Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Ymarfer Clinigol Uwch

MSc Ymarfer Clinigol Uwch

Diploma Uwchraddedig mewn Ymarfer Clinigol Uwch

Tystysgrif Uwchraddedig mewn Ymarfer Clinigol

Os ydych yn ymarferydd gofal iechyd cofrestredig profiadol sy’n gobeithio hybu eich gyrfa mewn swydd glinigol uwch, mae’r cwrs yma yn rhoi cyfle unigryw i chi ddatblygu eich sgiliau.

Mae’r cwrs yn amcanu i’ch helpu i fod yn ymarferydd gyda sgiliau clinigol, arweinyddiaeth ac ymchwil uwch. Byddwch yn dysgu sut i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd annisgwyl trwy ddefnyddio eich pen a’ch pastwn ac ymgymryd â chyfrifoldeb personol – paratoad delfrydol ar gyfer swydd uwch, llawn her.

Byddwch yn cael cyfle i ymgymryd â chymhwyster proffesiynol dewisol mewn rhagnodi Annibynnol/Atodol a fydd yn cael ei gofnodi gyda’r corff proffesiynol priodol. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gymwys i astudio ar lefel Ddoethurol.

Ymarfer Clinigol Uwch

Hyd y cwrs

Rhan-amser
MSc: 3-5 mlynedd
Diploma Uwchraddedig: 2-3 blynedd
Tystysgrif Uwchraddedig: 1 flynedd
Lleoliad: Wrecsam
Dyddiad dechrau: Mis Medi

Cyn i chi gael cynnig lle ar y cwrs yma, bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio a ydych yn addas i weithio gyda phlant ac oedolion bregus.  

Prif ffeithiau

  • Mae’r cwrs yn paratoi ymarferwyr ar gyfer swyddi clinigol uwch mewn ystod o ymarfer gofal iechyd trwy eu galluogi i ddatblygu sgiliau mewn asesu clinigol, diagnosis a thriniaeth, barn glinigol a gwneud-penderfyniadau ac ymchwil.
  • Cewch ddewis rhwng ymgymryd â’r Rhagnodi Annibynnol/Atodol ar gyfer Nyrsys a Fferyllwyr (V300) neu’r Rhagnodi Atodol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Cysylltiol, ac ar ôl eu cwblhau yn llwyddiannus byddwch yn gallu cofnodi’r cymhwyster hwnnw gyda’ch corff rheolaethol
  • Os oes gennych gymhwyster rhagnodi yn barod, fe allech gael credyd am eich dysg blaenorol
  • Os nad yw eich datblygiad gyrfaol yn gofyn i chi gwblhau rhaglen Meistr lawn, fe allech adael gyda’r Tystysgrif Uwchraddedig â ffocws clinigol neu ffocws arweinyddiaeth glinigol ehangach y Diploma Uwchraddedig

Cyfleoedd gyrfa

Os cwblhewch y cwrs yn llwyddiannus byddwch yn gallu ymgeisio am swyddi clinigol uwch mewn ystod o feysydd ymarfer. Byddwch hefyd yn gallu gwella eich perfformiad yn y swydd yr ydych yn gweithio ynddi eisoes.

Cynnwys y cwrs

Nod cyffredinol y wobr Meistr yw galluogi gweithwyr proffesiynol:

  • I ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth systematig a beirniadol o’u maes ymarfer arbenigol
  • I ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol, gan gael mewnwelediadau newydd ar flaen eu maes i ymarfer gofal uwch neu liniarol sy’n galluogi datblygiad strategol ymarfer a gwybodaeth ymarfer
  • I alluogi ymarferwyr i hysbysu, hybu a datblygu eu cymhwysedd o fewn eu maes ymarfer
  • I arddangos ysgolheictod uwch yn eu maes pwnc trwy gynllunio a gweithredu ymholiad Lefel 7 

Mae strwythur y rhaglen yn seiliedig ar 50% o theori a 50% o ymarfer wedi’u rhannu’n gyfartal yn ystod oriau’r rhaglen. Mae hyn ar yr amod y bydd y myfyrwyr yn treulio 6oo awr dros Ran 1 o’r rhaglen yn dysgu yn eu lleoliad gwaith. Cyflenwir Rheolaeth Gofal Uwch blaenllaw dros gyfnod o dri semester er mwyn galluogi ymarferwyr i fwyhau’r cyfleoedd ar gyfer myfyrdod beirniadol a dysgu seiliedig-ar-waith.

Modiwlau’r cwrs

Mae modiwlau craidd y rhaglen yn cynnwys:

  • Asesu Clinigol, Diagnosis a Rheolaeth Gofal Cyfannol
  • Rheolaeth Gofal Uwch blaenllaw
  • Polisi ac Ymarfer mewn Hybu Iechyd Uwch
  • Dulliau Ymchwil mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Traethawd hir

Gellir dewis hyd at 40 credyd o fodiwlau opsiynol:

  • Gofal Lliniarol: Rheoli Symptomau (20 credyd)
  • Modiwl Trafodedig ar lefel 6 neu 7 (20 credyd)
  • Rhagnodi Annibynnol neu Atodol (40 credyd)
  • Cefnogaeth Seicogymdeithasol mewn Gofal Lliniarol (20 credyd)
  • Moeseg Gwneud-Penderfyniadau mewn Gofal Lliniarol (20 credyd)
  • Mentora a Grymuso (20 credyd)
  • Naratifau: Theori a Dull (20 credyd)

Gofynion mynediad

Er mwyn cael eich derbyn ar y rhaglen yma, mae’n rhaid i chi:

  • Fod â chofrestriad cyfredol gyda chorff rheolaethol statudol, proffesiynol yn ymwneud â’ch maes chi o ymarfer uwch
  • Bod â gradd, dosbarth 2:2 neu uwch, mewn disgyblaeth sy’n ymwneud â’ch cymhwyster proffesiynol neu’n meddu ar gymhwyster anraddedig a ystyrir gan y Brifysgol i fod o safon boddhaol er diben mynediad uwchraddedig. Gofynnir i ymgeiswyr heb radd anrhydedd lawn 2:2 neu uwch gwblhau traethawd 1500 o eiriau
  • Bod ag o leiaf tair blynedd llawn amser (neu gyfnod cyfatebol pro rata) o brofiad clinigol ôl-gofrestru o gael eich cyflogi mewn swydd glinigol gyda lefel uchel o hunanreolaeth neu fod â chefnogaeth eich cyflogwr i sicrhau lleoliad gydag amser gwarchodedig cyfatebol i’r uchod o leiafswm o ddeuddydd yr wythnos
  • Os yn ymgymryd â’r cymwysterau Rhagnodi, mae’n rhaid i chi fod ag Ymarferydd Meddygol Goruchwyliol Penodedig (DSMP)/Goruchwylydd Meddygol a chefnogaeth mentoriaeth glinigol gan y corff sy’n eich cyflogi
  • Ar ôl i chi gwblhau ffurflen gais, fe’ch gwahoddir i fynychu cyfweliad gyda’r tîm derbyniadau

Asesu

Asesir pob modiwl gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu. Mae asesu ymarfer yn seiliedig o fewn modiwlau penodol a bydd yn cynnwys portffolio ymarfer yn cynnwys adroddiadau myfyriol ac astudiaethau gofal/cynlluniau rheolaeth clinigol. Bydd arholiadau aml-ddewis dibaratoad yn profi eich sylfaen wybodaeth mewn pynciau megis pathoffisioleg a ffarmacoleg.

Ceir Arholiadau Clinigol Strwythuredig (OCSEs) i brofi sgiliau seicomodurol a sgiliau gwneud penderfyniadau. Byddwch hefyd yn cael eich profi trwy aseiniadau theori ysgrifenedig. Bydd y rhain yn ategu eich gwybodaeth, yn ogystal â’r ymchwil glinigol/prosiect datblygu ymarfer gyda chynnig gwerthuso. Mae ymgymryd â’r ymchwil yma yn profi canlyniadau sy’n ymwneud ag ymchwil.

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk