Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Blodeuwaith

Diploma Meistr NPTC mewn Blodeuwaith Broffesiynol (Lefel 5)*

Pam dewis Blodeuwaith?

Mae’r wobr MDPF newydd yn cymryd lle ac yn diweddaru Diploma Cenedlaethol y Gymdeithas Flodeuwaith (NDSF). Dyma’r cymhwyster blodeuwaith uchaf yn y DU.

Dyfeisiwyd y wobr i gwrdd ag anghenion gwerthwyr blodau sy’n dymuno symud ymlaen ac ehangu eu sgiliau uwch yn unol â safonau cenedlaethol a rhyngwladol. Gall yr ymgeiswyr llwyddiannus ddefnyddio’r llythrennau MDPF ar ôl eu henw.

Cynlluniwyd y cwrs i hyfforddi gwerthwyr blodau proffesiynol. Mae’r maes llafur yn newid ac yn cynnwys agweddau priodol ar wobrau rhyngwladol cyfwerth megis y cymwysterau ‘Meistr’ Ewrpeaidd. Bwriedir i’r wobr wella ac ehangu sgiliau blodeuwaith proffesiynol perchnogion busnes, rheolwyr, gwerthwyr blodau uwch, goruchwylwyr, hunangyflogedigion, gweithwyr llawrydd, tiwtoriaid, cynorthwywyr, a rheolwyr.  

Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fod yn gryf eu cymhelliad gan fod yna bwyslais cryf ar astudio annibynnol tu allan i’r sesiynau a addysgir. Mae’r dulliau cyflenwi yn cynnwys sesiynau ymarferol, darlithoedd, gweithdai dwys, ynghyd â dysgu o bell/cyfunol gan ddefnyddio pecynnau TCG.

Nodweddion arbennig

  • Ble y bo’n briodol bydd y cwrs yn denfyddio sgiliau ac arbenigedd tîm o diwtoriaid arbenigol, gwerthwyr blodau proffesiynol a phobl fusnes lwyddiannus o bob rhan o’r diwydiant blodeuwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
  • Bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r wobr MDPF lefel 5 yn gallu defnyddio’r llythrennau MDPF ar ôl eu henw ac yn gallu gwneud cais am aelodau o’r Gymdeithas Flodeuwaith, cymdeithas fasnach broffesiynol y diwydiant, ar lefel ‘Cymrawd’ (FSF).

Gweler mwy o wybodaeth am

Gweler mwy o wybodaeth am

Cyfleoedd gyrfaol

Mae’r rhagolygon gyrfaol ar gyfer gwerthwyr blodau proffesiynol yn rhagorol. Bydd dysgwyr llwyddiannus yn dra chymwys i gael gyrfaoedd gwerth chweil ym mhob maes o’r diwydiant blodeuwaith ar lefel uwch.

Cynnwys y cwrs

  • Cysyniadau ac Arferion Botanegol ar gyfer Blodeuwaith
  • Astudiaethau Rhynglwadol ar gyfer Blodeuwaith
  • Rheoli Digwyddiadau Blodeuol
  • Rheolaeth Busnes ar gyfer Blodeuwaith
  • Rheolaeth Hyrwyddo a Marchnata ar gyfer Blodeuwaith
  • Sgiliau Blodeuwaith Proffesiynol – Cynlluniau Clwm
  • Sgiliau Blodeuwaith Proffesiynol – Cynlluniau Gwifrog a Gludiog
  • Sgiliau Blodeuwaith Proffesiynol – Cynlluniau mewn Cyfryngau
  • Sgiliau Blodeuwaith Proffesiynol – Arloesiadau Dylunio
  • Cysyniadau Dylunio Proffesiynol ar gyfer Cynnydd Blodeuwaith... Beth Nesaf?

Asesu

Asesir y cwrs trwy 3 aseiniad traws-uned a 2 arholiad.

Gofynion mynediad

Mae pob cwrs lefel 5 yn drwyadl ac yn gofyn am gryn ymroddiad. Bydd mynediad yn seiliedig ar gyfweliad a phortffolio. Cymhwyster blodeuwaith lefel 4 o leiaf neu gyfwerth. (Efallai y bydd gofyn i’r ymgeiswyr ymgymryd â phrawf sgiliau). 

Gall dysgwyr gyda chymwysterau, hyfforddiant a phrofiad diwydiant priodol wneud cais am achrediad o ddysg blaenorol ac efallai y gallant gael mynediad uniongyrchol i’r wobr yma, (e.e. deiliaid gradd sylfaen ac ICSF). Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion bydd disgwyl i ymgeiswyr gyflawni’r Uwch Ddiploma NPTC Lefel 4 mewn Blodeuwaith yn gyntaf.

Mae gwybodaeth weithredol dda o feddalwedd TCG, ebost ac ati yn hanfodol. Mae o leiaf 4 blynedd o brofiad masnachol yn rhaganghenraid.

Hyd y cwrs

Cyflenwir y cwrs trwy lwybr dysgu hyblyg arloesol sy’n seiliedig ar fynychu lleiafswm o 16 penwythnos dwys dros 18 mis ynghyd â dysgu o bell.

* Bydd y derbyniad nesaf ar gyfer y cwrs yma ym mis Medi 2010.

Cyrsiau proffesiynol

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk