Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Addysgu Seicoleg

Addysgu Seicoleg

MSc Addysgu Seicoleg

Nod y rhaglen yw cefnogi datblygiad proffesiynol academaidd ar gyfer athrawon seicoleg ôl-16 trwy astudiaeth uwch o theori ac ymchwil o fewn meysydd seicoleg ac addysg.

Prif ffeithiau

Yn benodol, amcanion y cwrs yw:

  • darparu myfyrwyr gyda’r wybodaeth a’r sgiliau beirniadol sy’n ofynnol i addysgu’n effeithiol o fewn disgyblaeth seicoleg
  • annog ystyriaeth feirniadol o ystod o agweddau at addysgu cynnwys a sgiliau seicolegol
  • darparu myfyrwyr gyda dealltwriaeth feirniadol gyfredol o ddatblygiadau cyfoes o fewn seicoleg ac addysg fel ei gilydd
  • datblygu sgiliau ymchwil myfyrwyr fel eu bod yn gallu cynnal ac adrodd ar unrhyw ddarn o ymchwil annibynnol i safon gyhoeddadwy.

Bydd yr MSc mewn Addysgu Seicoleg yn gwrs dysgu o bell rhan-amser. Darperir deunydd y cwrs gan ddefnyddio amgylchedd rhith-ddysgu’r Brifysgol, Moodle.

Cefnogir pob modiwl yn wythnosol gyda deunydd darllen, asesiad ffurfiannol byr ac astudiaeth grŵp cyfoedion. Disgwylir hefyd i fyfyrwyr ymgymryd ag astudiaeth breifat.

Bydd yr elfen ar-lein yn cynnwys ymgymryd â thestunau, gyda phwyslais ar erthyglau ymchwil, ymgymryd â chyfryngau sain/clyweledol, cynnal a chyflwyno asesiadau ffurfiannol.

Cynhelir y grŵp astudiaeth cyfoedion trwy Moodlegan ddefnyddio blogiau a fforwm trafod. Anogir myfyrwyr i ryngweithio yn uniongyrchol gyda thiwtor eu modiwl trwy gyfuniad o gyswllt ebost a ffôn. 

Cyfleoedd gyrfa

Mae’r rhaglen yma yn darparu DPP ar gyfer athrawon gweithredol Seicoleg ôl-16 sy’n dymuno cael cymhwyster lefel Meistr er mwyn mwyhau dilyniant trwy’r proffesiwn addysgu.

Hyd y cwrs

Rhan-amser:
3 blynedd
Lleoliad: Wrecsam
Mis dechrau: Medi

Strwythur y cwrs

Cyflenwir y cwrs dros gyfnod o dair blynedd. Yn y flwyddyn gyntaf, bydd y myfyrwyr i gyd yn astudio: 
Issues in the Teaching of Seicoleg (20 credyd)

Materion mewn addysgu Dulliau Ymchwil mewn Seicoleg (20 credyd)

Naill ai Addysgu Meddwl yn Feirniadol neu fodiwl Dysgu Trafodedig ble mae’n bosib y gellid trafod y cynnwys a’r dull asesu gyda’ch tiwtor (20 credyd).

Yn yr ail flwyddyn, bydd y myfyrwyr i gyd yn astudio:
Datblygiadau Cyfoes mewn Seicoleg (20 credyd)

Datblygiadau Cyfoes mewn addysgu Seicoleg (20 credyd)

Datblygiad Proffesiynol (20 credyd)

Yn y flwyddyn olaf byddwch yn cwblhau traethawd hir (60 credyd) ar bwnc o’ch dewis chi.

Gofynion mynediad

Gallai graddedigion Seicoleg a graddedigion o ddisgyblaethau eraill fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen yma. Bydd angen i chi fod yn addysgu seiceolg neu bynciau cysylltiedig yn rhan-amser o leiaf.

Asesu

Bydd yna strwythur asesu amrywiol a gwneir pob ymdrech i sicrhau fod tasgau asesu yn berthynasol i’ch gwaith o ddydd i ddydd.

Tîm y Cwrs

Yr Athro Christopher Alan Lewis
Dr Mandy Robbins
Dr Julia Russell
Dr Peter Gossman
Fiona Lintern

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk