Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu

Mae diwydiant yn ganolbwynt i’w cyrsiau hyn, a thrwy eu hastudio byddwch ar y blaen yn y byd gweithgynhyrchu a mecaneg.

Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu

Prif ffeithiau

• Mae’r Brifysgol wrthi’n ceisio cael achrediad ar gyfer y cyrsiau newydd hyn gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE)
• Mae tîm y cwrs yn ymfalchïo yn ei staff brwdfrydig ac ymroddedig, ac fe gânt eu gwerthfawrogi’n fawr am ansawdd y cymorth a ddarperir i fyfyrwyr.
Mae'r holl staff wrthi’n ymchwilio yn ogystal â dysgu.
• Mae gan yr ardal gysylltiadau cryf gyda diwydiannau, cyrff proffesiynol a llawer o brifysgolion eraill, ac mae cyrff proffesiynol yn ymweld â ni yn rheolaidd mewn perthynas ag achredu cyrsiau.
• Mae cymhwyster Meistr mewn peirianneg yn awr yn ofynnol os ydych yn dymuno bod yn Beiriannydd Siartredig.
• Cewch brofiad o ddatblygiadau technolegol blaenllaw mewn technoleg drydanol ac electronig. 
• Cyfleusterau TG ac offer dadansoddi tra modern, a’r rheiny yn cefnogi elfennau ymchwil y radd yn ogystal â’r elfennau a ddysgir.

Mae’r angen a’r galw am beirianwyr mecanyddol a gweithgynhyrchu sydd â chymwysterau uchel ar eu huchaf erioed yn y Deyrnas Unedig. Mae adroddiad diweddar gan y llywodraeth yn cyflwyno gweledigaeth i'w chyflawni erbyn 2022 i sicrhau bod y Deyrnas Unedig ar flaen y gad yn fyd-eang mewn technoleg cynhyrchu awyrofod.
Bydd ffocws y cwrs hwn ar ymchwil a datblygu mewn meysydd megis dadansoddi cyfrifiadurol, dylunio, gyriad uwch, adain gymysg, dylunio strwythurol, datblygiad deunyddiau cyfansawdd a datblygiadau uwch.
Cynlluniwyd y cyrsiau MSc hyn mewn ymgynghoriad â diwydiant a byddant yn ymestyn dyfnder eich astudiaethau ym meysydd peirianneg fecanyddol a gweithgynhyrchu i lefel uwch. Byddant yn rhoi’r gallu i chi integreiddio a datrys problemau mewn amrywiaeth o feysydd peirianneg ac yn rhoi'r hyder i chi arwain dylunio, datblygu a chymhwyso technoleg newydd ac arloesol.

Cyfleoedd gyrfa

Mae'r Cyngor Peirianneg yn awr yn ei gwneud yn ofynnol i Beiriannydd Siartredig fod â chymwysterau hyd at lefel Meistr neu gyfwerth, felly ni fu erioed amser gwell i ystyried astudio ar gyfer cymhwyster Meistr mewn peirianneg.
Mae'r cwrs hwn wedi ei deilwra i ddiwallu anghenion cyflogwyr lleol gan eich galluogi i gael dyrchafiad gyrfa neu arbenigo mewn peirianneg fecanyddol neu weithgynhyrchu.

Cynnwys y cwrs

Bydd myfyrwyr yn gallu dewis prosiect ymchwil o ystod eang o bynciau gan roi cyfle iddynt ganolbwyntio ar eu cryfderau a dilyn eu diddordebau hwy eu hunain.

MSc Peirianneg Fecanyddol
• Dulliau a Chynllunio Ymchwil
• Dynameg Hylif Gyfrifiadurol Uwch
• Dadansoddiadau Rhifedd a Strwythurau
• Deunyddiau Datblygedig
• Technolegau Gweithgynhyrchu Uwch
• Llif Gludiog a Throsglwyddo Gwres
• Traethawd estynedig

MSc Gweithgynhyrchu
• Dulliau a Chynllunio Ymchwil
• Dadansoddiadau Rhifedd a Strwythurau
• Deunyddiau Datblygedig
• Technolegau Gweithgynhyrchu Uwch
• Systemau Cynhyrchu a Chydosod Uwch
• Deunyddiau Cyfansawdd
• Traethawd estynedig

MRes Peirianneg Fecanyddol
MRes Gweithgynhyrchu
Byddwch yn dilyn modiwlau o’r cyrsiau MSc perthnasol, ynghyd â phrosiect ymchwil helaeth.

Gofynion mynediad

Cynlluniwyd y cyrsiau hyn i fod llwybr ymlaen o radd israddedig gysylltiedig. Os oes gennych ddiddordeb yn y cwrs ond yn ansicr a fedrwch ymgeisio ai peidio, yna mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni.

Asesu

Cewch eich asesu trwy gydol eich cwrs drwy amryw o ddulliau gan gynnwys portffolios, cyflwyniadau ac, ar gyfer rhai pynciau, arholiadau.

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk