Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Tirfesur Preswyl

Tystysgrif Broffesiynol mewn Tirfesur Preswyl

Mae’r Dystysgrif Broffesiynol mewn Tirfesur Preswyl yn cwmpasu arfer proffesiynol, datblygiad proffesiynol, iechyd a diogelwch cymhwysol, mesur adeiladau ac offer ymchwil ar gyfer tirfesur. Y mae hefyd yn cynnwys adnabod ffurfiau adeiladaeth, diffygion, hel gwybodaeth ar gyfer adroddiadau ar gyflwr tai ac asesu perfformiad ynni cartref. 

Bydd y rhaglen yn eich paratoi i ymgymryd â’r Diploma Arolygwyr Cartrefi neu’r cymhwyster Asesydd Ynni Cartref trwy gwmpasu gwybodaeth a dealltwriaeth VRQ4.

Nodweddion arbennig

  • Cyfleoedd ar gyfer tiwtorialau unigol.
  • Mae’r rhaglen yn eich galluogi i fod yn aelod o Gymdeithas y Peirianwyr Adeiladu a’r Sefydliad Siartredig Adeiladu ar lefel gyfrannog neu gorfforaethol, yn dibynnu ar brofiad.
  • Dolen â’r ganolfan asesu Arolygwyr Cartrefi.

Cyfleoedd gyrfaol

Os byddwch yn cwblhau’r cwrs yma yn llwyddiannus dylech allu cyflwyno eich hun i gael eich asesu i fod yn arolygydd cartrefi trwyddedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol i’r asesiad i fod yn asesydd ynni cartref.

Cynnwys y cwrs

  • Technoleg Adeiladaeth
  • Datblygiad Personol
  • Rheolaeth Iechyd a Diogelwch
  • Tirfesur Ymarferol
  • Asesiad Ymarferol Arolygydd Cartref

Asesu

Mae pob asesiad ar gyfer y Dystysgrif yn ymarferol. Mae’r Diploma Arolygydd Cartrefi/Asesydd Ynni yn asesiad allanol sy’n seiliedig ar dystiolaeth gwaith ymarferol wedi’i ddilyn gan arholiad. 

Gofynion mynediad

Disgwylir i chi gael eich cyflogi mewn maes perthnasol a bod â phrofiad o eiddo preswyl.

Hyd y cwrs

Rhan amser: 1 mlynedd

Cyrsiau proffesiynol

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk