Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Systemau Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwyedd

MSc Systemau Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwyedd

MRes Ynni Adnewyddadwy a Chynhyrchu Gwasgaredig

Mae ynni adnewyddadwy a lleihau gollyngiadau carbon yn awr ar frig yr agenda fyd-eang. Bydd defnyddio ynni a thechnoleg glân a chynaliadwy yn cael effaith uniongyrchol ar leihau CO2 a chyfyngu ar effaith cynhesu byd-eang.

Nod y cwrs yw darparu safbwynt peirianneg drydanol/electronig arbenigol, yn enwedig o ran datblygu systemau deallus ac awtomatig i reoli defnyddio’r prif ffynonellau ynni gwynt/haul i gysylltu â’r Grid Cenedlaethol. Er gwaethaf teitl eang y cwrs hwn, mae wedi’i anelu'n gadarn at beirianwyr trydanol uchelgeisiol ym meysydd ynni adnewyddadwy a datblygu cynaliadwy.

Systemau Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwyedd PIC

Prif ffeithiau

  • Datblygwyd y cyrsiau hyn mewn ymgynghoriad â diwydiant ac mae ganddynt gysylltiadau cryf â sefydliad fferm wynt sy’n cefnogi prosiectau ar raddfa genedlaethol. Bydd cyfleoedd ar gael i chi deilwra eich gwaith ymchwil i waith y sefydliad hwn
  • Mae’r Brifysgol wrthi’n ceisio cael achrediad ar gyfer y cyrsiau hyn gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET)
  • Mae tîm y cwrs yn ymfalchïo yn ei staff brwdfrydig ac ymroddedig, ac fe gânt eu gwerthfawrogi’n fawr am ansawdd y cymorth a ddarperir i fyfyrwyr. Mae'r holl staff wrthi’n ymchwilio yn ogystal â dysgu
  • Mae gan dîm y cwrs gysylltiadau cryf â diwydiannau, cyrff proffesiynol a llawer o brifysgolion eraill, ac mae cyrff proffesiynol yn ymweld â ni yn rheolaidd mewn perthynas ag achredu cyrsiau
  • Mae cymhwyster Meistr mewn peirianneg bellach yn angenrheidiol os ydych yn dymuno bod yn Beiriannydd Siartredig
  • Cewch brofiad o ddatblygiadau technolegol blaenllaw mewn technoleg drydanol ac electronig
  • Cyfleusterau TG ac offer dadansoddi tra modern, a’r rheiny yn cefnogi elfennau ymchwil y radd yn ogystal â’r elfennau a ddysgir

Mae polisi'r Llywodraeth yn annog y diwydiant ynni i ymchwilio a datblygu ynni adnewyddadwy a chynaliadwy er mwyn lleihau allyriadau CO2, gan greu galw am raddedigion lefel Meistr sydd â gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf ym maes ynni adnewyddadwy, yn enwedig yn sgil y nifer cynyddol o ffermydd gwynt ar y môr ac ar y tir a godwyd i gyrraedd y targed ynni gwyrdd.

Bydd eich astudiaethau craidd yn cynnwys defnyddio systemau rhyngwynebu ynni i gysylltu offer cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar raddfa ddiwydiannol (yn enwedig ynni gwynt ac unedau ynni solar) â rhwydweithiau dosbarthu megis y Grid Cenedlaethol. Mae'r MSc yn astudio cynhyrchu a defnydd effeithlon ar ynni trydan o bŵer yr haul a'r gwynt, electroneg pŵer ar gyfer systemau ynni modern, dadansoddi sefydlogrwydd a rheoli ynni gweithredol.

Mae modiwlau eraill yn ymdrin â materion amgylcheddol ehangach, gan gynnwys asesu pa mor ymarferol yw cynlluniau peirianyddol newydd. Mae modiwlau eraill yn cael eu tynnu o ddetholiad o astudiaethau trydanol ac electroneg. Mae'r cwrs MRes yn gwrs Meistr wedi’i arwain gan ymchwil, ac mae’n cynnig cyfle i chi ddewis opsiynau arbenigol o'r MSc yn y maes hwn, ynghyd â phrosiect ymchwil mawr.

Cyfleoedd gyrfa

Mae'r Cyngor Peirianneg yn awr yn ei gwneud yn ofynnol i Beiriannydd Siartredig fod â chymwysterau hyd at lefel Meistr neu gyfwerth, felly ni fu erioed amser gwell i ystyried astudio ar gyfer cymhwyster Meistr mewn peirianneg.

Mae'r cwrs hwn wedi ei deilwra i ddiwallu anghenion cyflogwyr yn yr ardal hon, gan eich galluogi i gael dyrchafiad gyrfa neu arbenigo mewn ynni adnewyddadwy.

Cynnwys y Cwrs

MSc Systemau Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwyedd

  • Dulliau Ymchwil
  • Dylunio a Datblygiadau Newydd Cynaliadwy
  • Ynni a’r Amgylchedd: Polisïau ac Economeg
  • Pŵer Trydanol a Chynhyrchu Gwasgaredig

Opsiynau:

  • Gyriannau Trydanol ac Electroneg Ynni Uwch
  • Systemau Rheoli Uwch
  • Dylunio Systemau Gosodedig

MRes ynni adnewyddadwy a chynhyrchu gwasgaredig

  • Systemau Rheoli Uwch
  • Gyriannau Trydanol ac Electroneg Ynni Uwch
  • Dylunio Systemau Gosodedig
  • Adnoddau Ynni, Polisi ac Economeg Amgylcheddol
  • Dylunio a Datblygiadau Newydd Cynaliadwy

Gofynion mynediad

Cynlluniwyd y cyrsiau hyn fel llwybr ymlaen o radd israddedig gysylltiedig. Os oes gennych ddiddordeb yn y cwrs ond yn ansicr a fedrwch ymgeisio ai peidio, yna mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni. Os oes gennych ddiddordeb yn yr opsiwn MRes, yna dylech hefyd fod â phrofiad perthnasol o ddatblygu prosiect drwy eich cymhelliant personol eich hun.

Asesu

Cewch eich asesu trwy gydol eich cwrs drwy amryw o ddulliau gan gynnwys portffolios, cyflwyniadau ac, ar gyfer rhai pynciau, arholiadau.

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk