Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Technoleg y Cyfryngau Creadigol

MSc Technoleg y Cyfryngau Creadigol

Mae’r byd yn cael ei drawsnewid yn sgil twf technolegau newydd. Un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yw darlledu digidol aml-sianel a’r cyfryngau creadigol a rhyngweithiol, a hynny yn sgil y ffaith fod technolegau gwybodaeth a chyfathrebu yn cydgyfeirio.

Mae'r galw am adloniant addysgiadol a chynnwys addysgol yn tyfu ym mhob sector. Mae hyn yn fwyaf amlwg yn y diwydiannau creadigol ac adloniant, lle mae animeiddio 3D arloesol, sain a cherddoriaeth, graffeg symudol a thechnolegau amgylchedd rhyngweithiol yn datblygu’n hynod gyflym.

Mae hwn yn gwrs ymarferol sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio technoleg yn greadigol. Nodwedd arloesol y cwrs yw archwilio'r ffiniau sy’n diflannu rhwng diwydiant, dylunio, y celfyddydau gweledol, a thechnoleg gyfrifiadurol a chyfathrebu o ganlyniad i dechnoleg ddigidol. Mae'r cwrs hwn yn bodloni'r galw cynyddol hwn am weithwyr proffesiynol amlgyfrwng, sain, cerddoriaeth, ffilm a theledu sy’n gallu cyfuno gwybodaeth dechnegol â dawn greadigol ac ymwybyddiaeth fasnachol.

MSc Technoleg y Cyfryngau Creadigol pic

Gan ddatblygu sgiliau uwch ym mhob un o'r meysydd hyn, cewch eich annog i weithio ar draws ffiniau i gyfrannu at y diwydiant cyffrous hwn. Nod y cwrs yw dwyn ynghyd ystod eang o raddedigion o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd ac rydym yn annog ceisiadau gan ddylunwyr gweledol, rhaglenwyr, technolegwyr cerddoriaeth a thechnolegwyr mewn meysydd cydgyfeiriol eraill. Mae'n cynnig cyfle i gydweithio, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer y ffordd o weithio mewn tîm a geir yn y diwydiant. Mae dewisiadau’r cwrs yn rhoi modd i fyfyrwyr ddatblygu gallu ymarferol mewn amrywiaeth o dechnolegau gwahanol (gweledol, sain ac ar y rhyngrwyd).

Prif ffeithiau

  • Mae’r modiwl Cynhyrchu Sain a Cherddoriaeth Cymhwysol yn rhoi profiad i chi o ddefnyddio’r galluoedd sain a geir yn gyffredinol mewn cyfrifiaduron modern, ac sydd ar gael o gymwysiadau amlgyfrwng. Caiff eu defnydd mewn ystod eang o feysydd ei archwilio, gan gynnwys amgylcheddau rhithwir, cerddoriaeth cyfrifiadur, lleferydd cyfrifiadur, gorchymyn llais cyfrifiaduron a chymwysiadau eraill yn ogystal â chynhyrchu dilyniant sain cydlynol a phriodol ar gyfer rhaglen benodol
  • Byddwch yn astudio amgylcheddau datblygu amlgyfryngau sy’n cynnwys prif feysydd amlgyfrwng rhyngweithiol, a’r offer a’r technegau a ddefnyddir ar hyn o bryd wrth weithredu systemau amlgyfrwng gan gynnwys Adobe CS3, Adobe Flash, Adobe Director, Abode Premier, 3D Studio Max a Maya
  • Cewch y cyfle i astudio sut i ddylunio a datblygu gwefannau masnachol. Mae’r cwrs ymarferol hwn yn sôn am y dulliau, offer a'r technegau sydd eu hangen i ddatblygu  systemau ar y we sy’n ddiogel ac o ansawdd uchel. Byddwch hefyd yn dysgu am ddatblygu cymwysiadau symudol ac ar y rhyngrwyd; datblygu cymwysiadau busnes yn seiliedig ar y rhyngrwyd dros y We drwy ddefnyddio C#, AJAX, ASP, NET a chymwysiadau symudol gan gynnwys Web 2.0 a chymwysiadau sy’n seiliedig ar XML (e.e. gwasanaethau ar y we, xhtml-symudol)
  • Caiff darlithoedd/tiwtorialau a sesiynau ymarferol eu cyfoethogi drwy ddefnyddio deunyddiau ychwanegol ar-lein sy’n llawn adnoddau, gan roi modd i chi barhau i ddysgu’n annibynnol trwy amrywiaeth o ddulliau
  • Addysgir gan staff sy’n arwain ymchwil i feysydd y rhyngrwyd a rhwydweithiau cyfrifiadurol
  • Mae gweithgareddau ymchwil yn gysylltiedig â grŵp ymchwil cyfrifiadura’r Brifysgol, sef y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Rhyngrwyd Gymwysedig (CAIR). Yn y Ganolfan hon, mae timoedd ymchwil/prosiect yn astudio agweddau gwahanol ar dechnolegau a chymwysiadau’r rhyngrwyd gan gynnwys algorithmau’r rhwydwaith, cynllunio a rheoli rhwydwaith a rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiadur

Hyd y cwrs

Llawn amser:

Blwyddyn

Rhan-amser:

2-3 blynedd

Lleoliad: Wrecsam
Mis dechrau: Medi

Cyfleoedd gyrfa

Ar ôl cwblhau’r MSc yn llwyddiannus, byddwch wedi dangos dealltwriaeth systematig ac ymwybyddiaeth feirniadol, llawer ohono ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth; dealltwriaeth gynhwysfawr ac ymarferol o dechnegau perthnasol; gwreiddioldeb wrth ddefnyddio gwybodaeth; y gallu i werthuso ymchwil a methodolegau cyfredol, a’r gallu i ddysgu yn annibynnol fel sy’n ofynnol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.

Cynnwys y cwrs

Mae cynllunio datblygiad personol yn rhan annatod o broses ddysgu pob elfen o’r cwrs.

  • Astudiaethau Ôl-radd a Dulliau Ymchwilio
  • Technolegau Newydd a Thechnoleg y Dyfodol
  • Cynhyrchu Sain a Cherddoriaeth Cymhwysol
  • Amgylcheddau Datblygu Amlgyfryngau
  • Dylunio a Datblygu Gwefan Fasnachol
  • Datblygu Cymwysiadau Gwe a Symudol
  • Traethawd Estynedig / Prosiect

Gofynion derbyn

Y gofyniad derbyn safonol ar gyfer y rhaglen MSc yw gradd anrhydedd â dosbarth 2:2 ar y lleiaf neu gymhwyster cyfwerth, er y gellid mewn rhai achosion dderbyn ymgeiswyr sydd â phrofiad masnachol neu ddiwydiannol sylweddol, yn amodol ar gyfweliad a geirda.

Cysylltwch â ni

Am fwy o wybodaeth, neu i drafod unrhyw agwedd benodol ar y cwrs yma neu ein proses dderbyn, gallwch gysylltu â Nigel Houlden, a fydd yn fwy na pharod i’ch helpu:

Nigel Houlden, Tiwtor Derbyn
Ysgol Cyfrifiadura a Thechnoleg Cyfathrebu, Prifysgol Glyndŵr
Rhif ffôn uniongyrchol: 01978 293082
Ebost: n.houlden@glyndwr.ac.uk

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk