|
|
||
|
|
Peirianneg AwyrennolMSc Peirianneg Awyrennau Maes peirianneg awyrennau yw un o’r rhai mwyaf amrywiol, technegol ddatblygedig a heriol i weithio ynddo. Gan fod y Deyrnas Unedig yn enwog am ei rhagoriaeth mewn peirianneg awyrennau, mae astudio i lefel Meistr yng Nghymru, sydd â hanes hir o beirianneg awyrennau, erbyn hyn yn gyfuniad pwerus iawn. Mae peirianneg awyrennau hefyd yn faes peirianneg poblogaidd sy’n datblygu’n gyflym. Yn sgil y duedd fyd-eang i fod eisiau teithio ar gyflymder a'r dyluniad radical diweddar o gael awyrennau masnachol deulawr, dyma’r cyfnod mwyaf cyffrous a diddorol i astudio'r pwnc hwn hyd yma. Mae gan Brifysgol Glyndŵr gysylltiadau agos â'r diwydiant awyrofod gan gynnwys Airbus UK, sydd wedi helpu i deilwra’r cwrs i gwrdd â gofynion y diwydiant.
Prif ffeithiau• Mae'r cyrsiau hyn yn eich galluogi i wneud cais i ddod yn aelod myfyrwyr o Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) a'r Gymdeithas Awyrennol Frenhinol (RAeS) Cyfleoedd GyrfaBydd y cyrsiau yn rhoi cyfle i chi fynd ymlaen yn eich gyrfa i lefel rheoli. Efallai y byddwch hefyd am ystyried swyddi ymgynghori, ymchwil a datblygu neu brofi a dylunio o fewn y diwydiant awyrennau. Cynnwys y cwrsMSc Peirianneg Awyrennau MRes Peirianneg Awyrennau Gofynion mynediadGradd anrhydedd gydag o leiaf dosbarth 2:2 neu gyfwerth mewn disgyblaeth beirianneg briodol neu brofiad proffesiynol perthnasol. AsesuCewch eich asesu trwy gydol eich cwrs drwy amryw o ddulliau gan gynnwys portffolios, cyflwyniadau ac, ar gyfer rhai pynciau, arholiadau.
|
Am fwy o wybodaeth |