Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu
Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD)
Y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), gyda mwy na 105,000 o aelodau ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, yw Sefydliad proffesiynol mwyaf Ewrop ar gyfer y rheiny sy’n gysylltiedig â rheoli a datblygu pobl. Mae ei raglenni o asesu cymhwysedd a dysg ymhlith y rhaglenni mwyaf hybarch yn y byd ac yn arwain at gymwysterau proffesiynol gwerthfawr iawn.
Y cwrs yma yw’r cymhwyster proffesiynol ar gyfer arbenigwyr a rheolwyr adnoddau dynol presennol a’r rheiny sy’n awyddus i fod yn hynny. Bydd cwblhau’r Rhaglen lawn yn llwyddiannus yn arwain at statws CIPD Graddedig. Fodd bynnag, mae’r opsiwn gennych i gwblhau eich astudiaethau ar ôl y flwyddyn gyntaf, a chan hynny adael gyda statws CIPD Trwyddedog.
Astudir y cwrs yma trwy gyfuniad o fynychu’r Brifysgol ac astudiaeth breifat gan ddefnyddio defnyddiau dysgu hyblyg a ddatblygwyd gan y CIPD. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd mawr i chi o ran sut a ble i astudio.
Nodweddion arbennig
- Mae’r rhaglen ar gael ar ddull hyblyg o fynychu.
- Byddwch yn derbyn safonau uchel o hyfforddiant ac mae gan staff cefnogi yn yr Ysgol Fusnes gysylltiadau gyda chymuned fusnes yr ardal, ac yn mwynhau perthynas waith dda gyda chyrff proffesiynol.
Cyfleoedd gyrfaol
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer arbenigwyr proffesiynol sydd wedi dewis canolbwyntio eu gyrfaoedd ar swyddogaeth pobl. Bydd yn eich helpu i rwydweithio gyda chydweithwyr proffesiynol, mynediad i wybodaeth flaenllaw a chynorthwyo eich ymroddiad i safonau uchel o ymddygiad proffesiynol ac i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus trwy gydol eich bywyd gwaith.
Cynnwys y cwrs
Blwyddyn 1 - PDS 1
Arweinyddiaeth a Rheolaeth - 4 modiwl:
- Rheoli ar gyfer canlyniadau
- Rheoli ac Arwain Pobl
- Rheoli Gwybodaeth ar gyfer Mantais Gystadleuol
- Rheoli mewn Cyd-destun Busnes Strategol
Blwyddyn 2 - PDS 2
- Rheoli a Datblygu Pobl
- Un dewis: Adnoddu Pobl
Blwyddyn 3 - PDS 3
- Thri dewis:
- Rheoli Hyfforddiant a Datblygiad Swyddogaeth
- Cysylltiadau Cyflogedigion
- Gwobr Cyflogedigion - Adroddiad Rheolaeth a chofnod DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus)
Asesu
Asesir trwy gyfuniad o aseiniadau ac arholiadau.
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid bod gennych ddau lefel A neu gyfwerth, neu wobr lefel uwch neu’r cwrs sylfaen mewn arfer personél (CPP/CTP) neu feddu ar brofiad perthnasol.
Hyd y cwrs
Blwyddyn 1
Medi - Mehefin, deuddydd y mis
Blwyddyn 2
Medi - Mehefin, deuddydd y mis
Blwyddyn 3
Medi - Mai, deuddydd y mis
