Text begins here:
Technoleg Sain Greadigol
MSc Technoleg Sain Greadigol
MRes Technoleg Sain Greadigol
Mae hwn yn gwrs ymarferol ble byddwch yn ennill profiad drwy ddefnydd ymarferol o’n cyfleusterau helaeth. Mae'r rhain yn cynnwys stiwdio sain tra modern ac ystafell Midi, ystafell y cyfryngau, a labordai sain yn y Stiwdios Sain.
Mae'r cwrs MSc yn cynnig rhaglen astudio gyfoethog sy’n draws-ddisgyblaethol, gan eich galluogi i ddatblygu sgiliau ym meysydd amlgyfryngau, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu sain, yn ogystal â thechnolegau digidol eraill sy’n berthnasol i sain.Cafodd y cwrs ei gynllunio i hyfforddi graddedigion er mwyn cwrdd â'r galw cynyddol yn y maes sain mewn diwydiant a hefyd i alluogi gweithwyr i gyrraedd eu potensial llawn.
Mae'r MRes yn ddelfrydol i’r rheiny sydd â diddordeb mewn astudio rhaglen ymchwil mewn amgylchedd creadigol. Mae wedi'i anelu i ddiwallu anghenion graddedigion sy'n canolbwyntio ar ymchwil sydd â phrofiad mewn technoleg cerddoriaeth neu beirianneg sain.
Trwy astudio dulliau ymchwil generig a chyd-destunau ymchwil, defnyddio gwybodaeth sy’n benodol i bwnc ac yna gynnal prosiect ymchwil annibynnol, mae'r cwrs yn anelu at gefnogi a dyfnhau eich diddordebau ymchwil, ar yr un pryd â chryfhau eich dealltwriaeth o faterion sy’n ymwneud yn benodol ag ymchwil.
Prif ffeithiau
- Mae gweithgareddau ymchwil yn gysylltiedig â grŵp ymchwil cyfrifiadura’r Brifysgol, sef y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Rhyngrwyd Gymwysedig (CAIR)
- Cewch ddefnyddio’r ystafelloedd amlgyfrwng llawn offer sydd ar y campws
- Mae yna ganolfan theatr a chynadleddau newydd ar y campws
- Mae yna stiwdio recordio fawr sy’n gweithredu 24 awr y dydd
- Mae gorsaf radio gymunedol Calon FM 105 yn gweithredu ar gampws Prifysgol Glyndŵr felly bydd gennych fodd o ddefnyddio gorsaf radio broffesiynol sy’n helpu i gynorthwyo datblygiad gyrfa myfyrwyr
- Dyma’r unig orsaf radio gymunedol yng Nghymru sydd wedi’i lleoli mewn prifysgol
- Mae ein Canolfan Diwydiannau Creadigol newydd sy’n werth £5 miliwn yn cynnwys ystafelloedd cynhyrchu proffesiynol ar gyfer y teledu a’r radio. Mae'r ganolfan yn ganolbwynt ar gyfer datblygu diwylliant diwydiannau creadigol, ar gyfer myfyrwyr a diwydiant
Hyd y cwrs
Llawn amser
MSc: blwyddyn
MRes: blwyddyn
Rhan-amser
MSc: 2 flynedd
MRes: 2 flynedd
Lleoliad: Wrecsam
Mis dechrau: Medi
Cyfleoedd gyrfa
Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs wedi ennill gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol fanwl mewn agweddau technegol ar gerddoriaeth/sain a thechnoleg recordio, gan eu galluogi i bennu, nodweddu, integreiddio a chymhwyso technoleg cerddoriaeth mewn stiwdios, theatr, cyngherddau, teledu a radio, sain ar gyfer cymwysiadau a gêmau amlgyfrwng, ac ymchwil i dechnolegau newydd. Mae'r llwybr rhan-amser yn addas ar gyfer technolegwyr, darlithwyr ac athrawon presennol mewn sefydliadau academaidd, a gallai gwaith a wneir ar y cwrs arwain at ganlyniadau sy'n werthfawr i gyflogwr presennol neu ddarpar-gyflogwr. Bydd modd cael profiad ymarferol drwy ddefnyddio ein cyfleusterau helaeth, sy’ncynnwys stiwdio sain o’r radd flaenaf ac ystafell Midi, ystafell y cyfryngau a labordai sain yn ein Stiwdios Sain.
Cynnwys y cwrs
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i fodloni safonau proffesiynol sy'n bodoli eisoes, ac i’ch addysgu i’r lefel uchaf wrth ddefnyddio sain yn greadigol ac archwilio sut y gall syniadau creadigol a thechnolegau newydd gael eu cyfuno, eu gwella a’u hail-ddiffinio, ar yr un pryd â sicrhau eich bod yn cael profiad ac yn rheoli offer clyweled proffesiynol.
MSc Technoleg Sain Greadigol
- Astudiaethau Ôl-radd a Dulliau Ymchwilio
- Technolegau Newydd a Thechnoleg y Dyfodol
- Dylunio Sain Greadigol
- Technoleg Perfformiad Byw
- Cynhyrchu Sain a Cherddoriaeth Cymhwysol
- Amgylcheddau Datblygu Amlgyfryngau
- Traethawd Estynedig/Prosiect MRes Technoleg Sain Greadigol
- Astudiaethau Ôl-radd a Dulliau Ymchwilio
- Technolegau Newydd a Thechnoleg y Dyfodol
- Dylunio Sain Greadigol
- Technoleg Perfformiad Byw
- Prosiect Ymchwil
Gofynion derbyn
Mae mynediad i’r rhaglen MSc drwy radd anrhydedd â dosbarth 2:2 ar y lleiaf neu gymhwyster cyfwerth, er y gellid mewn rhai achosion dderbyn ymgeiswyr sydd â phrofiad masnachol neu ddiwydiannol sylweddol, yn amodol ar gyfweliad a geirda.
Ar gyfer y rhaglen MRes, mae gofyn cael gradd anrhydedd â dosbarth 2:1 ar y lleiaf i raddedigion sydd â phrofiad mewn technoleg cerddoriaeth neu beirianneg sain. Gellid derbyn graddedigion o ddisgyblaethau eraill yn ôl penderfyniad y tiwtor derbyn. Mewn rhai achosion gellid derbyn ymgeiswyr sydd â phrofiad masnachol neu ddiwydiannol sylweddol, yn amodol ar gyfweliad a geirda.
Cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth, neu i drafod unrhyw agwedd benodol ar y cwrs yma neu ein proses dderbyn, gallwch gysylltu â Nigel Houlden, a fydd yn fwy na pharod i’ch helpu:
Nigel Houlden, Tiwtor Derbyn
Ysgol Cyfrifiadura a Thechnoleg Cyfathrebu, Prifysgol Glyndŵr Rhif ffôn uniongyrchol: 01978 293082 Ebost: n.houlden@glyndwr.ac.uk
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|