Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cyfleusterau Chwaraeon yn ennill statws gwersyll Cyn-Hyfforddiant Paralympaidd

11 Mehefin 2008
Cyfleusterau Chwaraeon yn ennill statws gwersyll Cyn-Hyfforddiant Paralympaidd

Yn dilyn llwyddiant cael ei enwi yn wersyll Cyn-Hyfforddiant Olympaidd ar gyfer 2012 mae NEWI hefyd wedi ennill statws gwersyll Cyn-Hyfforddiant Paralympaidd yn ogystal.

Mae Chwaraeon@NEWI wedi cymhwyso i gynnal detholiad o saith gêm tîm gan gynnwys Pêl-droed, 5-bob-ochr a 7-bob-ochor, Pêl-fasged Cadair Olwyn, Cleddyfa Cadair Olwyn, Rygbi Cadair Olwyn a Jiwdo Paralympaidd.

Bydd y cyfleusterau hefyd yn cynnal gêm o’r enw Boccia sy’n debyg iawn i bowls. Mae myfyriwr o NEWI sydd ag Ysgoloriaeth Chwaraeon, Gareth Stafford, yn chwarae’r gêm yma yn y sgwad Gymraeg ar hyn o bryd gan obeithio cystadlu ar gyfer y digwyddiad yn 2012.

Mae Chwaraeon@NEWI, ynghyd â Chanolfan Tennis Rhanbarthol Gogledd Cymru a Stadiwm Queensway Stadium, wedi cael eu hasesu a dangosir fod ganddynt ffocws cryf ar safonau o hygyrchedd a llety.

Mae Anna-Marie Brown, Rheolwraig y Ganolfan Chwaraeon yn NEWI, wrth ei bodd gyda’r newyddion. “Mae hyn yn newyddion gwych i ni. Y gobaith yn awr yw, trwy hysbsyebu yng Ngêmau Beijing, y bydd cyrff chwaraeon cenedlaethol yn dod i Ogledd Cymru i hyfforddi cyn y digwyddiad Paralympaidd.”

Cysylltwch a ni