Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Tystysgrifau Genedlaethol NEBOSH

Pam dewis Iechyd a Diogelwch?

Mae deddfwriaeth yn ymwneud ag iechyd a diogelwch yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i ddiwydiant adnabod effaith aruthrol y materion hyn a’u pwysigrwydd yn y gweithle. 

Mae’r cyrsiau yn edrych ar y dulliau o reoli risg yn effeithiol ac yn cynnig dealltwriaeth eang o faterion iechyd a diogelwch. Mae’r meysydd a gwmpasir yn cynnwys y gyfraith, cyfathrebu, gwyddoniaeth, a rheolaeth yn y modd y maent yn gysylltiedig ag iechyd a diogelwch. Bydd y cyrsiau hefyd yn datblygu eich sgiliau personol mewn perthynas â’r amgylchedd gwaith megis cyfathrebu effeithiol, sgiliau technoleg gwybodaeth, datrys problemau, sgiliau rheoli, rheoli prosiect a sgiliau trefniadaethol. 

Nodweddion arbennig

  • Achredir y Cyrsiau NEBOSH gan y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol fel rhai sy’n cwrdd â’r gofynion academaidd ar gyfer Aelodaeth Technegydd.

Cyfleoedd gyrfaol

Mae yna amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfaol yn agored i weithwyr proffesiynol iechyd a diogelwch ym mhob maes o ddiwydiant ac iechyd galwedigaethol. Mae ein portffolio o gyrsiau yn eich caniatáu i symud ymlaen o’r dystysgrif NEBOSH a’r i’r os ydych yn dymuno.

Mae’r cyrsiau yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y maes yma ac yn dymuno hybu eu gwybodaeth neu bobl sydd newydd ddechrau mewn gyrfa ym maes iechyd a diogelwch. Mae’r opsiynau rhan amser yn ddelfrydol os ydych yn dymuno astudio tra’n gweithio.

Gwybodaeth am y cwrs

Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol

Cynnwys y cwrs

Mae’r Dystysgrif Gyffredinol Genedlaethol yn cwmpasu’r prif ofynion cyfreithiol ar gyfer iechyd a diogelwch yn y DU, adnabod a rheoli peryglon yn y gweithle, a chymhwyso’r wybodaeth yma yn ymarferol. Mae cynnwys y cwrs yn cydsynio â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Diogelwch sy’n perthyn i ENTO.

Mae’r cymhwyster wedi’i rannu yn dair uned, ac asesir bob un ar wahân:

  • Rheolaeth Iechyd a Diogelwch (NGC1)
  • Rheoli Peryglon yny Gweithle (NGC2)
  • Cymhwysiad Ymarferol Iechyd a Diogelwch (NGC3)

Asesu

Mae yna ystod o ddulliau asesu gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, portffolios proffesiynol, arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Yr asesu ar gyfer y cyrsiau NEBOSH yw arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol.

Gofynion mynediad

Nid oes rhaid cael unrhyw wybodaeth flaenorol o iechyd a diogelwch.

Côd UCAS

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Rhan amser: 17 wythnos. Gofynnir i chi fynychu’r Brifysgol un diwrnod yr wythnos ar gyfer cyrsiau NEBOSH.

Tystysgrif Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Adeiladaeth

Cynnwys y cwrs

Mae’r Dystysgrif Gyffredinol Genedlaethol yn cwmpasu’r prif ofynion cyfreithiol ar gyfer iechyd a diogelwch yn y DU, adnabod a rheoli peryglon yn y gweithle, a chymhwyso’r wybodaeth yma yn ymarferol. Mae cynnwys y cwrs yn cydsynio â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Diogelwch sy’n perthyn i ENTO ac yn cael ei gefnogi gan Sgiliau Adeiladu.

Mae’r cymhwyster wedi’i rannu yn dair uned, ac asesir bob un ar wahân:

  • Rheolaeth Iechyd a Diogelwch (NGC1)
  • Rheoli Peryglon yny Gweithle (NGC2)
  • Cymhwysiad Ymarferol Iechyd a Diogelwch (NGC3)

Asesu

Mae yna ystod o ddulliau asesu gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, portffolios proffesiynol, arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Yr asesu ar gyfer y cyrsiau NEBOSH yw arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol.

Gofynion mynediad

Nid oes rhaid cael unrhyw wybodaeth flaenorol o iechyd a diogelwch.

Côd UCAS

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Rhan amser: 17 wythnos. Gofynnir i chi fynychu’r Brifysgol un diwrnod yr wythnos ar gyfer cyrsiau NEBOSH.

Tystysgrif Genedlaethol NEBOSH mewn Diogelwch Tân a Rheoli Risg

Cynnwys y cwrs

Mae’r cwrs Tystysgrif Genedlaethol mewn Diogelwch Tân a Rheoli Risg yn cwmpasu rheolaeth iechyd a diogelwch a diogelwch tân yn arbennig gan gynnwys gofynion cyfreithiol. Mae hefyd yn cynnwys egwyddorion tân a ffrwydriadau, achosion ac atal tanau, diogelwch tân mewn adeiladau a sicrhau diogelwch pobl mewn achosion tân. Mae’r cynnwys wedi’i gynllunio i ddarparu rheiny sy’n ei astudio i ymgymryd ag asesiadau risg tân yn y rhan fwyaf o weithleoedd risg isel. Mae’r cynnwys yn unol â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Diogelwch sy’n eiddo i ENTO a’r SGC Diogelwch Tân sy’n eiddo i SkillsPlus.

Mae’r cymhwyster wedi’i rannu yn dair uned, ac asesir pob un ar wahân:

  • Rheolaeth Iechyd a Diogelwch (NGC1)
  • Diogelwch Tân a Rheoli Risg (FC1)
  • Asesu Risg Tân Ymarferol (FC2)

Asesu

Defnyddir ystod o ddulliau asesu gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, portffolios proffesiynol, arholiadau ysgrifnedig ac ymarferol. Y dulliau asesu ar gyfer y cyrsiau NEBOSH yw arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol.

Gofynion mynediad

Nid oes rhaid cael unrhyw wybodaeth flaenorol o iechyd a diogelwch.

Côd UCAS

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Rhan amser: 17 wythnos. Gofynnir i chi fynychu’r Brifysgol un diwrnod yr wythnos ar gyfer cyrsiau NEBOSH.

Cyrsiau proffesiynol

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk