Academi Rhwydweithio CCNA/CCNP Cisco
Academi Rhwydweithio CCNA/CCNP Cisco
Mae Academi Rhwydweithio Cisco yn gwobrwyo cymwysterau proffesiynol a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn rhwydweithio cyfrifiadurol. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i addysgu’r sgiliau sydd arnoch eu hangen i ddylunio, creu a chynnal rhwydweithiau bychain a chanolig. Bydd yn rhoi cyfle i chi ymuno â’r gweithlu neu hyrwyddo eich addysg a’ch hyfforddiant mewn rhwydweithio cyfrifiadurol.
Nodweddion arbennig
- Cyfuniad o ddulliau dysgu – dan arweiniad hyfforddwr a dysgu ar-lein gydag ymarferion labordy ymarferol.
- Astudio ar eich cyflymdra eich hun.
- Pwyslais ar ddatblygu sgiliau.
- Theori manwl. Labordai llawn her i’ch helpu i ddatblygu sgiliau cydweithredu, meddwl yn feirniadol, a datrys problemau, yn ogystal â gwybodaeth ymarferol.
- Mae’r rhaglen yn cynnwys modiwl ar e-wneud planedig. Mae hyn yn eich galluogi i gwblhau gweithgareddau rhyngweithiol sy’n ysgogi dysg ac yn gwella cadw gwybodaeth. Mae e-wneud yn ymwneud âg amlgyfryngau toreithiog, gan gynnwys gweithgareddau sylfaen-fflach, fideos a chwisiau rhyngweithiol. Mae’r rhain yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o arddulliau dysgu, yn cynyddu dealltwriaeth ac yn darparu profiad dysgu gwych.
Cynnwys y cwrs
- Sylfeini Rhwydwaith
- Protocolau a Chysyniadau Cyfeirio
- Rhwydwaith Ardal Leol (LAN) Switsio a Diwifr
- Cael Gafael ar y Rhwydwaith Ardal Eang (WAN)
- Technoleg LAN a WAN
- Rheolaeth Rhwydwaith
- Cyflunio a Datrys Problemau Rhwydwaith
- Technoleg Rhyngrwyd; TCP/IP, ISDD, Bothau, Switsys, Cyfeirwyr a Phyrth
Mae rhaglen yr Academi yn cyfuno dysgu ar-lein, dan arweiniad hyfforddwr gydag ymarferion labordy ymarferol, ble gallwch gymhwyso’r hyn yr ydych yn ei ddysgu yn y dosbarth tra’n gweithio ar rwdyweithiau cyfrifiadurol pwrpasol. Gallwch astudio agweddau damcaniaethol y rhaglen ar eich cyflymdra eich hun. Mae pob un o’r modiwlau yn cynnwys elfen ymarferol, fel bod sesiynau ymarferol, ynghyd â chefnogaeth diwtorial ar gyfer defnydd damcaniaethol, wedi’u trefnu trwy gydol y flwyddyn.
Asesu
Mae pob gwobr yn cynnwys pedwar modiwl a astudir mewn trefn ddilyniannol.
Hyd y cwrs
CCNA: lleiafswm o 6 mis, er bod darpariaeth estynedig dros gyfnodau hirach yn bosibl (e.e. 2 flynedd am 3 awr yr wythnos).
CCNP: lleiafswm ychwanegol o 6 mis, er bod darpariaeth estynedig gyffelyb yn bosibl hefyd.
