Text begins here:
MSc Cyfrifiadura
Mae dibyniaeth busnesau a phersonol ar systemau cyfrifiadurol ar ei huchaf erioed. Daw’r ddibyniaeth hon â materion newydd i ddelio â hwy yn ddyddiol – esblygiad syniadau, materion diogelwch a materion dylunio i enwi ond rhai. Mae’r radd Meistr hon yn ddiwydiannol ei naws ac mae’n rhoi’r cyfle i astudio ar lefel ôl-radd i’r rheiny nad ydynt yn meddu ar radd gyntaf mewn cyfrifiadura neu’r rheiny a gafodd radd mewn Cyfrifiadura rai blynyddoedd yn ôl.
Bydd y cwrs yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i fod yn weithiwr TG proffesiynol. Mae'n darparu cwrs heriol ond cyffrous ar gyfer pobl frwdfrydig sydd am ennill sgiliau damcaniaethol ac ymarferol mewn cyfrifiadureg.
Ynghyd â chwrs trylwyr ar raglennu a chronfeydd data, mae yna amrywiaeth o fodiwlau craidd gorfodol sy’n rhoi’r wybodaeth sylfaen ofynnol er mwyn bod yn effeithiol yn y diwydiant cyfrifiadureg, yn ogystal â nifer o fodiwlau opsiynol sy’n ymdrin â phynciau arbenigol ychwanegol. Bydd myfyrwyr hefyd yn gwneud prosiect yn ystod yr haf, a bydd hwn fel arfer yn cynnwys dylunio a gweithredu darn sylweddol o feddalwedd.
Prif ffeithiau
- Cyfle i astudio yn fanwl amrywiaeth eang o bynciau
- Mae modiwlau opsiynol yn rhoi modd i chi feithrin sgiliau arbenigol mewn amrywiaeth o feysydd
- Caiff darlithoedd/tiwtorialau a sesiynau ymarferol eu cyfoethogi drwy ddefnyddio deunyddiau ychwanegol ar-lein sy’n llawn adnoddau, gan roi modd i chi barhau i ddysgu’n annibynnol trwy amrywiaeth o ddulliau
- Addysgir gan staff sy’n arwain ymchwil i feysydd y rhyngrwyd a rhwydweithiau cyfrifiadurol
- Mae gweithgareddau ymchwil yn gysylltiedig â grŵp ymchwil cyfrifiadura’r Brifysgol, sef y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Rhyngrwyd Gymwysedig (CAIR). Yn y Ganolfan hon, mae timoedd ymchwil/prosiect yn astudio agweddau gwahanol ar Dechnolegau a Chymwysiadau’r Rhyngrwyd gan gynnwys Algorithmau’r Rhwydwaith, Cynllunio a Rheoli Rhwydwaith a Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiadur
Hyd y cwrs
Llawn amser
Blwyddyn
Rhan-amser
2-3 blynedd
Lleoliad: Wrecsam
Mis dechrau: Medi
Cyfleoedd gyrfa
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, bydd myfyrwyr fel arfer yn barod i fynd i yrfa yn y diwydiant datblygu meddalwedd, neu weithio i gefnogi a datblygu rhwydweithiau neu gronfeydd data. Mae opsiynau datblygiad proffesiynol posibl eraill yn cynnwys astudio gradd meistr arbenigol pellach neu radd ymchwil.
Cynnwys y cwrs
Mae’r cwrs yn cynnwys:
- Pedwar modiwl gorfodol sy’n cael eu dysgu
- Dau fodiwl arbenigol, opsiynol sy’n cael eu dysgu (gan dynnu ar dair thema arbenigol, pob un yn gysylltiedig ag agwedd wahanol ar gyfrifiadura)
- Modiwl prosiect traethawd estynedig Cynllunio Datblygiad Personol sy’n rhan annatod o broses ddysgu pob elfen o’r rhaglen.
- Datblygu Meddalwedd: Rhaglennu sy’n canolbwyntio ar Wrthrych
- Systemau Cronfa Ddata
- Astudiaethau Ôl-radd a Dulliau Ymchwilio
- Technolegau Newydd a Thechnoleg y Dyfodol
- Traethawd Estynedig / Prosiect Ymchwil
Opsiynau:
- Rheoli Prosiect TG
- Heriau Proffesiynol mewn Cyfrifiadura
- Amgylcheddau Datblygu Amlgyfryngau
- Cynhyrchu Sain a Cherddoriaeth Cymhwysol
- Caledwedd a Meddalwedd Rhwydweithio
- Technolegau a Thechnegau Rhwydweithio
- Dylunio a Datblygu Gwefan Fasnachol
- Datblygu Cymwysiadau Gwe a Symudol
Gofynion derbyn
Y gofyniad derbyn safonol ar gyfer y rhaglen MSc yw gradd anrhydedd â dosbarth 2:2 ar y lleiaf neu gymhwyster dramor o safon gyfwerth mewn pwnc heblaw Cyfrifiadureg. Mewn rhai achosion gellid derbyn ymgeiswyr sydd â phrofiad masnachol neu ddiwydiannol sylweddol, yn amodol ar gyfweliad a geirda.
Asesu
Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o dechnegau gwaith cwrs gan gynnwys gwaith ymarferol, profion ar-lein, adroddiadau ar broblemau labordy ac aseiniadau sy’n defnyddio astudiaethau achos.
Cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth, neu i drafod unrhyw agwedd benodol ar y cwrs yma neu ein proses dderbyn, gallwch gysylltu â Nigel Houlden, a fydd yn fwy na pharod i’ch helpu:
Nigel Houlden, Tiwtor Derbyn
Ysgol Cyfrifiadura a Thechnoleg Cyfathrebu, Prifysgol Glyndŵr Rhif ffôn uniongyrchol: 01978 293082 Ebost: n.houlden@glyndwr.ac.uk
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|