Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Awduron yn uno i gynhyrchu llyfr newydd i fyfyrwyr

16 Hydref 2008

Awduron yn uno i gynhyrchu llyfr newydd i fyfyrwyr

Mae llyfr newydd wedi cael ei lansio i helpu myfyrwyr o deuluoedd heb unrhyw brofiad o addysg uwch setlo i fywyd prifysgol.   

Cafodd y llyfr, Essential Study Skills for Health and Social Care [Sgiliau Astudio Hanfodol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithas], ei roi at ei gilydd gan staff ym Mhrifysgol Glyndŵr i ddarparu myfyrwyr iechyd newydd gyda sgiliau astudio academaidd hanfodol.

Mae’r canllaw cynhwysfawr 192-tudalen yn cynnwys cyngor am sgiliau rhyngrwyd, cyfeirnodi, ysgrifennu traethodau ac adroddiadau, sgiliau ymchwil a thechnegau CV a chyfweld, ymhlith eraill.

Cafodd yr Essential Study Skills for Health and Social Care [Sgiliau Astudio Hanfodol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithas] ei olygu gan y darlithwyr iechyd a gofal cymdeithasol Marjorie Lloyd a Peggy Murphy, ond yn cynnwys cyfraniadau o bob rhan o’r brifysgol, gan gynnwys staff llyfrgell. Y mae wedi ei anelu yn benodol at y rheiny sy’n astudio pynciau yn ymwneud ag iechyd, gan gynnwys nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr ieuenctid a therapyddion galwedigaethol, ond hefyd yn cynnwys awgrymiadau defnyddiol sy’n berthnasol i’r maes yma.

Gwnaeth yr awduron i gyd lofnodi copïau’r myfyrwyr o’r llyfr mewn parti lansio yng Nghanolfan Edward Llwyd Prifysgol Glyndŵr ar ddydd Mercher 15 Hydref.

Meddai Ms Lloyd: “Cysylltodd y cyhoeddwyr Reflect Press â mi tua blwyddyn yn ôl ynglŷn ag ysgrifennu’r llyfr ac roeddwn yn fwy na bodlon i gyfranogi. Meddyliais y byddai’n beth da cael pobl eraill i gyfranogi felly mi wnes i holi cydweithwyr yn y brifysgol a fydden nhw’n lecio cyfrannu at y llyfr hefyd. Roedd pawb yn awyddus iawn ac fe gawson nhw’r rhyddid i ysgrifennu am beth oedden nhw’i eisiau. 

“Mae’r llyfr yn ymestyn ein hymroddiad i ehangu mynediad gan ei fod yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr cenhedlaeth gyntaf o deuluoedd ble nad oes neb wedi bod i brifysgol o’r blaen. Gall gofynion astudio mewn addysg uwch fod yn frawychus ond gobeithio y bydd y llyfr yma yn gwneud y rhan yma o’u profiad prifysgol yn dipyn haws. 

“Rydw i eisoes wedi cael ymholiadau gan ddarlithwyr o bob rhan o’r sir sydd eisiau copïau o’r llyfr.”

Mae Essential Study Skills for Health and Social Care [Sgiliau Astudio Hanfodol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithas] wedi’i gyhoeddi gan Reflex Press Ltd, am £12.99. Gellir ei brynu ar-lein yn www.reflectpress.co.uk  neu www.amazon.co.uk; trwy ebostio reflect@bebc.co.uk, neu trwy ffonio 01202 712934. Y mae hefyd ar gael o bob siop lyfrau dda.

Cysylltwch a ni