Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Systemau Trydanol ac Electronig

MSc Systemau Trydanol ac Electronig

MRes Systemau Trydanol ac Electronig

Mae'r ddwy raglen yma wedi eu hanelu at beirianneg electronig/trydanol diwydiannol, ac felly maent yn ffurfio’r rhaglen sylfaen ar gyfer ein darpariaeth MSc. Cynlluniwyd y rhaglenni hyn er mwyn cael sgiliau a dysg myfyrwyr i gyfateb ag anghenion diwydiannol modern.

Mae'r cyrsiau wedi eu hanelu at weithgynhyrchu modern, yn enwedig gweithgynhyrchu awtomataidd, gan gynnwys cymwysiadau amrywiol megis pweru a rheoli llinellau cynhyrchu, gwresogi, goleuo a cherbydau trydan.

Systemau Trydanol ac Electronig

Prif ffeithiau

  • Cefnogaeth ragorol ar gael i fyfyrwyr o fewn amgylchedd dysgu/ymchwil
  • Profiad o ddatblygiadau technolegol blaenllaw mewn technoleg drydanol ac electronig
  • Cyfleusterau TG ac offer dadansoddi tra modern, a’r rheiny yn cefnogi elfennau ymchwil y radd yn ogystal â’r elfennau a ddysgir.

Mae’r MSc Systemau Trydanol ac Electronig yn cyfuno meysydd technoleg drydanol a thechnoleg electronig, sef dau faes sy’n prysur ehangu. Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar y defnydd o bŵer electroneg a rheolaethau gyrru, ac mae’r cwrs felly yn darparu cymysgedd o gyrsiau trydanol ac electronig i roi’r sgiliau dadansoddi sydd eu hangen ar fyfyrwyr ar gyfer gwaith datblygu ym meysydd gyriannau trydan ar gyfer rheoli peiriannau wedi’u pweru gan fodur, electroneg ddiwydiannol a systemau rheoli.

Ar ôl cwblhau’r radd, bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth i fod ar flaen y gad yn nhechnoleg y byd modern. Mae'r cwrs MRes yn gwrs Meistr ymchwil-ganolog sy'n rhoi cyfle i chi ddewis opsiynau arbenigol o’ch rhaglenni MSc, ynghyd â gwneud prosiect ymchwil manwl, gan eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwil.

Cyfleoedd gyrfa

Mae'r Cyngor Peirianneg yn awr yn ei gwneud yn ofynnol i Beiriannydd Siartredig fod â chymwysterau hyd at lefel Meistr neu gyfwerth, felly ni fu erioed amser gwell i ystyried astudio ar gyfer cymhwyster Meistr mewn peirianneg. Mae'r cwrs hwn wedi ei deilwra i ddiwallu anghenion cyflogwyr lleol gan eich galluogi i gael dyrchafiad gyrfa neu arbenigo mewn systemau trydanol ac electronig diwydiannol.

Cynnwys y cwrs

MSc Systemau Trydanol ac Electronig

  • Dulliau Ymchwil
  • Dylunio a Datblygiadau Newydd Cynaliadwy
  • Systemau Rheoli Uwch
  • Gyriannau Trydanol ac Electroneg Ynni Uwch
  • Dylunio a Phrofi Electronig Uwch
  • Traethawd Estynedig

Opsiynau

  • Prosesu Signal a Delwedd Uwch
  • Systemau Gosodedig

MRes Systemau Trydanol ac Electronig

  • Dulliau Ymchwil
  • Traethawd Estynedig

Opsiynau (dewiswch ddau fodiwl o’r rhain)

  • Dylunio a Datblygiadau Newydd Cynaliadwy
  • Pŵer Trydanol a Chynhyrchu Gwasgaredig
  • Dylunio a Phrofi Electronig Uwch
  • Systemau Cyfathrebu Digidol
  • Systemau Afioneg Awyrennau

Gofynion mynediad

Gradd gyntaf dda neu gyfwerth mewn disgyblaeth beirianneg briodol.

Asesu

Cewch eich asesu trwy gydol eich cwrs drwy amryw o ddulliau gan gynnwys gwaith ymarferol, portffolios, cyflwyniadau ac, ar gyfer rhai pynciau, arholiadau.

Engineering council logo welsh

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk