Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Arweinyddiaeth yn y Lleoliad Clinigol

Tystysgrif Lefel 3 ILM Hyfforddiant ar gyfer Arweinyddiaeth yn y Lleoliad Clinigol

Gyda sgiliau ymarferol wrth ei wraidd, cynlluniwyd y cwrs yma i alluogi dirprwyon i drosglwyddo eu dysg yn ôl i’w gweithle a gwneud gwahaniaeth go iawn 

Ffeithiau allweddol

  • Gwella eich cymhwysedd fel arweinydd/rheolwr
  • Cymhwyso egwyddorion arweinyddiaeth a hyfforddiant effeithiol
  • Cymhwyso eich dysg i sefyllfaoedd clinigol go iawn
  • Datblygu perthynas adeiladol gyda’ch tîm
  • Defnyddio offer a strategaethau hyfforddi strwythuriedig i ddatblygu eich cyfoedion
  • Gwella deinameg y grŵp a pherfformiad unigolion
  • Asesu perfformiad eich cyfoedion/tîm a darparu atborth defnyddiol
  • Datblygu hunanymwybyddiaeth o’ch arddull arweinyddiaeth a’i heffaith ar eraill
  • Cefnogi sgyrsiau gwerthuso adeiladol er mwyn galluogi gwell perfformiad

Cwrs aml-broffesiynol yw hwn mewn arweinyddiaeth a hyfforddiant ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn lleoliad clinigol a sector cyhoeddus (GIG) e.e. clinigwyr, meddygon, meddygon ymgynghorol ac arweinwyr tîm. Mae wedi ei anelu at weithwyr proffesiynol gofal iechyd sy’n gyfrifol am ac yn ymwneud ag arweinyddiaeth, timau a gweithgorau amlddisgyblaethol. Mae’r ffocws ar gymhelliad personol i ddatblygu galluoedd arweinyddiaeth a hyfforddiant. 

Cyflenwir y cwrs gan staff clinigol ac academaidd o fewn y Sefydliad Iechyd, Gwyddorau Meddygol a Chymdeithas ac Ysgol Glinigol Gogledd Cymru sydd wedi’u lleoli ym Mhrifysgol Glyndŵr. Achredir y cwrs gan yr ILM (Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth) gan ddefnyddio Partneriaeth Elms a bydd yn denu pwyntiau DPD Clinigol. (rhagwelir 64)

Strwythur y Cwrs

Datblygwyd y cwrs yma i sicrhau fod gan ddirprwyon y profiad dysgu gorau yn y defnydd mwyaf effeithlon o amser.

6 niwrnod o weithdai profiadol:

1 – Sylfaen mewn sgiliau Arweinyddiaeth (2 ddydd) O leiaf 2 awr o diwtorialau
2 – Sylfaen mewn sgiliau Hyfforddiant (2 ddydd) Aseiniad seiliedig ar Waith
3 – Cymhwyso hyfforddiant (2 ddydd) O leiaf 6 awr o hyfforddiant ymarferol

Faint mae’r hyfforddiant yn ei gostio?

Mae ffioedd yn cwrs yn £2000 ynghyd â TAW (gan gynnwys cofrestru gyda’r ILM).

Cyrsiau proffesiynol

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk