Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

MSc Electroneg a Rheolaeth Awyrennau

Mae awyrennau, hyd yn oed yn fwy na cherbydau eraill o bosibl, yn dibynnu fwyfwy ar systemau awtomatig sy’n seiliedig ar gyfrifiadur. Mewn awyrennau, mae systemau rheolaeth, cyfathrebu ac afioneg yn gynyddol yn hedfan yr awyren yn awtomatig.

Mae'r cwrs hwn yn gyfle i gyfuno gwybodaeth o electroneg gyda diddordeb mewn awyrennau gan felly ddatblygu, modelu a phrofi systemau rheolaeth mewn awyren a hynny drwy ‘hedfan’ ein dynwaredwr hedfan 3-echel.

MSc Electroneg a Rheolaeth Awyrennau

Prif ffeithiau

• Cefnogaeth ragorol ar gael i fyfyrwyr o fewn amgylchedd dysgu/ymchwil.
• Profiad o ddatblygiadau technolegol blaenllaw mewn technoleg drydanol ac electroneg.
• Cyfleusterau TG ac offer dadansoddi tra modern, a’r rheiny yn cefnogi elfennau ymchwil y radd yn ogystal â’r elfennau a ddysgir.
• Mae gan y Brifysgol gyfleusterau rhagorol ar gyfer y cwrs hwn gan gynnwys ein dynwaredwr peirianneg hedfan sydd o’r radd flaenaf, yn ogystal â rhannu cyfleusterau ag Airbus UK o ran deunyddiau cyfansawdd.
• Datblygwyd cysylltiadau cryf o fewn y diwydiant awyrennau, gan gynnwys Airbus sydd â’r safle gweithgynhyrchu adenydd mwyaf yn Ewrop a hwnnw gerllaw ym Mrychdyn

Mae'r pwnc ‘afioneg’ yn gyffredinol yn cwmpasu dau faes arbenigol, sef (i) technolegau sy’n seiliedig ar radio, microdon a radar a (ii) rheoli awyrennau yn awtomatig.
Cewch astudio systemau rheoli awyrennau yn ddwys, yn enwedig o ran defnyddio rhwydweithiau cyfrifiadurol yn yr awyr er mwyn rheoli hedfan (rheoli hedfan awtomatig a hedfan â gwifrau/fly-by-wire). I wneud hyn, datblygir eich dealltwriaeth o nodweddion hedfan awyrennau wrth eu hastudio.

Mae'r cwrs hwn yn seiliedig ar ddefnyddio'r dynwaredwr peirianneg hedfan tair-echel llawn i gael nodweddion perfformiad awyren benodol ac i ddylunio systemau rheolaeth ar ei chyfer. Cefnogir hyn gan astudiaethau eraill mewn theori rheoli ac electroneg wedi’u dewis o amrywiaeth o fodiwlau dewisol.
Mae'r traethawd estynedig (un rhan o dair o amser y cwrs) yn eich galluogi i ddatblygu unrhyw ddiddordeb arbenigol sydd gennych er mwyn dod yn arbenigwr yn y pwnc hwnnw.


Cyfleoedd Gyrfa

Mae’r MSc yn ddelfrydol os ydych wedi graddio ac eisoes yn gweithio yn y maes electroneg ac eisiau diweddaru eich sgiliau, neu gael cyfleoedd gyrfa pellach. Y mae hefyd yn addas os ydych newydd raddio ac yn ceisio cael sgiliau uwch, neu os ydych wedi graddio o ddisgyblaeth arall cysylltiedig ond eisiau newid cyfeiriad eich gyrfa.
Ar ôl cwblhau’r MSc Electroneg a Rheolaeth Awyrennau yn llwyddiannus, dylech allu cael swydd ar lefel uwch fel peiriannydd afioneg neu ddylunydd systemau hedfan. Gallai camau pellach olygu ymchwil academaidd, gan gynnwys astudio ar lefel doethur.

Cynnwys y Cwrs

• Dulliau Ymchwil
• Dylunio a Datblygiadau Newydd Cynaliadwy
• Systemau Afioneg Awyrennau
• Dynameg a Rheoli Hedfan
• Opsiynau Systemau Rheoli Uwch
• Systemau Cyfathrebu Digidol
• Dylunio a Phrofi Electronig Uwch
• Electroneg Amledd Radio
• Traethawd Estynedig

Gofynion mynediad

Gradd anrhydedd dda neu gyfwerth mewn disgyblaeth beirianneg briodol neu brofiad proffesiynol perthnasol.

Asesu

Cewch eich asesu trwy gydol eich cwrs drwy amryw o ddulliau gan gynnwys gwaith ymarferol, portffolios, cyflwyniadau ac, ar gyfer rhai pynciau, arholiadau.

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk