Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Awdur ar restr fer yn ymweld a Phrifysgol Glyndwr

6 Tachwedd 2008

Awdur ar restr fer yn ymweld a Phrifysgol Glyndwr

Cafodd myfyrwyr syniadau da ar gyfer ysgrifennu creadigol pan ymwelodd awdur ifanc sydd ar restr fer un o’r gwobrau llenyddol mwyaf amlwg â Phrifysgol Glyndŵr.

Siaradodd y nofelydd Ceridwen Dovey o Dde Affrica gyda myfyrwyr am ei llyfr, Blood Kin, cyn cynnal gweithdy ysgrifennu creadigol a galw heibio gorsaf radio ar-y-campws Calon FM am sgwrs.

Mae Ms Dovey yn un o chwech awdur dan 30 sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer Gwobr Dylan Thomas, gwobr ddwyflynyddol sy’n hybu ysgrifennu ymhlith pobl ifanc. Mae’r wobr, sy’n werth £60,000, wedi’i henwi ar ôl yr awdur enwog a gyhoeddodd ei lyfr cyntaf yn 21 mlwydd oed.

Trefnodd cyfarwyddwyr y wobr i bob un o’r chwech awdur ymweld ag adrannau ysgrifennu creadigol mewn gwahanol brifysgolion yng Nghymru a dywedodd Dr Richard Dover, pennaeth dyniaethau, ei fod wrth ei fodd fod Prifysgol Glyndŵr wedi’i dethol i groesawu Ms Dovey.

Meddai Dr Dover: “Roedd yn anrhydedd cael ymweliad gan awdur o galibr Ceridwen. Fe wnaeth y myfyrwyr fwynhau’r ymweliad yn arw a byddant yn elwa yn eithriadol o’i gwybodaeth a’i chyngor.” 

Yn ystod ei hymweliad, trafododd Ms Dovey ei myfyrdodau ynglŷn â’i magwraeth yn Ne Affrica ac Awstralia gyda’r myfyrwyr, gan ddatgelu sut y cafodd ei henwi ar ôl cymeriad yn y nofel Richard Llewelyn 0 1939, ‘How Green Was My Valley.’

Wedi’i geni yn Pietermaritzburg, De Affrica, symudodd Ms Dovey i Awstralia yn 1980 yn blentyn ifanc gan fynd i’r ysgol uwchradd yn Sydney, cyn symud i’r UDA yn 1999 i astudio ym Mhrifysgol Harvard. Ysgrifennodd Blood Kin ar ôl iddi ddychwelyd i Dde Affrica i gwblhau gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cape Town.

Mae Blood Kin yn dweud hanes arlywydd wedi’i ddisodli gan coup milwrol mewn gwlad ddienw, ac yng nganol arestiadau lu, mae tri aelod o’r aelwyd Arlywyddol – ei farbwr, ei gogydd a’i bortreadydd – yn cael eu cymryd yn wystlon mewn palas mynyddig anghysbell. Wrth i’r drefn chwalu, daw’r gwir am y dynion hyn a bywydau arwyddocaol i’r fei, ac mae’r we o gydgynllwynio a dichell yn dechrau datod.

Bydd enillydd Gwobr Dylan Thomas yn cael ei gyhoeddi yn Abertawe ddydd Llun 10 Tachwedd.

Cysylltwch a ni