fod yn Gymro, yn falch o fod yn Brydeinig, ac mae hwn yn brosiect ardderchog – yn union y math o beth sydd ei angen arnom wrth ddynesu at y gêmau Olympaidd yn Llundain yn 2012. “Enillodd Llundain y gêmau Olympaidd trwy gyflwyniad y tîm cais a Seb Coe, oedd yn gaddo y byddai’r gêmau yn dod ag etifeddiaeth barhaol ac yn ysbrydoli pobl ifanc – rhywbeth nad yw gêmau eraill wedi’i wneud. “Mae’n wych cael rhywbeth a fydd yn dod â chwaraeon ac addysg ynghyd. “Pan oeddwn i allan yn Beijing wnes i ddim meddwl mewn difri am yr impact ’nôl adre, ond mae wedi bod yn gadarnhaol iawn. “Erbyn hyn mae gennym brosiectau buddiol y mae pawb ym Mhrydain yn anelu i fod yn gysylltiedig â nhw wrth ddynesu at 2012. “Roedd ennill medal aur Olympaidd yn brofiad mor unigryw. Tydi’r gamp heb suddo i mewn yn iawn eto, ond mae’n bendant yn deimlad arbennig iawn.” Yn ogystal ag athletwyr, mae’r arddangosfa Dilyn y Fflam yn edrych ar, trwy eiriau a delweddau, y rheiny sydd wedi mynychu gêmau mewn swyddi eraill, fel swyddogion, hyfforddwyr, gweinyddwyr, gwirfoddolowyr a gwylwyr. Mae’n cael ei arwain gan Wasanaeth Treftadaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Meddai’r Cynghorydd Bob Dutton OBE, aelod blaenllaw ar gyfer Cymunedau a Pherfformiad: “Fe wnaeth y Gêmau Olympaidd a Pharalympaidd a gynhaliwyd yn Beijing eleni gipio calonnau a dal dychymyg pawb oedd yn byw yng Nghymru a’r DU gyfan. “Mae’r ffaith i Wrecsam arwain y ffordd trwy Gymru gyfan wrth ddathlu nid yn unig ein llwyddiannau yng Ngêmau Beijing, ond campau a llwyddiannau pobl Cymru, yn rhywbeth i’w longyfarch.” |
|