Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Sefydliad Siartredig Marchnata

Tystysgrif Broffesiynol mewn Marchnata*

Diploma Proffesiynol mewn Marchnata

Diploma Proffesiynol mewn Marchnata Twristiaeth

Diploma Uwchraddedig Proffesiynol mewn Marchnata*

Mae’r Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM) yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel corff proffesiynol marchnata mwyaf blaenllaw’r byd gyda thros 60,000 o aelodau. Mae’r cyrsiau hyn yn gymwysterau trosglwyddadwy rhyngwladol gydnabyddedig sydd yn berthnasol ac ymarferol, gan adlewyrchu’r wybodaeth a’r sgiliau allweddol sy’n ofynnol gan ymarferwyr marchnata a gwerthu proffesiynol yr oes sydd ohoni.

Tystysgrif Broffesiynol*

Mae’r lefel dystysgrif yn ddelfrydol os ydych wedi dechrau gweithio mewn amgylchedd marchnata yn ddiweddar a bod angen cymhwyster cyfnod cyntaf arnoch. Mae pwyslais y lefel dystysgrif ar sgiliau ymarferydd a chreu sylfaen gadarn yn holl brif gysyniadau a damcaniaethau marchnata.

Diploma Proffesiynol

Y lefel ddiploma yw’r cyfnod nesaf os ydych eisoes wedi derbyn Tystysgrif Broffesiynol mewn  Marchnata neu’n meddu ar radd neu gyfwerth. Os nad yw’r cymwysterau uchod gennych chi, ond eich bod ar lefel oruchwyliol ac yn gallu dangos fod gennych brofiad priodol mewn marchnata neu werthu, gallwch hefyd ymuno ar y lefel yma.

Diploma Proffesiynol mewn Marchnata Twristiaeth

Mae’r Diploma Proffesiynol mewn Marchnata Twristiaeth wedi’i gynllunio yn benodol i’ch cefnogi chi os ydych yn berson gwerthu a marchnata sy’n gweithredu o fewn y sectorau twristiaeth a hamdden.

Diploma Uwchraddedig Proffesiynol*

Mae’r Diploma Uwchraddedig Proffesiynol mewn Marchnata yn gofyn i chi feddu ar Ddiploma Proffesiynol neu allu cynnig o leiaf chwe blynedd o brofiad o reolaeth marchnata ar lefel uwch yn ddiweddar. Gall cyflawni’r Diploma Uwchraddedig roi mynediad cyflym i chi i rai graddau Meistr.

Nodweddion arbennig

  • Cyfle i gael mynediad cyflym i nifer o Raglenni Meistr mewn Prifysgolion yn y DU.
  • Mae’r rhaglenni ar gael ar ddull modiwlaidd, hyblyg o fynychu.
  • Mae asesiadau a nodiadau cwrs ar gael trwy’r we fel y gallwch astudio adref neu yn y gwaith.
  • Byddwch yn derbyn safonau uwch o hyfforddiant a chefnogaeth.
  • Mae gan y staff yn yr Ysgol Fusnes gysylltiadau gyda chymuned fusnes y gymuned, ac yn mwynhau perthynas waith dda gyda chyrff proffesiynol.
  • Mae gan Glyndŵr Ganolfan Adnoddau Dysgu rhagorol sy’n rhoi modd i chi gael gafael ar wybodaeth a chysylltu â’r Gwasanaethau i Fyfyrwyr
  • Mae gan bob myfyriwr ei gyfeiriad e-bost ei hun ac mae ganddynt fynediad am ddim i’r rhyngrwyd gan eu galluogi i ddefnyddio’r adnoddau cymorth helaeth sydd ar wefan CIM.

Sylwer:  Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, argymhella CIM eich bod yn cael o leiaf y safon yn y defnydd o Saesneg sy’n gyfwerth â band 6 IELTS y Cyngor Prydeinig.

Mynd ymlaen i wneud gradd Meistr: os oes myfyrwyr sydd am fynd ymhellach, yna gallant ystyried ein MSc mewn Rheolaeth Marchnata sydd wedi’i lunio i ymgorffori Diploma Ôl-radd y CIM ym maes llafur Marchnata. Bydd llwyddo yma nid yn unig yn arwain at radd Meistr ond hefyd at aelodaeth lawn o CIM.

Cyfleoedd gyrfaol

Daw myfyrwyr CIM o amrywiaeth eang o gefndiroedd busnes megis y sector cyhoeddus, telegysylltiadau, amaethyddaeth, hamdden, twristiaeth, bwyd, cludiant, gweithgynhyrchu a gwasanaethau ariannol. Mae rhai wrthi’n astudio ar gyfer graddau neu wobrau uwchraddedig ond yn ymwybodol o’r fantais gystadleuol y mae cymhwyster proffesiynol yn ei roi iddynt. Gallai eraill fod yn meddwl am neu newydd gychwyn gyrfa mewn gwerthu neu farchnata heb feddu ar unrhyw gymwysterau ffurfiol, ond sydd eisiau cael y sgiliau marchnata a fydd yn eu helpu i gyflawni eu nodau datblygiad proffesiynol. Mae yna lefel sy’n addas ar gyfer amcanion gyrfaol pawb.

Maes llafur

Tystysgrif Broffesiynol*

Maes Llafur newydd 2008

Ymchwil a Gwybodaeth Marchnata Semester 1 
Hanfodion Marchnata Semester 1
Asesu’r Amgylchedd Marchnata Semester 2
Marchnata Budd-ddeiliaid Semester 2

 

Diploma Proffesiynol

Y Broses Cynllunio Marchnata  Semester 1
Darparu Gwerth i Gwsmer drwy Farchnata  Semester 1
Rheolaeth Marchnata  Semester 2
Rheolaeth Prosiect ar gyfer Marchnata  Semester 2

Diploma Proffesiynol mewn Marchnata Twristiaeth

  • Marchnata Lletygarwch a Gwasanaethau
  • Rheolaeth Marchnata ar Waith
  • Ymddygiad ac Ysgogiad Twristiaid
  • Cynllunio Marchnata

Diploma Uwchraddedig Proffesiynol*

  • Dadansoddiad a Phenderfyniad
  • Cynllunio ac Arweinyddiaeth Marchnata
  • Rheoli Enw Da Corfforaethol
  • Themâu sy’n Ymddangos

Asesu

Byddwch yn cael tair arholiad 3-awr a bydd gofyn i chi gwblhau 3 aseiniad neu brosiect ar gyfer y Diploma Proffesiynol. Gellir cymryd arholiadau ym mis Rhagfyr a/neu ym mis Mehefin bob blwyddyn.

Gofynion mynediad

Tystysgrif Broffesiynol*

Dylech fod wedi’ch addysgu at safon lefel A neu lefel 3 neu feddu ar brofiad perthnasol mewn marchnata.

Diploma Proffesiynol

  • Tystysgrif Broffesiynol CIM mewn Marchnata (maes llafur 2002 neu 2008) neu
  • Unrhyw BA neu Radd Meistr mewn Busnes neu Farchnata (neu gymhwyster cyfatebol) cyn belled â bod o leiaf un rhan o dair o’r credydau yn dod o farchnata (h.y. 120 credyd mewn gradd BA/BSc neu 60 o gredydau o radd Meistr) neu
  • Brofiad mewn rôl rheoli marchnata sydd wedi rhoi’r dystiolaeth bod darpar fyfyrwyr yn gallu cwrdd â deilliannau dysgu’r Dystysgrif Broffesiynol mewn Marchnata.

Diploma Proffesiynol mewn Marchnata Twristiaeth

Dylai fod gennych Dystysgrif Broffesiynol y CIM mewn Marchnata neu HND/C neu NVQ Lefel 3 mewn pwnc priodol neu feddu ar radd neu gymwysterau proffesiynol eraill mewn meysydd priodol neu brofiad cymeradwyedig mewn marchnata.

Diploma Uwchraddedig Proffesiynol*

Dylai fod gennych Dystysgrif Broffesiynol y CIM mewn Marchnata neu feddu ar radd gyda chynnwys marchnata priodol neu NVQ/SVQ lefel 4 mewn Marchnata. Mae cymwysterau priodol eraill a gymeradwyir gan CIM neu brofiad yn gweithio ym maes marchnata yn dderbyniol hefyd.

Mae’r Sefydliad Siartredig Marchnata yn gweithredu ei hawl i gymeradwyo dysg a phrofiad blaenorol yn ffurfiol. 

Hyd y cwrs

1 mlynedd rhan amser ar gyfer pob lefel

* Bydd y derbyniad nesaf ar gyfer y Tystysgrif Broffesiynol ac y Diploma Uwchraddedig Proffesiynol ym mis Medi 2010.

Caiff pob un o’r tair lefel eu darparu dros ddau semester, un noson yr wythnos.

Tystysgrif Broffesiynol: Dydd Iau, 6pm - 9pm bob semester a chefnogaeth hyblyg. Cofrestru ym mis Medi neu Ionawr.

Diploma Proffesiynol: Dydd Iau, 6pm - 9pm bob semester a chefnogaeth hyblyg. Cofrestru ym mis Medi neu Ionawr.

Sylwer: Efallai y bydd y diwrnod yn cael ei newid i ateb gofynion myfyrwyr neu adnoddau.

Semester 1 (Medi – Rhagfyr) yn cynnwys dwy ysgol Sadwrn ym mis Medi, dwy ym mis Hydref a 2 ym mis Tachwedd, 9:00-4:00.

Semester 2 (Ionawr – Mehefin) hefyd yn cynnwys dwy ysgol Sadwrn ym mis Mai, 9:00-4:00. Caiff dau fodiwl eu dysgu pob semester (gweler y maes llafur ar gyfer dewis ac amseru).


Cysylltwch â ni

Os ydych yn fyfyriwr/wraig o’r DU neu’r UE ac eisiau mwy o wybodaeth, neu er mwyn trafod unrhyw agwedd benodol ar y cwrs yma neu broses dderbyn ein Ysgol Fusnes, cysylltwch â SID (Desg Gwybodaeth Myfyrwyr).

Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr
Rhif ffôn: 01978 293439
Ebost: sid@glyndwr.ac.uk

Cyrsiau proffesiynol

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk