E-ddysgu
Tystysgrif Uwchraddedig mewn E-ddysgu: Theori ac Ymarfer
Sut gall technoleg wella a chefnogi’r ffordd y mae pobl yn dysgu? Gan fod mwy o ffocws nag erioed ar ffyrdd newydd o ddysgu, a ydych chi’n gymwys i fanteisio ar dechnoleg newydd?
Mae’r cwrs yma wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ym maes addysgu neu hyfforddi sydd â diddordeb mewn defnyddio technolegau newydd a datblygol er mwyn gwella eu hymarfer. Nid cwrs ‘technegol’ mohono; yn hytrach y mae’n un sy’n galluogi gweithwyr proffesiynol i wneud y defnydd gorau a mwyaf effeithiol o dechnoleg wrth helpu eu dysgwyr i ddysgu. Y mae’n berthnasol i bobl sy’n ymwneud ag addysgu a hyfforddiant mewn lleoliadau ffurfiol neu anffurfiol boed hynny yn y gymuned, mewn ysgolion, colegau, prifysgol neu ddiwydiant. Fe fydd hefyd o fudd i bobl sy’n ystyried symud i faes addysgu neu hyfforddiant. Mae’r cwrs yn darparu gweledigaeth gyfoes o e-ddysgu ac fe fydd yn archwilio materion sy’n ymwneud ag addysgeg, dylunio a gweithredu technolegau newydd.
Prif ffeithiau
- Caiff y cwrs ei ddarparu yn gyfan gwbl ar-lein, gan drwytho cyfranogwyr yn yr union gyfrwng y maent yn dymuno ei archwilio; mae’r cwrs ar gael trwy’r byd i gyd
- Gan ei fod ar lein, mae’r cwrs yn cynnig ffordd hyblyg o astudio – rydych chi’n dewis pryd ac ymhle rydych am astudio
- Wedi’i gyflenwi gan arbenigwyr o’r Deyrnas Unedig ac o Ewrop, bydd y cwrs yn datblygu eich gallu i ddefnyddio technoleg yn effeithiol er mwyn helpu eich myfyrwyr i gyflawni mwy
Hyd y cwrs
Rhan-amser
18 mis
Lleoliad: Darparu ar-lein; Wrecsam
Mis dechrau: Medi/Chwefror
Cyfleoedd gyrfa
Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn darparu unigolion gyda’r sgiliau a’r arbenigedd i elwa yn effeithiol ar dechnolegau newydd wrth addysgu neu hyfforddi. Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos fod gan fyfyrwyr sgiliau TG soffistigedig erbyn hyn a’u bod yn disgwyl i’w tiwtoriaid ddefnyddio technoleg i hwyluso eu dysg; bydd y cwrs yma yn eich helpu i fodloni’r disgwyliadau hynny.
Mae yna alw cynyddol trwy’r amgylchedd addysgol am unigolion sy’n meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i ddefnyddio technoleg yn effeithiol; bydd cwblhau’r cwrs yma yn llwyddiannus yn arddangos nodweddion o’r fath.
Cynnwys y cwrs
Mae’r Dystysgrif Ôl-radd mewn E-ddysgu yn cynnwys tri modiwl ugain-credyd, a’r cyfan wedi’u darparu ar-lein.
Modiwlau’r cwrs
Addysgeg ac Ymarfer
Mae’r modiwl yma yn archwilio natur dysgwyr, sut y gall arddulliau dysgu ddylanwadu ar y dull cyflenwi a sut y gall addysgu ‘ar-lein’ fod yn wahanol i addysgu confensiynol.
Technoleg a Dylunio
Mae’r modiwl yma yn archwilio’r technolegau hynny y gellir eu defnyddio i gefnogi eu dysgwyr.
Gweithredu a Rheoli
Yma byddwch yn astudio materion yn ymwneud â gweithredu a rheoli rhaglenni ar-lein. Er ei bod yn bosibl astudio pob modiwl yn unigol, argymhellir yn gryf fod y rhain yn cael eu cymryd fel rhaglen astudiaeth gydlynol.
Gofynion derbyn
Er mwyn astudio ar y cwrs yma bydd angen i chi arddangos eich gallu i astudio ar lefel ôl-raddedig; mae hyn fel arfer yn golygu bod â gradd israddedig neu gyfwerth ond byddwn yn ystyried cymwysterau mynediad anrhraddodiadol a phrofiad blaenorol. Bydd angen mynediad i’r rhyngrwyd arnoch, band eang os yn bosibl, a byddwch yn gweithio â grŵp o ddysgwyr, neu â mynediad i grŵp o’r fath. Bydd rhai agweddau ar y cwrs yn cael eu darparu drwy ddefnyddio sain ac/neu fideo ar-lein, a bydd angen offer priodol (clustffonau / meicroffon) arnoch i gymryd rhan lawn yn y gweithgareddau hyn.

