Egluro cyrsiau
Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig ystod o raglenni israddedig Prifysgol Cymru ac EdExcel sy'n arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn fyd-eang.
Mae'r ystod o raglenni sydd ar gael yn golygu eich bod yn gallu dewis rhaglen o'r lefel, hyd a dwyster i chi.
Mae yna amryw o bwyntiau mynediad a gadael sy'n eich galluogi i symud ymlaen ar gyflymdra sy'n addas i chi.
- Graddau anrhydedd
- Graddau sylfaen
- Diplomâu Cenedlaethol Uwch
- Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch
- Graddau meistr
- Doethur mewn Athroniaeth a Meistr mewn Athroniaeth
- Lefelau rhaglen
- Cymwysterau israddedig
- Cymwysterau uwchraddedig
- Dulliau asesu
Graddau anrhydedd
Fel arfer mae’r rhaglenni hyn yn golygu astudio yn llawn-amser am dair blynedd neu astudio yn rhan-amser am bum mlynedd. Gallwch astudio pwnc sengl a elwir yn radd anrhydedd sengl (e.e. BA (Anrh) Saesneg) neu mewn rhai meysydd gallwch gyfuno’r pwnc gydag un arall i ffurfio rhaglen gyfun neu brif bwnc/isbwnc.
Os yw’r ddau bwnc yn cael eu hastudio’n gyfartal yna gelwir y radd yn radd anrhydedd gyfun. Enghraifft o hyn fyddai BA (Anrh) Saesneg a Hanes.
Os yw un pwnc yn cael ei astudio mwy na’r llall, yna gelwir y radd yn brif bwnc/isbwnc gradd anrhydedd. Er enghraifft BA (Anrh) Saesneg gyda Hanes. Yn yr achos yma byddai’r prif bwnc yn cynnwys tua 60% o’r gwaith, gyda’r isbwnc yn cynnwys y 40% arall.
Pe baech yn methu neu’n dewis peidio â chwblhau’r rhaglen radd, hwyrach y buasech yn gallu gadael gyda gwobr arall.
Gwobrwyir Diploma mewn Addysg Uwch i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau dwy ran o dair o’r rhaglen radd yn foddhaol.
Mae Tystysgrif mewn Addysg Uwch ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau traean o’r rhaglen radd yn foddhaol.
Graddau sylfaen
Mae graddau sylfaen dwy flynedd yn cynnwys elfennau mawr o waith yn seiliedig ar brofiad. Maent yn sector benodol ac wedi’u cynllunio yn arbennig i’ch darparu gyda’r sgiliau technegol ac academaidd y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Mae graddau sylfaen wedi’u cynllunio gyda symud ymlaen at raddau anrhydedd mewn golwg. Os, ar ôl i chi gwblhau eich gradd sylfaen, y byddwch eisiau parhau â’ch astudiaethau, y mae’n bosibl symud ymlaen i drydedd blwyddyn rhaglen radd anrhydedd berthnasol. Hwyrach y bydd angen i chi astudio rhaglen bontio er mwyn gwneud hynny.
Diplomâu Cenedlaethol Uwch
Fel arfer mae’r Diplomâu Cenedlaethol Uwch (neu “HNDs”) yn rhaglenni llawnamser sy’n cymryd dwy flynedd i’w cwblhau. Maent yn fwy technegol eu hanian na rhaglenni gradd. Fel arfer mae cwblhau HND yn llwyddiannus yn eich galluogi i fynd ymlaen i ail flwyddyn rhaglen radd anrhydedd.
Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch
Mae Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (“HNCs”) yn rhaglenni rhan-amser, sy’n cwmpasu llai o fodiwlau na’r HND. Fel arfer, cwblhëir y rhain hefyd mewn dwy flynedd a byddant yn golygu treulio diwrnod neu ddwy noson yr wythnos yn yr Athrofa yn ystod y tymor.
Graddau meistr
Mae’r rhaglenni uwchraddedig hyn yn cael eu hastudio trwy raglen o seminarau, darlithoedd a gwaith prosiect.
Buasent fel arfer yn cynnwys prosiect/traethawd ymchwil hir sylweddol i faes o’ch dewis personol chi wedi’i drafod gyda’ch tiwtor.
Doethur mewn Athroniaeth a Meistr mewn Athroniaeth
Gradd ymchwil oruchwyliedig uwchraddedig yw PhD sydd fel arfer yn cymryd tair blynedd yn llawn amser i’w chwblhau.
Mae MPhil yr un fath ond yn cymryd dwy flynedd.
Gellir astudio’r ddau yn rhan amser. Mae’r ymchwil yn cael ei hysgrifennu fel traethawd hir sylweddol, ac yn gorfod dangos tystiolaeth o wreiddioldeb a barn feirniadol a bod ar flaen y gad yn eich dewis bwnc.
Ceir enghreifftiau o brosiectau ymchwil ar ein gwefan; neu am fwy o wybodaeth, ffoniwch y Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr (SID) ar 01978 293439.
Lefelau rhaglen
Mae’r modiwlau rhaglen a ddisgrifir o fewn y prosbectws hwn fel lefelau 1, 2 a 3 yn cyfateb i lefelau 4, 5 a 6, yn y drefn honno, yn y system addysg Gymreig. Pan fo rhaglen yn cael ei hastudio yn llawn-amser byddwch fel arfer yn astudio modiwlau o lefel 1 yn y flwyddyn gyntaf o astudio, lefel 2 yn yr ail flwyddyn a lefel 3 yn y drydedd flwyddyn.
Cymwysterau israddedig
BA: Baglor yn y Celfyddydau
BSc: Baglor mewn Gwyddoniaeth
BEng: Baglor mewn Peirianneg
BN: Baglor mewn Nyrsio
FdA: Gradd Sylfaen (Celfyddydau)
FdSc: Gradd Sylfaen (Gwyddoniaeth)
FdEng: Gradd Sylfaen (Peirianneg)
Cymwysterau uwchraddedig
PhD: Doethur mewn Athroniaeth
MPhil: Meistr mewn Athroniaeth
MA: Meistr yn y Celfyddydau
MSc: Meistr yn y Gwyddorau
MBA: Meistr mewn Gweinyddiaeth Fusnes
PGCE: Tystysgrif Uwchraddedig mewn Addysg
Dulliau asesu
Mae yna sawl ffordd wahanol o asesu eich gwaith tra’r ydych ym Mhrifysgol Glyndŵr. Bydd y rhain yn dibynnu ar y cwrs penodol yr ydych yn ei ddewis, ond maent yn cynnwys:
- Aseiniadau seiliedig ar waith
- Profion ymarferol
- Arholiadau
- Projectau
- Traethodau
Bydd y mathau o asesiad y byddwch yn eu cael wedi’u cynllunio i adlewyrchu’r gwaith yr ydych yn ei wneud, a byddwch yn gallu trafod unrhyw bryderon sydd gennych gyda’ch tiwtoriaid yr holl ffordd trwy’r cwrs.
