Marchnata
Tystysgrif Broffesiynol mewn Marchnata
Diploma Proffesiynol mewn Marchnata
Mae’r Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM) yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel corff proffesiynol marchnata mwyaf blaenllaw’r byd gyda thros 60,000 o aelodau. Mae’r cyrsiau hyn yn gymwysterau trosglwyddadwy rhyngwladol gydnabyddedig sydd yn berthnasol ac ymarferol, gan adlewyrchu’r wybodaeth a’r sgiliau allweddol sy’n ofynnol gan ymarferwyr marchnata a gwerthu proffesiynol yr oes sydd ohoni.
Tystysgrif Broffesiynol
Mae’r lefel dystysgrif yn ddelfrydol os ydych wedi dechrau gweithio mewn amgylchedd marchnata yn ddiweddar a bod angen cymhwyster cyfnod cyntaf arnoch. Mae pwyslais y lefel dystysgrif ar sgiliau ymarferydd a chreu sylfaen gadarn yn holl brif gysyniadau a damcaniaethau marchnata.
Diploma Proffesiynol
Y lefel ddiploma yw’r cyfnod nesaf os ydych eisoes wedi derbyn Tystysgrif Broffesiynol mewn Marchnata neu’n meddu ar radd neu gyfwerth. Os nad yw’r cymwysterau uchod gennych chi, ond eich bod ar lefel oruchwyliol ac yn gallu dangos fod gennych brofiad priodol mewn marchnata neu werthu, gallwch hefyd ymuno ar y lefel yma.
Nodweddion arbennig
- Cyfle i gael mynediad cyflym i nifer o Raglenni Meistr mewn Prifysgolion yn y DU.
- Mae’r rhaglenni ar gael ar ddull modiwlaidd, hyblyg o fynychu.
- Mae asesiadau a nodiadau cwrs ar gael trwy’r we fel y gallwch astudio adref neu yn y gwaith.
- Byddwch yn derbyn safonau uwch o hyfforddiant a chefnogaeth.
- Mae gan y staff yn yr Ysgol Fusnes gysylltiadau gyda chymuned fusnes y gymuned, ac yn mwynhau perthynas waith dda gyda chyrff proffesiynol.
- Mae gan Glyndŵr Ganolfan Adnoddau Dysgu rhagorol sy’n rhoi modd i chi gael gafael ar wybodaeth a chysylltu â’r Gwasanaethau i Fyfyrwyr
- Mae gan bob myfyriwr ei gyfeiriad e-bost ei hun ac mae ganddynt fynediad am ddim i’r rhyngrwyd gan eu galluogi i ddefnyddio’r adnoddau cymorth helaeth sydd ar wefan CIM.
Sylwer: Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, argymhella CIM eich bod yn cael o leiaf y safon yn y defnydd o Saesneg sy’n gyfwerth â band 6 IELTS y Cyngor Prydeinig.
Mynd ymlaen i wneud gradd Meistr: os oes myfyrwyr sydd am fynd ymhellach, yna gallant ystyried ein MSc mewn Rheolaeth Marchnata sydd wedi’i lunio i ymgorffori Diploma Uwchraddedig y CIM ym maes llafur Marchnata. Bydd llwyddo yma nid yn unig yn arwain at radd Meistr ond hefyd at aelodaeth lawn o CIM.
Cyfleoedd gyrfaol
Daw myfyrwyr CIM o amrywiaeth eang o gefndiroedd busnes megis y sector cyhoeddus, telegysylltiadau, amaethyddaeth, hamdden, twristiaeth, bwyd, cludiant, gweithgynhyrchu a gwasanaethau ariannol. Mae rhai wrthi’n astudio ar gyfer graddau neu wobrau uwchraddedig ond yn ymwybodol o’r fantais gystadleuol y mae cymhwyster proffesiynol yn ei roi iddynt. Gallai eraill fod yn meddwl am neu newydd gychwyn gyrfa mewn gwerthu neu farchnata heb feddu ar unrhyw gymwysterau ffurfiol, ond sydd eisiau cael y sgiliau marchnata a fydd yn eu helpu i gyflawni eu nodau datblygiad proffesiynol. Mae yna lefel sy’n addas ar gyfer amcanion gyrfaol pawb.
Maes llafur
Tystysgrif Broffesiynol
Maes Llafur newydd 2008
|
Ymchwil a Gwybodaeth Marchnata |
Semester 1 |
|
Hanfodion Marchnata |
Semester 1 |
|
Asesu’r Amgylchedd Marchnata |
Semester 2 |
|
Marchnata Budd-ddeiliaid |
Semester 2 |
Diploma Proffesiynol
|
Y Broses Cynllunio Marchnata |
Semester 1 |
|
Darparu Gwerth i Gwsmer drwy Farchnata |
Semester 1 |
|
Rheolaeth Marchnata |
Semester 2 |
|
Rheolaeth Prosiect ar gyfer Marchnata |
Semester 2 |
Asesu
Byddwch yn cael tair arholiad 3-awr a bydd gofyn i chi gwblhau 3 aseiniad neu brosiect ar gyfer y Diploma Proffesiynol. Gellir cymryd arholiadau ym mis Rhagfyr a/neu ym mis Mehefin bob blwyddyn.
Gofynion mynediad
Tystysgrif Broffesiynol
Dylech fod wedi’ch addysgu at safon lefel A neu lefel 3 neu feddu ar brofiad perthnasol mewn marchnata.
Diploma Proffesiynol
- Tystysgrif Broffesiynol CIM mewn Marchnata (maes llafur 2002 neu 2008) neu
- Unrhyw BA neu Radd Meistr mewn Busnes neu Farchnata (neu gymhwyster cyfatebol) cyn belled â bod o leiaf un rhan o dair o’r credydau yn dod o farchnata (h.y. 120 credyd mewn gradd BA/BSc neu 60 o gredydau o radd Meistr) neu
- Brofiad mewn rôl rheoli marchnata sydd wedi rhoi’r dystiolaeth bod darpar fyfyrwyr yn gallu cwrdd â deilliannau dysgu’r Dystysgrif Broffesiynol mewn Marchnata.
Hyd y cwrs
1 mlynedd rhan amser ar gyfer pob lefel
* Bydd y derbyniad nesaf ar gyfer y Tystysgrif Broffesiynol ac y Diploma Uwchraddedig Proffesiynol ym mis Medi 2010.
Caiff pob un o’r tair lefel eu darparu dros ddau semester, un noson yr wythnos.
Tystysgrif Broffesiynol: Dydd Iau, 6pm - 9pm bob semester a chefnogaeth hyblyg. Cofrestru ym mis Medi neu Ionawr.
Diploma Proffesiynol: Dydd Iau, 6pm - 9pm bob semester a chefnogaeth hyblyg. Cofrestru ym mis Medi neu Ionawr.
Sylwer: Gallai’r diwrnod gael ei newid i ateb gofynion myfyrwyr neu adnoddau.
Semester 1 (Medi – Rhagfyr) yn cynnwys dwy ysgol Sadwrn ym mis Medi, dwy ym mis Hydref a dwy ym mis Tachwedd, 9:00-4:00.
Semester 2 (Ionawr – Mehefin) hefyd yn cynnwys dwy ysgol Sadwrn ym mis Mai, 9:00-4:00.
Cysyllut â ni
Os ydych yn fyfyriwr o’r DU neu’r UE ac eisiau mwy o wybodaeth, neu drafod unrhyw agwedd benodol o’r cwrs yma neu broses dderbyn ein Hysgol Fusnes, cysylltwch â’r Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr.
Desg Gwybodaeth Myfyrwyr
Rhif ffôn: 01978 293 439
Ebost: sid@glyndwr.ac.uk
Myfyrwyr rhyngwladol
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol sydd â diddordeb yn ein cyrsiau busnes, cysylltwch â ni fel a ganlyn:
- Ebost: international@glyndwr.ac.uk
- Rhif ffôn: 0044 1978 293433 (o dramor) neu 01978 293433 (o fewn y DU)
- Ffacs: 0044 1978 293385 (o dramor) neu 01978 293385 (o fewn y DU)
Mae Swyddfa Ryngwladol Prifysgol Glyndŵr ar agor o Ddydd Llun tan Ddydd Iau rhwng 08:30 a 17:00 GMT (08:30 tan 16:30 GMT ar Ddydd Gwener).
Cofiwch ystyried y gwahaniaeth amser rhwng y DU a’ch gwlad eich hun wrth gysylltu â ni.

