Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Afioneg

MSc Afioneg

Mae’r datblygiadau a wnaed yn y diwydiant awyrofodol yn ystod y degawd diwethaf wedi bod yn syfrdanol. Mae profi ac ymchwil dwys parhaus yn golygu fod y duedd yma yn debygol o barhau – gan arwain at angen am bersonél afioneg hynod fedrus.  

Mae’r meysydd a gwmpasir yn y cwrs yma yn cynnwys deinameg hedfan; trin a thrafod awyrennau a nodweddion hedfan; sefydlogrwydd awyrennau; geirosgopau a mesuryddion cyflymu; offer hedfan; synwyryddion a chychwynyddion; technegau modelu a dadansoddi a datrysiadau trosglwyddo Laplace.

Astudiwch yr MSc Afioneg a byddwch yn gallu datblygu sgiliau dylunio, rheoli prosiect, ymchwil, dadansoddi a gwerthuso. Bydd gwybodaeth uwch a dealltwriaeth fanwl o’r diwydiant awyrofodol a fydd gennych yn sgil y radd yn eich galluogi i hybu eich gyrfa a chael achrediad gan gyrff peirianneg proffesiynol.

Nodweddion arbennig

  • Cefnogaeth ragorol ar gael i fyfyrwyr o fewn amgylchedd dysgu/ymchwil.
  • Cael cyflwyniad i ddatblygiad technolegol blaenllaw mewn electroneg.
  • Cyfleusterau TG ac offer dadansoddi tra modern yn cefnogi elfennau a addysgir ac ymchwil y radd.

Cyfleoedd gyrfaol

Mae’r cwrs yn ddelfrydol os ydych yn raddedig sydd eisoes yn gweithio mewn electroneg ac eisiau diweddaru eich sgiliau, neu gael cyfleoedd gyrfaol pellach. Y mae hefyd yn addas os ydych newydd raddio ac yn ceisio cael sgiliau uwch, neu os ydych wedi graddio o ddisgyblaeth gysylltiedig ond eisiau newid cyfeiriad eich gyrfa.

Ar ôl cwblhau’r MSc Afioneg yn llwyddiannus, dylech allu cael swydd ar lefel uwch. Fe allai hyn olygu ymchwil academaidd, gan gynnwys astudio ar lefel ddoethuraidd.

Cynnwys y cwrs

  • Dulliau Ymchwil
  • Rheoli Prosiect
  • Systemau Afioneg Awyrennau
  • Dadansoddi Systemau Rheoli Hedfan
  • CAD Uwch
  • Systemau Rheoli Uwch
  • Prosesu Signal Digidol Uwch
  • Dylunio a Phrofi Electronig Uwch
  • Peirianneg Amledd Radio
  • Traethawd Estynedig

Asesu

Fe’ch asesir trwy gydol eich cwrs gan amryw o ddulliau gan gynnwys portffolios, cyflwyniadau ac, ar gyfer rhai pynciau, arholiadau.

Gofynion mynediad

Gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn disgyblaeth beirianneg briodol neu brofiad proffesiynol perthnasol.

Hyd y cwrs

Llawn amser: 1 mlynedd
Rhan amser: 2-3 blynedd

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk