Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Awdur Teithlyfr Lonely Planet i addysgu myfyrwyr prifysgol

13 Hydref 2008
Awdur Teithlyfr Lonely Planet i addysgu myfyrwyr prifysgol

Mae awdur taith arobryn a theithlyfr Lonely Planet wedi ymuno ag adran y cyfryngau ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Bydd David Atkinson yn gweithio gyda myfyrwyr y cyfryngau a newyddiaduraeth o fewn yr Ysgol Ddyniaethau ar gampws Wrecsam y Brifysgol o ddechrau mis Hydref.

Mae David yn newyddiadurwr ar ei liwt ei hun sy’n arbenigo mewn erthyglau taith ar gyfer papurau newydd a chylchgronau cenedlaethol, gan gynnwys yr  Observer, yr Weekend Financial Times a’r cylchgrawn Wanderlust.

Ef oedd cyd-enillydd gwobr Erthygl Deithio’r Flwyddyn Cymdeithas Deithio America Ladin 2008 am erthygl am Bolifia a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn  Wanderlust.

Yn ogystal, enillodd wobr am y llyfr taith gorau yng Ngwobrau Aelodau’r British Guild of Travel Writers 2007 am ei deithlyfr Bradt i Bolifia.

Treuliodd David sawl blwyddyn yn teithio a gweithio yn Japan ac America Ladin. Ar ôl dychwelyd i Gaer rai blynyddoedd yn ôl, cafodd ei gomisiynu i ymchwilio i ac ysgrifennu’r teithlyfr Lonely Planet i Gymru.

Mae David wrthi ar hyn o bryd yn cwmpasu Cymru ar gyfer argraffiad newydd o’r llyfr   ‘Great Britain’ ar gyfer y gyfres boblogaidd o lyfrau taith.

Meddai: “Mae pellter maith rhwng La Paz a Wrecsam, ond rwyf yn falch o fod yn gweithio’n ôl yn y dref ble cefais fy ngeni. Rwy’n gobeithio ysbrydoli’r criw newydd o fyfyrwyr gyda fy ngolwg i ar newyddiaduraeth dda ac ambell stori am fywyd ar y lôn fel awdur taith ar dasg.”

Dywedodd pennaeth Ysgol Ddyniaethau Prifysgol Glyndŵr, Dr Richard Dover, fod David wedi ymuno â’r brifysgol fel rhan o estyniad o’i rhaglen gyfryngau, sy’n cynnwys opsiwn gradd Darlledu a Newyddiaduraeth newydd. 

“Rydym yn falch dros ben fod rhywun o galibr David yn cynnig ei wasanaethau i Brifysgol Glyndŵr,” meddai.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am y cyrsiau cyfryngau neu astudio unrhyw gyrsiau eraill ym Mhrifysgol Glyndŵr gysylltu â’r Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr (SID) trwy anfon ebost at sid@glyndwr.ac.uk neu trwy ffonio (01978) 293439.

Cysylltwch a ni