Iechyd Cyhoeddus
Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus (MPH)*
Mae Iechyd Cyhoeddus yn ymwneud â gwella iechyd a lles y boblogaeth. Atal afiechyd, gostwng effaith ei ganlyniadau, ymestyn bywyd gwerthfawr a lleihau anghydraddoldeb mewn iechyd.
|
|
||
|
|
Iechyd CyhoeddusMeistr mewn Iechyd Cyhoeddus (MPH)* Mae Iechyd Cyhoeddus yn ymwneud â gwella iechyd a lles y boblogaeth. Atal afiechyd, gostwng effaith ei ganlyniadau, ymestyn bywyd gwerthfawr a lleihau anghydraddoldeb mewn iechyd. Mae’r ymagwedd iechyd cyhoeddus yn ddi-ben-draw. Mae’n ymwneud â materion eang megis penderfynyddion iechyd ac effaith tai, cynllunio trefol, globaleiddio neu ddiweithdra ar iechyd cymdeithas, yn ogystal â mynd i’r afael ag afiechyd, ymestyn bywyd a newid ffordd o fyw unigolion. Gan hynny, mae iechyd cyhoeddus yn gofyn am weithlu amlddisgyblaethol medrus, sy’n dod o ystod eang o asiantaethau, i weithio gyda chymunedau er mwyn gwella iechyd yn ei synnwyr ehangaf. Mae’r cwrs yma yn ddelfrydol ar gyfer ystod eang o ymarferwyr awdurdodau iechyd a lleol sy’n ceisio gwella eu gwybodaeth a’u sgiliau o fewn maes iechyd cyhoeddus. Bydd y cwrs yma o fudd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn agweddau ac ymyriadau wedi’u cynllunio i wella iechyd poblogaethau yn fyd-eang, yn y DU ac ar lefelau unigol a chymunedol. Prif ffeithiau
Rydym wedi ymestyn y rhaglen MIC yn ddiweddar ac hefyd yn cynnig:
Er mwyn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau academaidd ac ymarferydd ymhellach, gwella meysydd o arbenigedd a’ch cynorthwyo i gofrestru gyda Chofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU (UKPHR). Mae mwy o gyrsiau byrsion wrthi’n cael eu datblygu felly gwiriwch gydag arweinydd y rhaglen am y manylion diweddaraf. Cyflenwir y cwrs gan dîm profiadol ac amlddisgyblaethol o arbenigwyr o feysydd Iechyd Galwedigaethol, Iechyd Amgylcheddol, Cymdeithaseg, Seicoleg, Ystadegau, Epidemioleg, Gwaith cymunedol, Nyrsio a Diogelu Iechyd. Yn ogystal, mae ystod o ddarlithwyr gwadd ac anrhydeddus lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn cyfrannu at y rhaglen. Hyd y cwrsLlawn-amser: 1 flynedd Rhan-amser: 2 - 5 mlynedd Lleoliad: Wrecsam Mis dechrau: Medi Mae addysgu ar gyfer astudiaeth ran-amser yn gofyn i chi fynychu’r Brifysgol un prynhawn yr wythnos (Dydd Mercher 1-7pm ar hyn o bryd ac eithrio’r flwyddyn gyntaf, yr ail semestr a fydd yr un amser Ddydd Mawrth) fel y gallwch astudio ochr yn ochr a gweithio a ymrwymiadau eraill. Mae addysgu ar gyfer astudiaeth lawn amser yn gofyn i chi fynychu’r Brifysgol ddau brynhawn yr wythnos. * yn amodol ar gael ei ddilysu Cyfleoedd gyrfaMae ein cwrs iechyd cyhoeddus wedi ei gynllunio i ddarparu pobl gyda’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i weithio o fewn maes eang ac ehangol iechyd cyhoeddus, a thrwy hynny yn cynorthwyo dilyniant gyrfaol. Modiwlau’r cwrs
Modiwlau opsiynol:
Gofynion mynediadGradd israddedig neu gyfatebol mewn pwnc iechyd neu gysylltiedig neu o leiaf bum mlynedd o brofiad perthnasol. Rydym hefyd yn croesawu ac yn annog pobl gyda graddau nad ydynt yn ymwneud ag iechyd, ac eraill sy’n gallu bodloni’r Brifysgol eu bod yn gymwys ac yn addas i ymgymryd â chwrs uwchraddedig. Gallwch wneud hyn trwy ddangos portffolio o dystiolaeth i gefnogi eich cais a dangos eich gallu i astudio ar lefel Meistr. Rydym yn croesawu ceisiadau o dramor. Asesu
Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus - proffilau academaiddDr Lynne Kennedy PhD MPHil RPHNutr. Hon MFPHM (Cyfarwyddwraig y Cwrs) Mae Dr Kennedy wedi gweithio mewn iechyd cyhoeddus GIG, Ewropeaidd ac academaidd ers bron i 20 mlynedd. Treuliodd Lynne 14 blynedd ym Mhrifysgol Lerpwl, ble bu’n ymwneud â’r rhaglen MIC ac y mae’n Aelod Anrhydeddus o’r Gyfadran Iechyd Cyhoeddus. Dr Charlotte Emma Hilton PhD; CPsychol (Arweinydd y Rhaglen) Mae Dr Hilton wedi gweithio mewn lleoliadau iechyd meddwl a chyhoeddus fel ymarferydd ac fel ysgolhaig ers dros 10 mlynedd. Y mae’n Seicolegydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff Siartredig sy’n arbenigo mewn seicometreg, cynllunio a gwerthuso ymyrraeth iechyd cyhoeddus a chwnsela newid ymddygiad. Mae Charlotte hefyd yn aelod o’r Rhwydwaith o Hyfforddwyr Cyfweld Ysgogiadol (MINT). Bydd Charlotte a Lynne yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi am y cwrs Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus, gan gynnwys atebion i rai o’r cwestiynau a holir yn aml y gallai darpar fyfyrwyr eu gofyn am y cwrs. |
Am fwy o wybodaeth |