Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Mae Prifysgol Glyndŵr yn Ganolfan Addysg Uwch wedi’i Chymeradwyo gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (SARh). Os ydych yn dymuno datblygu neu hybu eich potensial fel rheolwr, arweinydd, hyfforddwr neu fentor, bydd astudio un o’r cyrsiau SARh ym Mhrifysgol Glyndŵr yn rhoi’r cyfle i chi gyflawni eich amcanion.

Mae’r cyrsiau fel a ganlyn:

Lefel 5 Tystysgrif mewn Rheolaeth

  • Mae’r cwrs yma wedi ei gynllunio yn arbennig i roi sylfaen gadarn i reolwyr canol gweithredol neu’r rheiny sy’n gobeithio bod yn rheolwyr canol yn eu datblygiad ffurfiol yn y rôl yma.

Lefel 5 Tystysgrif mewn Hyfforddi a Mentora

  • Bwriad y cwrs yma yw darparu rheolwyr gweithredol gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i weithredu’n effeithiol fel hyfforddwyr neu fentoriaid fel rhan o’u rôl arferol.

Lefel 7 Tystysgrif mewn Hyfforddi a Mentora

  • Bwriad y cwrs yma yw darparu uwch arweinyddion a rheolwyr gweithredol, neu’r rheiny sy’n gweithio mewn rôl hyfforddi a datblygu, gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i weithredu’n effeithiol fel hyfforddwyr a mentoriaid fel rhan o’u rôl waith arferol.

Diffinir hyfforddi a mentora ar gyfer uwch reolwyr fel y broses o alluogi unigolion i gaffael y wybodaeth, y sgiliau a’r technegau sydd eu hangen i weithredu’n effeithiol yn eu rôl alwedigaethol trwy eu cymell, eu hysbrydoli, eu herio, eu hysgogi a’u harwain. Mae’n rhaid i’r hyfforddwr allu adnabod anghenion yr unigolion sy’n cael eu hyfforddi, datblygu rhaglenni hyfforddi priodol ar gyfer cwrdd â’r anghenion hynny, a helpu unigolion i gyflawni eu llawn botensial.

Mae’r tîm SARh ym Mhrifysgol Glyndŵr yn brofiadol a chymwysedig o fewn eu meysydd arbenigol. Maent wedi eu cymell i’ch helpu chi i lwyddo, nid yn unig trwy eich darparu gyda darlithoedd, tiwtorialau a gweithdai ond hefyd trwy eich darparu gyda chefnogaeth ac arweiniad trwy gydol eich astudiaethau.

Os ydych yn unigolyn sy’n chwilio am ddatblygiad proffesiynol, neu gorff sydd eisiau datblygu eich staff, gall Prifysgol Glyndŵr eich helpu. Am fwy o wybodaeth am gyrsiau SARh, cysylltwch â Sam Clutton ar 01978 293183 neu anfonwch ebost at solutions@glyndwr.ac.uk.

 

Cyrsiau proffesiynol

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk