Text begins here:
Rheolaeth Marchnata
MSc Rheolaeth Marchnata
Mae gradd meistr mewn Rheolaeth Marchnata yn cynnig mwy o gyfleoedd gyrfa nag erioed o’r blaen. Wrth i farchnadoedd newydd fel Tsieina ac India ddod i’r fei a denu’r genhedlaeth nesaf o farchnatwyr, mae llwybrau gyrfa yn mynd yn fwyfwy amrywiol a llewyrchus.
Cydnabyddir bod marchnata erbyn hyn yn swyddogaeth allweddol i lwyddiant sefydliadau. O ganlyniad, ffocws y cwrs yw datblygu ymwybyddiaeth ac arbenigedd marchnata myfyrwyr, ac yn hynny o beth mae rhoi theori marchnata ar waith yn thema amlwg trwy gydol y cwrs.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio gan diwtoriaid sydd wrthi’n ymchwilio ac sydd â llawer o brofiad busnes yn y maes marchnata. Mae cynnwys y cwrs gradd yn yr ail gam wedi’i gynllunio’n benodol i gyd-fynd â safonau a maes llafur proffesiynol Sefydliad Siartredig dros Farchnata (CIM) y Deyrnas Unedig. Y CIM yw’r gymdeithas farchnata fwyaf yn y byd.
Trwy gael MSc mewn Rheolaeth Marchnata, bydd y CIM yn galluogi graddedigion i gael statws aelodaeth broffesiynol heb orfod sefyll a phasio ei Diploma Ôl-raddedig Proffesiynol ei hun mewn Marchnata.
Prif ffeithiau
- Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol os ydych newydd raddio ac yn chwilio am gymhwyster ôl-raddedig i roi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad.
- Mae ein MSc Rheolaeth Marchnata wedi'i gynllunio i ddatblygu sgiliau sydd gennych eisoes drwy gynllun astudio arbenigol ac uwch.
- Bydd y cwrs yn rhoi hyfforddiant dadansoddol perthnasol i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â'r datblygiadau damcaniaethol ac ymarferol diweddaraf sy’n ymwneud â marchnata a rheoli.
- Byddwch yn gallu deall y fframwaith damcaniaethol cydlynol ar gyfer y gwahanol feysydd pwnc, a'u defnyddio yn ymarferol mewn amgylchiadau byd go-iawn.
- Mae gan ein staff academaidd brofiad diwydiannol
- Bydd cwblhau’r MSc mewn Rheolaeth Marchnata yn eich galluogi i gael statws aelodaeth broffesiynol o’r CIM
- Dysgu ac addysgu sydd â ffocws ar yrfa.
- Mynediad at brif gyflogwyr Prydeinig a rhyngwladol yn y diwydiannau gwasanaeth a chynhyrchu
Hyd y cwrs
Llawn amser: blwyddyn
Lleoliad: Wrecsam Mis dechrau: Medi
Mae’r cwrs yma yn ddelfrydol i chi os ydych yn weithiwr proffesiynol yn y maes marchnata ac eisoes yn meddu ar radd fusnes ac/neu yn astudio ar hyn o bryd ar gyfer cymwysterau CIM proffesiynol; neu’n rheolwr ar unrhyw lefel sy’n gweithio yn y sectorau masnachol, cyhoeddus neu wirfoddol a’ch bod am ddod i ddeall effaith penderfyniadau marchnata ar swyddogaethau eraill, yn ogystal â pherfformiad eich sefydliad/corff. Mae’r MSc Rheolaeth Marchnata hwn yn perthyn i gyfres o gyrsiau MSc sy’n rhoi cyfle i chi ganolbwyntio ar fodiwlau penodol sydd o ddiddordeb i chi neu i gefnogi eich llwybr gyrfa trwy ddewis dau fodiwl MSc opsiynol er mwyn cael dyfarniad MSc arbenigol.
Cyfleoedd gyrfa
Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn eich darparu gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer swyddi uwch reolwyr.
Cynnwys y cwrs
Rhan 1, Cam 1 (Tystysgrif Ôl-raddedig)
- Arwain a Rheoli Pobl
- Cyllid a Systemau Gwybodaeth ar gyfer Rheolwyr
- Datblygu Mantais Gystadleuol
- Sicrhau Llwyddiant Corfforaethol
Cam 2 (Diploma Ôl-raddedig)
- Marchnata Rhyngwladol, Theori i Ymarfer
- Marchnata a Chynllunio Strategol
Rhan 2 (MSc)
- Traethawd estynedig Meistr
Gofynion derbyn
Y gofynion derbyn yw gradd anrhydedd dda (neu gyfwerth) neu gymhwyster ôl-raddedig perthnasol neu gymhwyster proffesiynol. Fel arall, fe ellid derbyn cymhwyster anraddedig y mae’r brifysgol yn ei ystyried yn dderbyniol ar gyfer mynediad uwchraddedig os yw’n cynnwys digon o elfennau rheolaeth ynghyd â phrofiad cyflogaeth perthnasol. Gallwn gynnal cyfweliad er mwyn rhoi cyfle i chi ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y rhaglen hon. Os oes gennych Ddiploma CIM mewn Marchnata fe allech wneud cais i ymuno â’r rhaglen yn y cam cyntaf ond cewch eich eithrio o’r modiwl Datblygu Mantais Gystadleuol.
Asesu
Caiff amrywiaeth o strategaethau asesu eu defnyddio gan diwtoriaid academaidd ar y cwrs hwn. Mae asesiadau yn cynnwys arholiadau ysgrifenedig ffurfiol, cyflwyniadau, prosiectau gwaith grŵp a gwaith ymchwil annibynnol.
Cysylltwch â ni
Os ydych yn fyfyriwr/wraig o’r DU neu’r UE ac eisiau mwy o wybodaeth, neu er mwyn trafod unrhyw agwedd benodol ar y cwrs yma neu broses dderbyn ein Ysgol Fusnes, cysylltwch â SID (Desg Gwybodaeth Myfyrwyr).
Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr Rhif ffôn: 01978 293439 Ebost: sid@glyndwr.ac.uk
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|