Diwrnod agored rhithwir
Cynhelir rhith-ddiwrnod agored nesaf Prifysgol Glyndŵr rhwng 11am a 2pm Ddydd Mercher, Ebrill 25.
Bydd y digwyddiad yn gyfle i chi siarad â staff yn y brifysgol am eich dewis o gyrsiau, gofynion mynediad a ffioedd.
Ar y diwrnod, byddwn hefyd yn cael cynnwys fideo newydd a gwybodaeth am yr ystod o gyfleoedd sydd ar gael ar gyfer astudio uwchraddedig ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Os ydych yn bwriadu ymuno â ni yn 2012-13, 2013-14 neu thu hwnt, buasem yn falch iawn o sgwrsio â chi ar-lein am yr amrywiaeth eang o gyfleoedd y byddwn yn eu cynnig yn ein diwrnod agored nesaf. Daliwch i wirio’r wefan am ddyddiadau i ddod.
O raddau a addysgir i ymchwil, cewch ffeithiau am fywyd yn yr Ysgol i Raddedigion a’r drysau y gall astudio uwchraddedig eu hagor i chi yn y dyfodol.
I gofrestru eich diddordeb yn y rhith-ddiwrnod agored, ebostiwch marketing@glyndwr.ac.uk.

